Mae unigolyn sydd wedi tipio'n anghyfreithlon sawl gwaith wedi cael gorchymyn cymunedol a dirwy gwerth dros £1000 am ddifetha Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Cafodd Mr Jeremy Boyes, sy'n 55 oed o Benrhiwceiber, ei ddal ar sawl achlysur pan benderfynodd dipio eitemau'n anghyfreithlon yn agos i'w gartref.
Trodd Mr Boyes fan prydferth lleol yn fan tipio'n anghyfreithlon a pharhaodd i ddefnyddio'r ardal i gael gwared ar ei wastraff diangen! Roedd y lleoliad lai na hanner milltir o'i gartref ar hyd y ffordd rhwng Heol Llanwynno, Perthcelyn a Heol y Felin, Ynys-y-bwl - a adnabyddir yn lleol fel y JamPot.
Tynnwyd sylw Carfan Gorfodi'r Cyngor at yr ardal, ar ôl i nifer fawr o eitemau gael eu gadael yno ar ddau achlysur – roedd nifer o sachau adeiladu a oedd yn cynnwys teiars car, rhannau plastig peiriant sychu dillad, teiars beic, teiar beic modur, bocs cardbord, droriau rhewgell-rewgist, clustog cadair haul, bleinds ffenestr, mat porffor, olwynion sgwter plastig a phren.
O ganlyniad i'r problemau parhaus gyda thipio'n anghyfreithlon yn yr ardal, defnyddiwyd camera cudd i helpu i ddal y troseddwr.
Diolch i'r camera cudd yma, roedd y garfan yn barod i ddal Mr Boyes pan benderfynodd daflu cwteri plastig gwyn, dodrefn wedi torri, peiriant sychu dillad plastig/rhannau peiriant golchi dillad, bocsys storio plastig glas, cadeiriau plastig gwyn, paled pren glas, bwrdd bwyta pren wedi'i blygu, byrddau plastig gwyn a bwcedi gwyn. Fodd bynnag, dim ond mis yn ddiweddarach, daeth y Garfan Gorfodi ar draws hyd yn oed mwy o wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon gan Mr Boyes ar yr un arglawdd. Roedd y gwastraff wedi cael ei losgi ac roedd yn cynnwys rhannau plastig o beiriant sychu dillad/peiriant golchi dillad, gweddillion teiars wedi'u llosgi a phren. Ar ôl edrych ar y camera cudd, roedd yn amlwg mai'r un cerbyd oedd yn gyfrifol – mae modd gweld gyrrwr gwrywaidd yn gadael cerbyd ac yn troethi yn erbyn y fan, yna mae'n edrych i fyny ac i lawr y ffordd cyn dechrau dadlwytho gwastraff o gefn y fan.
Rydyn ni bellach yn gwybod mai Mr Boyes oedd y gyrrwr ac mae modd ei weld yn llusgo sach adeiladu sy'n llawn gwastraff o gefn y cerbyd. Yna gwelir y gyrrwr yn cerdded yn ôl tuag at ddrws gyrrwr y fan, mae bellach yn cario can petrol y mae'n ei osod o flaen y cerbyd.
Yna gellir gweld y fan yn gyrru i ffwrdd, a thân yn llosgi yn y cefndir.
Ar ôl cynnal ymchwiliadau amrywiol, cysylltodd y Garfan Gorfodi â Mr Boyes i'w wahodd i gyfweliad o dan Godau Ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, mewn perthynas â'r digwyddiadau. Yn dilyn y cyfweliad, penderfynwyd paratoi ffeil erlyn yn erbyn Mr Jeremy Boyes am dipio'n anghyfreithlon a chyflawni trosedd o dan Adran 33 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Mae Adran 33 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn nodi gwaharddiad ar dipio, trin neu gael gwared ar wastraff mewn modd anawdurdodedig neu niweidiol. Gallai unrhyw un sy'n methu â glynu wrth y ddeddf yma wynebu dirwy fawr, yn yr un modd â'r unigolyn yn yr achos yma!
Ymddangosodd Mr Boyes ger bron Llys Ynadon Merthyr Tudful a phlediodd yn euog i ddau achos o dipio'n anghyfreithlon.
Cafodd Mr Boyes Orchymyn Cymunedol 12 mis – 80 awr o waith di-dâl, gorchymyn i dalu costau gwerth £1,003.02 a gordal i ddioddefwyr gwerth £114 – cyfanswm o £1,117.02.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf:
"Fyddwn ni ddim yn caniatáu tipio'n anghyfreithlon. BYTH. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, ein strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff, a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.
"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB adroddiad am dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion fel y dysgodd y troseddwr yma.
"Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd bob blwyddyn. Dylai'r arian yma gael ei wario ar wasanaethau allweddol y rheng flaen yn ystod cyfnod pan fo pwysau mawr ar y gyllideb.
“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn i gyfrif y rheini sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu waredu mewn Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd heb unrhyw gost ychwanegol."
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o dipio'n anghyfreithlon, materion ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 27/03/2025