Skip to main content

Dyn yn cael DIRWY o fwy na £2100 am Ddefnyddio'r Ffordd Fawr fel SGIP!

Mae dyn sydd wedi bod yn defnyddio'r palmant y tu allan i'w dŷ fel sgip personol wedi cael dirwy o fwy na £2100.

Roedd Mr Daniel Morgan o Stryd Bron Heulog, Aberaman, Aberdâr yn defnyddio'r ffordd fawr y tu allan i'w dŷ teras fel storfa dipio ar gyfer ei fusnes cael gwared ar sbwriel.

Roedd Mr Morgan, oedd yn masnachu o dan yr enw Dan's Disposable Services yn cael ei dalu i waredu eitemau, ar sail ewyllys da, ond yn hytrach roedd yn eu gadael ar garreg ei ddrws ei hun am gyfnodau hir o amser hyd nes bod yr eitemau'n cyrraedd y ffordd gyhoeddus. Ymhlith yr eitemau roedd soffa dridarn, byrddau gweithio ar gyfer y gegin, tomenni o deiars a fframiau ffenestri a drysau.

Cafodd carfan Gorfodi'r Cyngor gwyn ac fe aethon nhw i'r eiddo ym mis Ebrill 2024 a chael bod yr eitemau wedi'u gwasgaru y tu allan i'r eiddo ar ei hyd; doedd dim modd defnyddio'r llwybr cyhoeddus o gwbl yn sgil hyn. Roedd yr eitemau mawr wedi'u codi'n bentwr ac arnyn nhw olwg eu bod ar fin disgyn i'r llawr; gallai hyn fod wedi achosi cryn anafiadau i aelodau'r cyhoedd.

Roedd Mr Morgan wedi cyfaddef bod y gwastraff wedi dod o'r eiddo, a chafodd ei gynghori gan Swyddog Gorfodi'r Cyngor bod gofyn cael gwared ar y gwastraff ar unwaith, ac na allai unrhyw wastraff gael ei storio ar y ffordd fawr. Cafodd Mr Morgan wybod hefyd y byddai Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn cael ei gyflwyno iddo pe byddai'r broblem yn parhau.

Ychydig wythnosau'n ddiweddarach cyrhaeddodd cwyn arall garfan Gorfodi'r Cyngor. Hanfod y gwyn oedd bod y materion yn parhau fel o'r blaen a bod angen mynd i'r afael â nhw ar fyrder. Pan aeth swyddogion i'r fan, roedden nhw'n gallu gweld bod Mr Morgan yn parhau i ddefnyddio'r ffordd fawr yn le i adael gwastraff heb ei ddiogelu, ar y llawr.

Cafodd llythyrau rhybudd eu cyflwyno i Mr Morgan, ac ynddyn nhw roedd rhestr o ofynion roedd gofyn eu dilyn, ac fe gafodd wybod, pe byddai'n methu â chydymffurfio â'r gofynion a phe byddai'r ymddygiad yn parhau i gael effaith andwyol ar safon bywyd eraill, y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ystyried cyflwyno Hysbysiad.

Daeth trydydd cwyn i law wedi hynny, ac fe aeth y Swyddog Gorfodi i ymweld â'r eiddo unwaith yn rhagor. Pan gyrhaeddodd yno, gwelodd fod yno bentyrrau mawr o wastraff y tu allan i Rif 12 ac 16 Stryd Bronheulog fel ei gilydd. Ymhlith y gwastraff ar y palmant roedd 2 baen o wydr, drych, sach tunnell adeiladwr yn llawn gwastraff, 2 fwrdd gweithio, ffrâm soffa wedi'i dorri'n ddarnau a sbringiau, eitemau eistedd ac arnyn nhw glustogau, a chadair patio blastig.

Roedd Mr Morgan yn amlwg wedi anwybyddu'r cyngor cychwynnol gan y Cyngor, felly hefyd y llythyr rhybudd. Yn sgil hyn, doedd gan y Garfan Orfodi ddim dewis arall ond cyflwyno Hysbysiad iddo. Cyflwynodd Warden Gorfodi Gofal y Strydoedd yr hysbysiad â llaw i'r eiddo.

Y nod o ran yr Hysbysiad yw atal unrhyw ymddygiad afresymol sy'n cael effaith negyddol ar safon bywyd y gymuned leol.

Mae modd cyflwyno hysbysiad i unrhyw berson dros un-ar-bymtheg oed, boed yn unigolyn neu'n fusnes. Yn ei sgil bydd gofyn rhoi diwedd ar yr ymddygiad, ac os yw'n ofynnol, bydd gofyn hefyd i gamau rhesymol gael eu cymryd i ofalu nad yw'r ymddygiad yn digwydd eto yn y dyfodol.

10 niwrnod yn unig yn ddiweddarach, daeth cwyn arall i law a chafodd y Garfan Orfodi bod Mr Morgan wedi methu â chael gwared ar yr eitemau a'i fod yn parhau i ddefnyddio'r llwybr cyhoeddus fel petai'n sgip personol. Roedd, yn llythrennol, yn anharddu carreg ei ddrws ei hun gan gael effaith wirioneddol andwyol ar ei gymdogion a'r gymuned ehangach.

Cafodd Mr Morgan Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB) o £100 a gorchymyn i gael gwared ar yr eitemau a chydymffurfio â'r Hysbysiad. Cafodd wybod y byddai camau gweithredu pellach yn cael eu cymryd o beidio â chydymffurfio age. 

Dros y tri mis canlynol daeth tri chwyn pellach i law, fu'n destun archwilio unwaith yn rhagor gan aelodau o'r Garfan Orfodi. Cafodd tri Hysbysiad arall eu cyflwyno i Mr Morgan gan ddod â'r cyfanswm  i 4, pob un yn £100. Y cyfanswm ariannol felly oedd £400.

Gan i Mr Morgan fethu â gwneud y taliadau, na chael gwared ar yr eitemau, doedd gyda'r Cyngor ddim dewis ond cyfeirio'r mater i Lys Ynadon Merthyr Tudful.

Ymddangosodd Mr Morgan yn y Llys fis Ionawr 2025 gan bledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau. Cafodd ddyddiad ar gyfer gwrandawiad ym mis Mawrth.  Methodd Mr Morgan â mynychu ar y dyddiad dan sylw a chafodd y gwrandawiad ei aildrefnu. Methodd Mr Morgan, unwaith yn rhagor, â bod yn bresennol yn yr achos llys, a chafodd ei dreialu yn ei absenoldeb. 

Cafodd Mr Morgan DDIRWY o £250 am bob un o'r Hysbysiadau (£1000), £700 ar gyfer Costau a £400 ar gyfer Gordaliad Dioddefwr, gan ddod â'r cyfanswm i £2170. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Dyw tipio'n anghyfreithlon ddim yn cael ei ganiatau, BYTH. Does BYTH esgus am anharddu'n trefi, ein ffyrdd, ein strydoedd na'n pentrefi gyda gwastraff, a byddwn ni'n dod o hyd i'r sawl sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.

“Doedd dim rhaid i ni deithio ymhell i ganfod y troseddwr yn yr achos yma, gan iddo ddewis, yn llythrennol felly, greu llanast ar garreg ei ddrws ei hun ac andwyo'r stryd ar gyfer ei gymdogion a'r gymuned ehangach. Er iddo gael sawl rhybudd, dewisodd Mr Morgan barhau i ddefnyddio'r ffordd fawr fel petai'n sgip personol. Nid y ffaith bod yr eitemau'n hyll oedd yr unig broblem, roedden nhw heb eu diogelu ac yn achosi perygl i'r cyhoedd. Mae Mr Morgan nawr wedi cael dirwy sylweddol a chofnod troseddol gan y llys.

"Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd bob blwyddyn. Dylai'r arian yma fod yn cael ei wario ar wasanaethau allweddol y rheng flaen yn ystod cyfnod pan fo pwysau mawr ar y gyllideb. 

“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn y rheini sy'n gyfrifol i gyfrif. Mae nifer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu trwy fynd â nhw i'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Neu gallan nhw  hyd yn oed gael eu casglu o ymyl y ffordd heb unrhyw gost ychwanegol."

Mae gyda'r Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol ar gyfer casglu eitemau sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu, o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gyda'r Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o Dipio'n Anghyfreithlon, Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu alw heibio i www.rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 22/05/2025