Mae cynllun lliniaru llifogydd lleol yn ystad dai Dan-y-cribyn, Ynys-y-bwl, bellach wedi'i gwblhau gan y Cyngor ar ôl i ail gam y gwaith ddod i ben.
Mae'r cynllun wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, a dechreuodd y gwaith ar y safle ddechrau mis Gorffennaf 2025. Roedd e'n cwmpasu ardal gyfan yr ystad dai, ac mae'n cynrychioli buddsoddiad cyffredinol sylweddol o £600,000 i wella parodrwydd y gymuned leol i wrthsefyll llifogydd. Mae'r Cyngor hefyd wedi darparu 15% o gyllid cyfatebol i gyflawni'r gwaith yma.
Cafodd y cynllun ei gyflawni dros ddau gam, ac mae wedi cynnwys ail-leinio'r rhan sydd â chwlferi o sawl cwrs dŵr cyffredin, a hynny at ddibenion lleihau perygl llifogydd.
Mae contractwr y Cyngor, Arch Utilities Services, wedi cwblhau'r gwaith yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar ddydd Llun 3 Tachwedd.
Cyflawnodd y Cyngor y cynllun yma drwy raglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru – gyda chyllid o £2.83 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn 2025/26.
Yn ogystal â hynny, mae £1.69 miliwn wedi'i sicrhau o'r Grant Gwaith ar Raddfa Fach y flwyddyn ariannol yma, ynghyd â £1.5 miliwn o'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth.
Diolch i'r trigolion lleol am eich cydweithrediad wrth i'r cynllun fynd rhagddo er budd y gymuned.
Wedi ei bostio ar 10/11/2025