Skip to main content

Prosiect Digideiddio Cofebion Rhyfel Rhondda Cynon Taf yn cyrraedd Carreg Filltir Newydd

War Memorials Collage

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o rannu diweddariad ynghylch y Prosiect Digideiddio Cofebion Rhyfel sy'n mynd rhagddo; mae pum cofeb newydd eu digideiddio nawr yn fyw ar wefan Ein Treftadaeth RhCT – sy'n dod â'r cyfanswm i chwech.

Mae'r cofebion canlynol ar gael nawr i'w gweld ar-lein:

Wedi'i lansio yn 2023 yn rhan o raglen fuddsoddi gwerth £200,000, mae’r prosiect tair blynedd yma wedi’i arwain gan Swyddog Cofebion Treftadaeth a Henebion Hanesyddol y Cyngor. Mae'r fenter unigryw yma – y gyntaf o'i math yn y DU – yn ymrwymiad i ofalu bod straeon dynion a menywod dewr ein Bwrdeistref Sirol, ar gof a chadw; pobl, yn drist iawn, a gollodd eu bywydau mewn achosion o wrthdaro, gan gynnwys y sawl a wasanaethodd.

Mae llawer mwy i'r prosiect na rhestru enwau'n unig. Mae lefel sylfaenol o wybodaeth ar gael ynghylch pob person sy'n cael ei goffáu; mae modd cyrchu'r wybodaeth yma drwy godau QR sydd wedi'u gosod ar bob cofeb. Mae'r codau yma'n cysylltu â gwefan Ein Treftadaeth RhCT, lle gall ymwelwyr ddarllen y straeon personol y tu ôl i'r enwau – gan helpu i roi straeon y bobl hyn ar gof a chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r datblygiad diweddar yn adlewyrchu ymroddiad ein gwirfoddolwyr; maen nhw wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith ymchwil ar fywydau miloedd o unigolion sydd wedi'u rhestru ar gofebion ledled RhCT.

Hyd yn hyn, mae mwy na 200 o wirfoddolwyr wedi cyfrannu at y prosiect gan gasglu gwybodaeth allweddol megis dyddiadau geni a marwolaeth, rheng, rhif gwasanaeth, lleoliad bedd rhyfel, cyfeiriad hysbys olaf, ac unrhyw wybodaeth bersonol, hysbys arall – gan gynnwys cysylltiadau teuluol a chysylltiadau â Deiseb Heddwch Menywod Cymru. Mae ffotograffau, dogfennau a phapurau newydd wedi bod yn allweddol wrth ddod â'r straeon yma'n fyw.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: Rydw i'n hynod falch o'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar ein Prosiect Digideiddio Cofebion Rhyfel. Mae llawer mwy i'r fenter yma na chreu cofnod o enwau'n unig – mae'n fodd o dalu teyrnged i'r bywydau y tu ôl i'r enwau a gofalu bod eu straeon yn cael eu rhoi ar gof a chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

“Diolch i ymrwymiad ein gwirfoddolwyr a gwaith ein Gwasanaeth Treftadaeth, rydyn ni'n creu teyrnged barhaol i'r dynion a menywod hynny o Rondda Cynon Taf a wnaeth yr aberth eithaf. Wrth ddod â'r cofebion yma'n fyw ar-lein, rydyn ni'n helpu'n cymunedau i gysylltu â hanes lleol mewn modd ystyrlon a chynhwysol."

Mae'n fraint gyda'r Cyngor barhau â'r gwaith datblygu ar y prosiect yma, ac mae'n chwilio'n weithredol felly am wirfoddolwyr newydd i helpu gyda'r ymchwil. Does dim gofyn cael profiad, ac mae hyfforddiant llawn yn cael ei roi. P'un a ydych chi'n gallu rhoi ychydig oriau neu ychydig ddyddiau, mae pob cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth wrth ein helpu ni i adrodd straeon y dynion a menywod dewr hynny o Rondda Cynon Taf a gollodd eu bywydau mewn achosion o wrthdaro.

I gael gwybod rhagor neu ddod yn rhan o bethau, cysylltwch â: GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 11/11/2025