Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf unwaith eto yn falch o ymuno â dathliad byd-eang Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2025, a gynhelir ddydd Sadwrn, 8 Mawrth. Mae'r Diwrnod Rhyngwladol yn achlysur byd-eang blynyddol sy'n dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Y thema eleni yw Gweithredwch, gan nodi galwad am weithredu i sbarduno camau gweithredu tuag at gydraddoldeb o ran rhywedd.
Mae'r Diwrnod Rhyngwladol yn gyfle i ni ddathlu ein gweithwyr sy'n fenywod. Yma yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, mae dros 75% o'n staff yn fenywod, tra bod 35 o'n 75 Aelod Etholedig yn fenywod. Mae gennym ni hefyd dair sy'n Aelod o'r Cabinet ar hyn o bryd, gan gynnwys y Dirprwy Arweinydd, yn ogystal â Maer a Dirprwy Faer.
Drwy gydol yr wythnos yn arwain at y Diwrnod, byddwn ni'n rhannu dyfyniadau ysbrydoledig gan rai o'r menywod cryf sy'n gweithio yn y Cyngor, gan amlygu eu cyflawniadau a'u safbwyntiau ar gydraddoldeb rhywedd. Cadwch lygad ar ein sianeli cymdeithasol i ddarllen y straeon.
Dywedodd Gaynor Davies, Cyfarwyddwr Addysg a Hyrwyddwr Rhywedd y Cyngor: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn achlysur pwysig sy’n rhoi’r cyfle i ni ddathlu llwyddiannau pob menyw, yn ogystal â gwella ymwybyddiaeth am fater cydraddoldeb rhywedd.
“Mae’n amser i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed ac i gydnabod y gwaith sydd angen ei wneud o hyd i sicrhau cydraddoldeb go iawn yn ein cymdeithas. A minnau'n Hyrwyddwr Rhywedd y Cyngor, mae’n rhan o’m rôl i sicrhau ein bod yn cynnal ein hymroddiad i sicrhau gweithle teg a chyfartal i bawb a’n bod yn annog pob menyw i fod â dyheadau uchel ac i fynd ati’n frwd i wireddu eu breuddwydion a’u huchelgeisiau.”
Mae adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn y DU 2024, yn datgelu bod y bwlch cyflog presennol yn y DU yn 13.1%, sy’n golygu nad yw dynion a menywod yn cael yr un tâl am yr un gwaith. Ar gyfartaledd, mae dynion yn ennill £19.24 yr awr, tra bod merched yn ennill dim ond £17.88 yr awr.
Yn ogystal, yng Nghymru, er bod camau breision wedi’u cymryd tuag at gydraddoldeb o ran rhywedd, mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli mewn rhai diwydiannau, megis meysydd Gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), cyllid ac arweinyddiaeth. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae bwlch o 8.9% o hyd yn y cyflogau. Er bod y ffigur hwn yn is na chyfartaledd y DU, mae’n tanlinellu’r angen am waith parhaus tuag at wireddu cydraddoldeb wrth i fenywod barhau i wynebu rhwystrau i ddatblygu gyrfa a’u gallu i ennill cyflog gwell.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Yma yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, credwn y dylai pob unigolyn gael y cyfle i weithio mewn capasiti sy’n gweddu i’w sgiliau a’u dyheadau, heb gael eu cyfyngu gan eu rhyw. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched hwn, rydym ni'n tynnu sylw at ein memywod cryf sy'n gweithio i ni i ddangos, waeth beth fo'u rhyw, bod gan bawb yma gyfle i lwyddo.
“Fel rhywun sydd wedi ymrwymo’n ddwfn i gefnogi menywod mewn gwleidyddiaeth, rwy’n falch o weld cymaint o fenywod mewn rolau gwleidyddol o fewn ein Cyngor, gyda 35 o’n 75 Aelod etholedig yn fenywod.
“Mae’r symud ymlaen yma yn dyst i’r frwydr hir dros hawl menywod i bleidleisio a’r ymdrechion parhaus i sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed a’u cynrychioli ym mhob rhan o gymdeithas. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i herio stereoteipiau yn nhermau rhywedd, grymuso menywod i ffynnu, a sbarduno camau gweithredu tuag at gydraddoldeb rhywedd.”
I'w ddathlu'n flynyddol ar Fawrth 8, mae i'r Diwrnod Rhyngwladol hanes cyfoethog sy'n dyddio'n ôl i 1911, pan gefnogodd dros filiwn o bobl y cyfarfod Diwrnod Rhyngwladol y Merched cyntaf.
Esboniodd ffeminydd, newyddiadurwr ac actifydd byd-enwog, Gloria Steinem, unwaith: “Nid yw stori brwydr menywod i sichrau cydraddoldeb yn perthyn i un ffeminydd yn unig, nac i unrhyw un sefydliad yn unig, ond i gydymdrechion pawb sy’n poeni am hawliau dynol.”
Mae thema eleni, Gweithredwch, yn ein hatgoffa y bydd yn cymryd 133 o flynyddoedd i sicrhau cydraddoldeb llawn rhwng y rhywiau fel y mae pethau'n symud ar hyn o bryd. Ac eto, gyda’n gilydd, gallwn i gyd weithio i sbarduno'r camau gweithredu i fenywod ledled y byd. Drwy ddeall beth sy'n gweithio a gwneud mwy ohono, yn gyflymach, gallwn ni gymryd camau breision tuag at gydraddoldeb y rhywiau.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched a’r thema eleni, ewch i: https://www.internationalwomensday.com/
#DiwrnodRhyngwladolyMerched #Gwethredwch #IWD2025 #AccelerateAction
Wedi ei bostio ar 04/03/2025