Bydd angen pythefnos o waith i atgyweirio wal ar Heol Ynysybwl, ar y rhan rhwng Pontypridd a Glyn-coch, a bydd angen gosod goleuadau traffig dros dro.
Bydd y cynllun yn cynnwys unioni difrod i'r strwythur yn y llun yn dilyn damwain ffordd flaenorol, a bydd y gwaith yn dechrau o ddydd Mawrth 27 Mai – yn dilyn cyfnod prysuraf y bore.
Bydd y gwaith yn cynnwys crafu morter ac ailbwyntio rhannau penodol o'r wal, ac ailosod meini copa ar y rhannau sydd wedi'u difrodi.
Bydd rhannau penodol o'r wal yn cael eu dymchwel a'u hailadeiladu lle bydd angen, a bydd rhannau o'r rheiliau yn cael eu hailosod.
Bydd angen cau'r lôn tua'r gogledd er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd a'r gweithlu.
Bydd hyn yn cael ei reoli trwy osod goleuadau traffig dwyffordd dros dro a fydd yn cael eu rheoli â llaw yn ystod y cyfnodau prysuraf i leihau aflonyddwch.
Bydd y llwybr troed cyfagos hefyd ar gau – fodd bynnag, bydd llwybr amgen i gerddwyr ar gael yn ardal y lôn a fydd ar gau.
Mae'r Cyngor wedi penodi Spectrum Construction Services Ltd i gynnal y gwaith ar y safle. Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid refeniw'r Cyngor.
Diolch i drigolion lleol a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 22/05/2025