Mae ailgylchu yn frawychus o HAWDD yn RhCT ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn galw ar ei holl drigolion i greu hud a lledrith gan droi eu Calan Gaeaf yn wyrdd trwy ailgylchu eu holl wastraff ychwanegol - yn enwedig eu pwmpenni!
Fyddwn ni ddim yn gallu troi'ch pwmpen yn gerbyd moethus ar gyfer Calan Gaeaf - OND trwy ailgylchu UN pwmpen, bydd modd i chi gynhyrchu digon o ynni i gynnal parti Calan Gaeaf gwefreiddiol yn eich cartref!!
Mae hynny'n swm brawychus o bŵer posibl sy'n cael ei wastraffu!
Y newyddion gwych yw bod trigolion Rhondda Cynon Taf yn frawychus o dda am ailgylchu eu gwastraff bwyd. Mae'r ffigyrau ailgylchu diweddaraf yn dangos bod mwy a mwy ohonom ni'n ailgylchu ein bwyd anfwytadwy a bwyd dros ben - mae bron i 300 tunnell o wastraff bwyd nawr yn cael ei gasglu yn fwy aml mewn wythnos* - mae hynny'n pwyso'r un faint ag awyren Boeing 747, sydd bellach yn gallu cael ei throi'n ddigon o ynni i bweru 27 o gartrefi!
Mae hyd yn oed mwy o newyddion gwych bod y gwastraff bwyd ddim wedi mynd i safleoedd tirlenwi i bydru - mae bwyd wedi’i wastraffu'n cyfrif am 8–10% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn i'w drigolion barhau â'u hymdrechion gwyrdd drwy lenwi eu cadis gwastraff bwyd gyda'u holl fwyd parti dychrynllyd a'u perfedd pwmpen llysnafeddog ar ôl i ddathliadau Calan Gaeaf ddod i ben.
Mae nifer o'n trigolion yn brysur yn cynllunio'u dathliadau dychrynllyd ac mae'n bryd i ni feddwl - Trît neu Sbwriel? Pa eitemau sydd angen i chi eu gwaredu a sut byddwch chi’n gwneud hynny?
Mae'n wir y byddai llygaid madfallod dŵr a hadau pwmpenni, gydag ychydig o lo a thop potel o laeth yn wych ar gyfer crochan hud, ond dydyn nhw ddim yn addas gyfer y bag CLIR na'r bin gwastraff bwyd. Bydd yn eich troi'n wrach wastraffus cyn i chi allu dweud BŴ! Yma yn RhCT rydyn ni'n ffodus o gael canllawiau ailgylchu A-Y i wrachod sy'n eich helpu i wneud yn siŵr nad ydych chi’n bwrw hud ar ddamwain!
Peidiwch â phoeni, does dim angen i chi fod yn wrach i'w ddefnyddio – mae modd i drigolion fwrw golwg ar ein canllaw A-Y ar-lein –unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yma: https://www.rctcbc.gov.uk/ChwilioAmAilgylchu!
Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’ch HOLL addurniadau arswydus ar ôl yr achlysur - ydych chi wedi ystyried eu cadw nhw a'u hailddefnyddio nhw flwyddyn ar ôl blwyddyn?
Pan ddaw hi’n amser cerfio eich pwmpenni, cofiwch ei bod hi’n debygol bod miliynau o gartrefi eraill yn gwneud yr un peth! Dyna lawer o hadau a chnawd pwmpen! Beth am ei ddefnyddio i greu’r pryd hydrefol perffaith – gallai cnawd y bwmpen fod yn brif gynhwysyn mewn pryd blasus fel cawl pwmpen, pei pwmpen neu risoto pwmpen rost. Mae modd defnyddio pwmpen hefyd fel dewis rhad a blasus yn lle tatws melys – dewch o hyd i ragor o ryseitiau yn www.lovefoodhatewaste.com.
Unwaith y bydd eich pwmpen wedi dechrau colli ei gwên, cofiwch ei thorri i fyny a’i rhoi yn eich cadi gwastraff bwyd neu ei rhoi’n gyfan ar ben eich cadi gwastraff bwyd allanol i’w chasglu – cofiwch dynnu unrhyw oleuadau/canhwyllau.
Mae modd ailgylchu eich holl ddeunydd pacio bwyd parti, e.e. caniau, poteli gwydr, potiau iogwrt, potiau jam a llawer mwy, gan ddefnyddio'r bagiau ailgylchu CLIR, sydd ar gael i'w casglu mewn cannoedd o fannau ailgylchu ledled RhCT - dewch o hyd i'ch un agosaf yn www.rctcbc.gov.uk/bagiau.
Os ydych chi am wylio ffilm arswydus dros Galan Gaeaf, cofiwch, trwy ailgylchu un croen pwmpen yn unig, gallech chi bweru teledu yn ddigon hir i wylio Hocus Pocus a'r Addams Family!
Rydyn ni'n cymryd camau ENFAWR yma yn RhCT i ailgylchu a brwydro yn erbyn effeithiau erchyll newid hinsawdd, a diolch i'r broses safoni casgliadau gwastraff ym mis Medi 2024 a'n trigolion gwych, rydyn ni wedi gweld cynnydd o 17% yng nghyfanswm y gwastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu a gostyngiad o 36% yng nghyfanswm y gwastraff bagiau du a gesglir! Rydyn ni hefyd yn ailgylchu ymhell dros 70% o'n gwastraff yn gyson, ac yn falch i ddweud ein bod ni wedi cyflawni targed 70% Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd:
"Mae Calan Gaeaf yn gyfnod gwych i deuluoedd fwynhau eu hunain. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig ein bod ni'n cofio meddwl yn wyrdd ac ailgylchu'r holl wastraff ychwanegol.
“Mae ein trigolion wedi gwneud ymdrech wych i ailgylchu'u gwastraff bwyd yn wythnosol hyd yma. Hoffwn ddiolch i bawb yn ein Bwrdeistref Sirol am gyfrannu at yr ymdrech yma.
"Y newyddion gwych yw bod fwyfwy o'n trigolion yn ystyried yr amgylchedd bob dydd ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dystiolaeth o hyn. Rydyn ni'n gofyn i'r holl wrachod ac ysbrydion bach (a mawr) ailgylchu eu holl wastraff brawychus y Calan Gaeaf yma."
Mae'n haws nag erioed i chi ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n cynnal casgliadau diderfyn ac mae gyda ni amrywiaeth o leoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol y mae modd i chi fynd atyn nhw i gasglu eich bagiau ailgylchu!
Cofiwch, mae modd i chi hefyd gofrestru ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd a chewynnau ar-lein.
Yn ogystal â hyn, mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol ar agor 7 niwrnod yr wythnos, rhwng 8.30am a 6.30pm (Mawrth - Hydref) a rhwng 8.30am a 4.30pm (Tachwedd - Mawrth, yn unol â’r clociau).
Bydd casgliadau Gwastraff Gwyrdd hefyd yn symud i wasanaeth adeg y gaeaf y mae modd ei drefnu yn fuan - felly, os ydych chi'n bwriadu gwneud gwaith garddio dros y gaeaf, cofiwch nodi 18/11/25 yn eich dyddiadur a threfnu'ch casgliadau pan fyddwch chi eu hangen (mae modd trefnu eich casgliadau ar-lein o 3 Tachwedd 2025).
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Twitter/Facebook neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.
Wedi ei bostio ar 27/10/2025