Skip to main content

Trefniadau traffig ar gyfer gorymdaith a gwasanaeth Diwrnod VE yn Aberdâr

Aberdare Cenotaph 2024 - Copy

Dyma atgoffa trigolion a busnesau canol tref Aberdâr, a'r sawl sy'n ymweld, fod angen rhoi trefniadau traffig ar waith fore Sul ar gyfer achlysur coffáu Diwrnod VE.

Bydd yr achlysur ar 11 Mai yn cynnwys gorymdaith o Lyfrgell Aberdâr am 10.30am, a fydd yn teithio ar hyd Stryd y Canon at y senotaff ar Sgwâr Fictoria.

Bydd gwasanaeth coffáu yn dechrau wedi hynny ger y senotaff am 11am, yna bydd ymdaith wedi'r gwasanaeth am 11.20am i Ardd Goffa Aberdâr.

Bydd cyfnod cyntaf cau ffyrdd yn digwydd rhwng 10.30am ac 11.20am ar gyfer yr orymdaith a'r gwasanaeth ger y senotaff.

Bydd hyd cyfan Stryd y Canon ar gau (i'w chyffordd â Stryd Biwt), ynghyd â Sgwâr Fictoria (rhwng Stryd Caerdydd a Stryd Biwt), y lôn tua'r de ar y Stryd Fawr, (rhwng Stryd Seymour a Stryd y Canon), a Stryd Caerdydd (rhwng Sgwâr Fictoria a Stryd y Groes).

Bydd modd i drigolion gael mynediad i Stryd Seymour a strydoedd cyfagos oddi ar y Stryd Fawr, gan ddefnyddio Cylchfan Gadlys.

O ochr ogleddol yr ardal a fydd ar gau, bydd llwybr amgen ar gael: defnyddiwch Gylchfan Gadlys, yr A4233 a'r A4059 Ffordd Osgoi Aberdâr. I'r cyfeiriad arall, defnyddiwch Gylchfan Tinneys, Stryd Caerdydd, Stryd Biwt, Sgwâr Fictoria a'r Stryd Fawr.

Mae map o'r ardal a fydd ar gau a'r llwybrau amgen ar gael ar wefan y Cyngor.

Bydd ail gyfnod cau ffyrdd yn dilyn rhwng 11.20am ac 11.30am ar gyfer yr ymdaith o Sgwâr Fictoria i'r Ardd Goffa.

Bydd Stryd Biwt ar gau wrth ei chyffordd â Sgwâr Fictoria, ynghyd â Rhiw'r Mynach (o'i chyffordd â'r Stryd Fawr), a Stryd yr Eglwys (wrth ei mynediad i'r Stryd Fawr).

Bydd y ffyrdd mynediad i Faes Parcio'r Stryd Fawr a Rock Grounds hefyd ar gau yn ystod y cyfnod yma.

Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, i gerddwyr ac i eiddo yn ystod y ddau gyfnod.

Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 08/05/2025