Skip to main content

Gwaith cynnal a mabwysiadu ffyrdd preifat sydd mewn cyflwr gwael yn mynd rhagddo

highlands completion 11 - Copy

Yr Ucheldir, Tonyrefail

Dyma roi gwybod ichi am y newyddion diweddaraf ar y Rhaglen Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu. Mae'r rhaglen yn gwella ffyrdd preifat sydd mewn cyflwr annerbyniol ac yna cânt eu mabwysiadu gan y Cyngor er mwyn iddo eu cynnal a chadw yn y dyfodol.

Mae 30 o gynlluniau lleol wedi'u cwblhau ers i'r rhaglen wella gael ei chyflwyno bedair blynedd yn ôl. Ar hyn o bryd, mae un cynllun yn mynd rhagddo a saith arall wedi'u cynllunio dros y flwyddyn ariannol nesaf (2025/26).

Yn 2021/22, cynhaliodd y Cyngor raglen beilot yn cynnwys chwe chynllun ffyrdd heb eu mabwysiadu ar gyfer ffyrdd preifat a oedd mewn cyflwr anfoddhaol ers amser maith. Nod y rhaglen beilot oedd mynd i'r afael â'r mater yma, sy'n creu trafferth i nifer o drigolion sy'n byw ar ffyrdd preifat. Cafodd gwelliannau eraill, o waith carthffosiaeth i oleuadau stryd, eu cwblhau ochr yn ochr â'r gwaith gosod wyneb newydd.

Yn dilyn llwyddiant y rhaglen beilot, mae'r Cyngor wedi parhau i nodi cynlluniau newydd ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu yn rhan o'i raglen gyfalaf bob blwyddyn. Mae rhestr lawn o gynlluniau sydd wedi'u cwblhau, sydd ar y gweill, ac sydd wedi'u cynllunio ar waelod y dudalen yma.

Mae pedwar cynllun newydd wedi'u nodi yn y Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth ar gyfer 2025/26. Bydd y buddsoddiad yma o £200,000 yn cyflawni gwelliannau yn y Pandy yn Hirwaun, Stryd Jenkins yn Nhrehopcyn, Maes Siôn yng Nghwm-bach, a Theras Troedpennar yn Abercynon.

Mae cyllid grant Llywodraeth Cymru hefyd wedi'i sicrhau ar gyfer cynllun ym Maes Kingsbury yn Llwydcoed, tra bydd cynlluniau wedi'u cytuno arnyn nhw'n flaenorol ger Heol Brynmair yn Godreaman, a Heol y Graig yn Ynys-hir, yn cael eu cyflwyno eleni. Yn olaf, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn Rhes yr Eglwys yn Nhrecynon.

Meddai'rCynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: “Mae ein Rhaglen Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu bellach yn ei phumed flwyddyn, gyda 30 o gynlluniau wedi’u cyflawni a chyllid o £200,000 bellach wedi’i gytuno ar gyfer pedwar cynllun newydd yn Hirwaun, Cwm-bach, Trehopcyn ac Abercynon. Er y bydd y gwaith yma'n cael ei ariannu drwy ein Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd 2025/26, llwyddodd swyddogion hefyd i sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru i gyflawni pumed cynllun newydd yn Llwydcoed.

“Bydd y rhaglen ar waith yn ehangach er mwyn mynd i’r afael â’r broblem gyffredin yn ymwneud â ffyrdd heb eu mabwysiadu sydd heb eu cynnal a’u cadw i safon dderbyniol. Mae'r ffyrdd yma'n destun pryder mawr i drigolion sy’n byw ar y strydoedd hynny. Dyw llawer o'r ffyrdd yma ddim wedi cael eu trin na'u cynnal ers blynyddoedd lawer – ac mae'r adborth cyffredinol yn dilyn cwblhau cynlluniau wedi bod yn gadarnhaol.

“Mae mabwysiadu’r ffyrdd er mwyn i'r Cyngor eu cynnal a'u cadw yn y dyfodol yn rhan bwysig arall o’n buddsoddiad, gan ddarparu datrysiad hirdymor yn hytrach nag un untro. Bydd swyddogion yn gweithio i gyflawni cynlluniau 2025/26 yn y flwyddyn nesaf, a byddan nhw'n rhoi gwybod i drigolion lleol am y trefniadau unwaith y byddan nhw wedi'u cadarnhau."

Y Newyddion Diweddaraf am y Rhaglen Ffyrdd Heb ue Mabwysiadu 

30 o gynlluniau wedi'u cwblhau – rhwng 2021/22 a 2024/25

  • Rhes y Glowyr, Llwydcoed
  • Maes Aberhonddu, Aberaman
  • Heol Penhrhiw, Aberpennar
  • Teras Ochr y Bryn, Llwynypia
  • Teras Trafalgar, Ystrad
  • Clos y Beirdd, Rhydfelen
  • Belle Vue, Trecynon (wedi'i ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru)
  • Rhodfa Bryn-glas, Aberaman
  • Stryd yr Eglwys, Aberdâr
  • Teras Morgannwg, Gilfach-goch
  • Ffordd y Goedwig, Trenant
  • Llys Brynderwen, Glynrhedynog
  • Maes David, Llanharan
  • Clos Sant Pedr, Llanharan
  • Rhodfa Aron Sant, Llanharan
  • Cilgant Sant Iŵl, Llanharan
  • Cwrt Forest, Aberpennar
  • Stryd y Carw Coch, Trecynon
  • Maes Clive, Trecynon
  • Clos Glyncornel, Llwynypia
  • Stryd Cadwaladr, Aberpennar
  • Heol Gelliwion, Pontypridd
  • Yr Ucheldir, Tonyrefail (wedi'i ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru)
  • Bryn y Rhosyn Coch, Ystrad
  • Teras Horeb, Llwydcoed
  • Rhes y Lewis Arms, Penrhiw-fer
  • Rhodfa Richmond, Hirwaun
  • oddi ar Deras Bronallt, Abercwmboi
  • Clos y Berllan, Porth
  • Heol y Bwllfa, Cwmaman

Un cynllun parhaus – 2025/26

  • Rhes yr Eglwys, Trecynon (wedi'i ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru)

Saith cynllun yn y dyfodol – (2025/26)

  • (oddi ar) Heol Brynmair, Godreaman
  • Heol Graig , Ynys-hir
  • Y Pandy, Hirwaun
  • Stryd Jenkin, Trehopcyn
  • Maes Siôn, Cwm-bach
  • Teras Troedpennar, Abercynon
  • Maes Kingsbury, Llwydcoed (wedi'i ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru)
Wedi ei bostio ar 16/05/2025