Skip to main content

Gwella'r rhwydwaith cwlferi mewn lleoliad allweddol yng Nghilfynydd

Ely Brook

Bydd y Cyngor yn ymgymryd â chynllun gwaith ym mhentref Cilfynydd i gyflawni gwelliannau i fewnfa cwlfer, gan olygu bod angen gweithdrefnau rheoli traffig ar hyd rhan fer o'r A4054.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru i gyflawni'r cynllun. Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 17 Tachwedd. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar gyffordd Heol Merthyr â Heol Pont Siôn Norton.

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar gwrs dŵr Nant Trelái, er mwyn gwella effeithlonrwydd y rhwydwaith yn ystod cyfnodau o law trwm.

Bydd y cynllun yn cael gwared ar gefnfur y cwlfer presennol ac yn gosod cefnfur a rhwyll newydd. Bydd trac mynediad hefyd yn cael ei osod i wella hygyrchedd a sicrhau bod modd cynnal a chadw'r ardal yn haws yn y dyfodol. Yn olaf, bydd y gwaith yn cael gwared ar golofn cyfleustodau sydd eisoes yno.

Mae'r Cyngor wedi penodi Peter Simmons Construction yn gontractwr i gyflawni'r cynllun. Bydd y gwaith yn para tua naw wythnos.

Er mwyn hwyluso'r gwaith, mae'r contractwr angen cau lôn ar yr A4054. Bydd rhaid cyflwyno goleuadau traffig dros dro er mwyn rheoli'r traffig. Efallai bydd angen cau rhai llwybrau troed dros dro, ond bydd llwybr amgen addas i gerddwyr yn cael ei gynnal bob amser.

Mae'r cynllun yma'n cynrychioli buddsoddiad o fwy na chwarter miliwn o bunnoedd yn y gymuned – trwy Grant Gwaith ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru a chyllid cyfatebol y Cyngor.

Mae tua £6 miliwn wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer lliniaru llifogydd yn 2025/26 – gyda'r cyllid yma'n dod o'r Grant Gwaith ar Raddfa Fach, y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad wrth i'r gwaith yma gael ei gwblhau.

Wedi ei bostio ar 12/11/2025