Skip to main content

Trefniadau bws dros dro ar gyfer cau ffordd ar frys yn Ffynnon Taf

temporary-bus-arrangements_WELSH

Mae'r Cyngor wedi trefnu gwasanaeth bws gwennol AM DDIM rhwng #FfynnonTaf a #Nantgarw, o ganlyniad i waith brys sy'n cael ei gyflawni gan weithwyr Dŵr Cymru.

Mae prif bibell ddŵr wedi byrstio ar yr A4054 Heol Caerdydd, i'r de o Ffynnon Taf, ychydig y tu allan i ffin Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Felly, mae Cyngor Caerdydd wedi cau'r ffordd ar hyd yr A4054 Heol Caerdydd, o'i chyffordd â'r B4262 wrth Gyfnewidfa Ffynnon Taf a hyd at ffin y Fwrdeistref Sirol.

Mae modd i fodurwyr o ochr ogleddol y ffordd sydd ar gau deithio ar hyd Heol Caerdydd, Cylchfan Stryd Rhydychen, Cyfnewidfa Nantgarw, yr A470 (tua'r de) a Chylchfan Ffynnon Taf. O ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau, ewch ymlaen ar hyd yr A470 (tua'r de), Cylchfan Coryton, A470 (tua'r gogledd), Cyfnewidfa Nantgarw, Cylchfan Stryd Rhydychen, a Heol Caerdydd.

Mae disgwyl i'r ffordd aros ar gau hyd at ddydd Gwener 28 Mawrth.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi trefnu bod bws gwennol yn rhedeg rhwng Gorsaf Drenau Ffynnon Taf i safleoedd bws y Cross Keys yn Heol Caerffili, Nantgarw.

Mae’r bws gwennol bellach ar waith, ac mae’n wasanaeth RHAD AC AM DDIM sy’n cael ei redeg gan gwmni Bella Road Services.

Yn Heol Caerffili, bydd y bws gwennol yn cysylltu â nifer o wasanaethau lleol ar gyfer teithio ymlaen – Gwasanaeth Stagecoach 26 (Caerdydd- Y Coed Duon) a Gwasanaeth 132 (Caerdydd-Maerdy), yn ogystal â gwasanaeth Edwards Coaches Caerdydd i Waunmeisgyn.

Mae amserlen lawn y bws gwennol hyd at ddydd Gwener i'w gweld yma.

Diolch i gymunedau lleol a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 25/03/2025