Bydd eich injan yn rhuo diolch i'r Sioe Ceir Clasur, sy'n dychwelyd i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda ar 28 Mehefin.
Dyma achlysur gwych i'r teulu cyfan ei fwynhau, gyda chyfle i weld ceir clasur mewn cyflwr arbennig a chwrdd â'u perchnogion brwdfrydig a gwybodus. Mae'r cyfan yn digwydd ddydd Sadwrn, 28 Mehefin, rhwng 10am a 4pm.
Yn ôl yr arfer, bydd yr achlysur yn cael ei gynnal ar y cyd â Chlwb Ceir Clasur Morgannwg. Cost mynediad yw £5.50 i oedolion, £4.50 i blant dros 5 oed. Mae mynediad i blant dan 5 oed am ddim.
Meddai Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Sioe Ceir Clasur wedi bod yn achlysur poblogaidd iawn sy'n cael ei gynnal yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Wedi'i drefnu ar y cyd â Chlwb Ceir Clasur Morgannwg, mae'r ceir sy'n cael eu harddangos bob tro fel pin mewn papur. Mae'n gyfle i ail-fyw'r gorffennol. Mae'r sioe'n cael ei chynnal ym muarth Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, felly mae'r hen geir clasur yn cael eu harddangos o flaen cefndir trawiadol a hanesyddol."
"Mae perchnogion y ceir bob amser yn hapus i rannu straeon eu ceir, mae cariad y perchnogion tuag at eu ceir yn hawdd i'w weld. Mae modd i bawb fwynhau'r achlysur, p'un ai selogion ceir, teuluoedd a phlant.
Os ydych chi'n dod draw i'r Sioe Ceir Clasur eleni, cofiwch fod modd i chi hefyd ymweld ag arddangosfeydd rhyngweithiol Parc Treftadaeth Cwm Rhondda am ddim, mwynhau pryd o fwyd, byrbryd neu de prynhawn yn Caffe Bracchi, a tharo heibio i'r siop anrhegion i bori'r casgliad o gofroddion, anrhegion clasurol Cymreig a chynnyrch lleol. Efallai byddwch chi'n gweld ambell beth i ychwanegu at eich casgliad!
Mae croeso i chi fwynhau taith yr Aur Du hefyd, lle bydd cyn-löwr yn rhoi helmed glöwr ar eich pen ac yn eich cludo o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser.
Mae gan bob un o'r cyn-lowyr lond y byd o atgofion o byllau glo De Cymru. Mae pob taith yn wahanol diolch i straeon a jôcs gwahanol y cyn-lowyr a fydd eich tywys chi. Mae pob taith yn gorffen â reid ar DRAM! Daliwch yn dynn wrth i chi ddynwared taith olaf y glo ar ddram i ben siafft y pwll yn y profiad cyffrous yma!
Mae tocynnau ar gyfer y Sioe Ceir Clasur ar gael yma. Bydd tocynnau hefyd ar gael ar y diwrnod.
Hoffech chi arddangos eich car yn y sioe? Llenwch y ffurflen gais yma a'i dychwelyd i Glwb Ceir Clasur Morgannwg. Mae manylion y clwb i'w gweld ar y ffurflen.
Ewch i rhonddaheritagepark.com i ddysgu rhagor am Barc Treftadaeth Cwm Rhondda, cadw lle ar Daith Dywys Danddaearol yr Aur Du neu gadw bwrdd yn Caffè Bracchi.
Wedi ei bostio ar 27/05/2025