Skip to main content

Cynnydd da wedi'i wneud yn rhan o gynllun adeiladu tai gofal ychwanegol newydd ym mhentref Porth

Dan y Mynydd 1 - Copy

Mae'r Cyngor a Linc Cymru (Linc) wedi rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect adeiladu datblygiad tai gofal ychwanegol newydd ym mhentref Porth. Bydd y cyfleuster o'r radd flaenaf yn darparu 60 o fflatiau gofal ychwanegol a chyfleusterau o'r radd flaenaf, gyda'r gwaith ar y trywydd iawn i'w gwblhau yng ngwanwyn 2026.

Y llynedd, ailgychwynnodd y contractwr, Intelle Construction, waith y prosiect, i drawsnewid hen safle Cartref Gofal Dan y Mynydd nad oedd yn cael ei ddefnyddio yn ddatblygiad gofal ychwanegol modern. Bydd yr adeilad pedwar llawr hefyd yn darparu cyfleusterau allweddol i'w drigolion, megis ardal fwyta, siop trin gwallt, ystafell weithgareddau a chanolfan gofal oriau dydd – yn ogystal â chyfleusterau eraill megis swyddfeydd a maes parcio i ymwelwyr.

Mae cynnydd da wedi'i wneud dros fisoedd yr haf, a chaiff hyn ei ddangos yn y delweddau diweddaraf o'r safle datblygu. Mae to'r adeilad bellach wedi'i gwblhau, ac mae'r sgaffaldiau mawr hefyd wedi'u tynnu o’r safle. Mae'r delweddau allanol yn dangos bod rhannau mawr o'r gwaith brics wedi cael ei gwblhau, ynghyd â nodweddion eraill megis y ffenestri, y drysau, y pileri a'r balconïau sydd bellach yn eu lle.

Dan y Mynydd 2 - Copy

Yn fewnol, mae'r gwaith o osod y lifftiau a'r ceginau wedi dechrau, ynghyd â gwaith i osod ystafelloedd ymolchi/toiledau. Mae gwaith addurno hefyd wedi dechrau ledled yr adeilad.

Mae gweithgareddau pwysig eraill sydd wedi'u cwblhau yn cynnwys gosod is-orsaf y Grid Cenedlaethol, a mesuryddion trydan ar ddau lawr. Mae disgwyl i'r gwaith o osod mesuryddion ar y ddau lawr sy'n weddill gael ei gwblhau ddechrau mis Hydref. Yn olaf, mae gwaith tir a gwaith i osod tanc gwanhau hefyd wedi dechrau.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol,sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau i Oedolion: "Mae'n wych gweld y cynnydd parhaus sy’n cael ei wneud tuag at gyflawni'r datblygiad cyffrous yma ym mhentref Porth, sydd ar y trywydd iawn i'w gwblhau'r gwanwyn nesaf. Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o ymrwymiad y Cyngor i foderneiddio llety gofal i bobl hŷn ac, yn rhan o hyn, i gynyddu nifer y gwelyau gofal ychwanegol i ddiwallu'r angen.

“Rwy’n hyderus y bydd y datblygiad 60 gwely newydd yn ychwanegiad gwerthfawr iawn i bentref Porth, gyda'n lletyau gofal ychwanegol presennol ym mhentref Tonysguboriau, y Graig ac Aberaman eisoes wedi'u sefydlu fel canolfannau poblogaidd. Mae gan dai gofal ychwanegol lawer o fanteision – mae'n creu cymuned fywiog ym mhob adeilad ac yn hyrwyddo rhyngweithiadau ystyrlon yn y gymuned leol, yn ogystal â rhoi cyfle i breswylwyr fyw'n annibynnol cyhyd â phosibl gyda mynediad at gymorth o fore gwyn tan nos, bob diwrnod o'r flwyddyn ar gyfer eu hanghenion wedi’u hasesu.

“Mae ein buddsoddiad gwerth sawl miliwn o bunnoedd mewn llety gofal newydd yn mynd gam ymhellach. Rydyn ni wrthi'n datblygu gwaith ar y safle i adeiladu llety gofal preswyl arbenigol yn ardal Gelli, tra bod caniatâd cynllunio wedi'i sicrhau ar gyfer datblygiad yn Aberpennar a fydd yn darparu cymysgedd o ofal ychwanegol, gofal preswyl, a thai 'Byw'n Hŷn'. Hefyd, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cynlluniau pellach yng Nglynrhedynog a Phentre'r Eglwys yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar ofal dementia preswyl a chyfleusterau byw â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu.

“Rydyn ni’n parhau i groesawu ein partneriaeth gref iawn gyda Linc i ddatblygu a rhoi llawer o'r cynlluniau yma ar waith, gan gynnwys y gwaith sy’n parhau ym mhentref Porth. Cefais groeso ar ymweliad â'r safle ym mis Ebrill 2025, ac mae'r cynnydd a wnaed ers hynny yn amlwg iawn – gan fod llawer o nodweddion adnabyddadwy'r adeilad newydd bellach yn eu lle. Diolch i Linc a’n contractwr Intelle am eu gwaith caled parhaus, wrth i’r cynllun yma symud ymlaen tuag at ei gwblhau yn ystod y gwanwyn.”

Ychwanegodd Jo Yellen, Rheolwr Prosiectau Linc Cymru: “Mae gweld yr adeilad yn cymryd siâp dros yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn wych. Gyda'r to bellach wedi'i gwblhau, y sgaffaldiau wedi'u tynnu o’r safle, a'r gwaith mewnol allweddol wedi dechrau, gallwch chi gael syniad gwirioneddol o ansawdd y mannau rydyn ni'n eu creu. Mae pob carreg filltir yn ein gwneud ni cam yn agosach at ddarparu amgylchedd modern, croesawgar a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl hŷn ym mhentref Porth.”

Dysgwch ragor am gynlluniau'r Cyngor yn y gorffennol, y rhai sy'n mynd rhagddyn nhw nawr, a chynlluniau'r dyfodol ar ein tudalen Prosiectau Buddsoddi mewn Gofal Preswyl ar wefan y Cyngor.

Wedi ei bostio ar 07/10/2025