Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi Ail Ddiwrnod Wythnos Sbotolau Safonau Masnach Cymru, sydd heddiw yn canolbwyntio ar "Hyder wrth brynu Cynnyrch Cosmetig", gan rymuso trigolion i wneud dewisiadau mwy diogel am y cynnyrch a'r triniaethau maen nhw'n eu dewis.
Mae'r ymgyrch TRI diwrnod sy'n cael ei harwain gan Safonau Masnach Cymru a'r HOLL Awdurdodau Lleol yn canolbwyntio ar ddiogelwch defnyddwyr ac ymwybyddiaeth.
Ar ail ddiwrnod yr ymgyrch, mae'r Cyngor yn cyhoeddi rhybudd i drigolion am gost harddwch wrth i ni agosáu at gyfnod y Nadolig, gan dynnu sylw at y peryglon sylweddol sy'n gysylltiedig â phrynu colur ffug a thriniaethau arbennig peryglus, heb eu rheoleiddio – yn enw harddwch!
Mae llawer o fanwerthwyr enwog ar-lein yn cynnig gostyngiadau mawr ar y colur mwyaf diweddar a phoblogaidd, felly mae'n bwysig tynnu sylw at y perygl sy'n gysylltiedig â cholur a chynnyrch cosmetig ffug.
Mae pawb wrth eu bodd yn dod o hyd i fargen adeg y Nadolig, ond ni ddylai'r fargen gael effaith barhaol ar eich iechyd. Mae'n hawdd dod o hyd i golur ffug ar y farchnad ddu, yn aml iawn byddan nhw'n cynnwys sylweddau gwenwynig a pheryglus iawn a allai arwain at graith oes.
- Cynhwysion gwenwynig: Mae profion wedi datgelu y gall cynnyrch ffug — sy'n aml wedi'u cuddio y tu ôl i enwau brandiau pen ucha'r farchnad —gynnwys cemegau niweidiol, gan gynnwys plwm, mercwri, arsenig, hydoddydd paent, a hyd yn oed gwenwyn llygod mawr. Mewn rhai achosion, mae wrin a lefelau uchel o facteria wedi cael eu canfod.
- Risgiau Iechyd Difrifol: Mae'n bosibl y bydd defnyddio'r cynnyrch yma'n arwain at adweithiau alergaidd difrifol, llosgiadau cemegol, anffurfio parhaol, heintiau a phroblemau iechyd hirdymor fel acne, ecsema a gwenwyno hollgorfforol.
Mae'r Cyngor yn annog defnyddwyr i brynu cynnyrch harddwch gan fanwerthwyr awdurdodedig, siopau stryd fawr sefydledig, neu wefannau swyddogol brandiau yn unig. Mae nifer o adroddiadau yn honni bod manwerthwr ar-lein adnabyddus a phoblogaidd, heb yn wybod, wedi bod yn gwerthu cynnyrch 'ffug' trwy werthwyr trydydd parti.
Cofiwch - os yw bargen yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debygol iawn ei bod hi'n rhy dda i fod yn wir!
Mae'r awydd i gadw golwg ifanc yn mynd y tu hwnt i golur ac mae mwy o bobl nag erioed yn prynu triniaethau arbennig megis colur lled-barhaol a thyllu'r corff. Ond mae modd i'r triniaethau yma fod yn beryglus iawn os ydyn nhw'n cael eu darparu gan ymarferwyr sydd heb gymhwyso.
Mae modd i driniaethau sy'n cael eu darparu mewn amgylcheddau hylan neu gan unigolion sydd heb gyflawni'r hyfforddiant priodol arwain at heintiau sy'n peryglu bywyd (gan gynnwys sepsis), creithiau difrifol, niwed i'r nerfau, dallineb, ac anghymesuredd parhaol i'r wyneb.
Mae ymarferwyr heb eu rheoleiddio wedi cael eu canfod yn defnyddio sylweddau rhad, ffug, neu sydd ddim yn bodloni'r safonau angenrheidiol er mwyn eu defnyddio ar y corff dynol, gan arwain at gymhlethdodau ofnadwy nad oes modd eu rhagweld.
“Mae diogelwch ein defnyddwyr yn hollbwysig, a chofiwch - nid aur yw popeth melyn! Rwy'n gwybod bod pob un ohonom ni'n hoffi edrych a theimlo'n wych, yn enwedig wrth i hwyl yr ŵyl agosáu, ond rwy'n annog defnyddwyr i dreulio peth amser yn ystyried a yw'n werth chweil?
“Os ydyn nhw'n dymuno bwrw ymlaen, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ddiogel. Cafodd cynllun trwyddedu llym ei gyflwyno yn rhan o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ym mis Rhagfyr y llynedd er mwyn diogelu'r cyhoedd a sicrhau safonau cyson o ran atal heintiau a rheoli triniaethau arbennig. Mae modd gwirio a yw'r ymarferydd wedi'u cymeradwyo ac yn meddu ar drwydded yma: www.specialprocedures.co.uk.”
Erbyn hyn, mae angen trwydded er mwyn darparu'r triniaethau arbennig isod:
- Aciwbigo (gan gynnwys nodwyddo sych)
- Tyllu'r Corff (gan gynnwys tyllu'r clustiau)
- Electrolysis
- Tatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol / meicro-llafnu)
Rhaid i ymarferwyr a safleoedd gael eu cymeradwyo. Mae gofyn i bob ymarferydd/safle lwyddo mewn cwrs Atal a Rheoli Heintiau Lefel 2 cymeradwy. Mae'r drwydded hefyd yn cadarnhau manylion yr wybodaeth a'r cymwysterau sydd gan ddeiliad y drwydded o ran safonau diogelwch, gan leihau'r perygl o niwed i iechyd y cleient.
Mae 58 o fusnesau cymeradwy a 105 o Ymarferwyr Trwyddedig wedi'u cofrestru i ddarparu triniaethau arbennig yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae modd gwirio a yw'r ymarferydd wedi'u hawdurdodi ac yn meddu ar drwydded yma: www.specialprocedures.co.uk
Sut i Gadw'n Ddiogel:
Cyfrifoldeb y defnyddiwr yw dewis ymarferydd diogel.
Dilynwch y camau pwysig yma bob tro:
- Gofynnwch bob amser i weld Trwydded Triniaethau Arbennig yr ymarferydd (Cerdyn Adnabod â Llun) a'r Dystysgrif Cymeradwyo Safle/Cerbyd. Rhaid i unigolion trwyddedig arddangos eu trwydded neu wisgo cortyn gwddf.
- Cyn archebu, gwiriwch Gofrestr Gyhoeddus Triniaethau Arbennig Cymru ar-lein i gadarnhau bod yr ymarferydd a'r safle wedi'u trwyddedu - www.specialprocedures.co.uk.
- Holwch am yr hyfforddiant maen nhw wedi'i wneud er mwyn darparu'r driniaeth a sicrhau eu bod nhw'n meddu ar gynllun yswiriant digonol i allu talu am unrhyw gymhlethdodau posibl.
- Holwch am y cynnyrch maen nhw'n eu defnyddio (e.e. inciau, ac ati). Dylai'r unigolyn allu cadarnhau manylion y brand a chadarnhau eu bod nhw wedi cael caniatâd i ddarparu'r driniaeth mewn modd diogel.
- Os nad yw'r lleoliad yn hylan, os yw'r pris yn eithriadol o isel, neu os yw'r ymarferydd yn osgoi ateb eich cwestiynau am faterion diogelwch neu gymwysterau, trowch eich cefn arni.
I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig, ewch i: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Business/LicencesandPermits/Streettradinglicences/Tattoopiercingandelectrolysisregistration.aspx.
Wedi ei bostio ar 12/11/2025