Skip to main content

Cau rhan o lwybr Taith Taf ar gyfer gwaith hanfodol

Taff Trail grid web

Dyma roi gwybod i drigolion y bydd rhan o lwybr Taith Taf rhwng Trallwn a Cilfynydd ar gau dros yr wythnosau nesaf ar gyfer gwaith brys i atgyweirio difrod storm.

Mae cyllid wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru er mwyn cwblhau'r gwaith o'r wythnos nesaf ymlaen. Bydd gwaith gosod y safle'n dechrau ddydd Llun 27 Hydref, gyda'r llwybr yn cau o ddydd Gwener 31 Hydref.

Bydd llwybr Taith Taf yn cau o bont reilffordd Tŷ Isaf (ger rhandir Cae Fletchers), tua’r gogledd i bwynt i’r gorllewin o Ysgol Bro Taf (ger Maes Chwaraeon Cilfynydd ac Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Albion) - cyfanswm o tua 1.5 cilomedr.

Bydd y cynllun yn cynnwys ailgyfeirio rhan o'r llwybr i ffwrdd o'r afon er mwyn gwella gwydnwch rhag stormydd yn y dyfodol, ac ailadeiladu dwy bont droed fach dros bellter o 100 metr.

Bydd hefyd gwaith i ddiogelu'r arglawdd, a bydd coed sy'n cael eu hystyried yn beryglus yn cael eu tynnu.

Bydd arwyddion yn nodi llwybr amgen er mwyn i gerddwyr a beicwyr ddefnyddio’r rhwydwaith priffyrdd presennol, ar hyd Heol Coedpenmaen, Maes Doddington, Ffordd Merthyr, Heol Pont Siôn Norton, Heol Cilfynydd ac Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Albion.

Mae'r Cyngor wedi penodi Edwards Diving Services yn gontractwr i gyflawni'r gwaith. Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd y gaeaf.

Bydd y contractwr yn defnyddio pont dros dro a fydd yn ymestyn dros Bont Reilffordd Tŷ Isaf i gyrraedd y safle, a hynny fel mesur hanfodol er mwyn cyflawni'r gwaith.

Mae'r cynllun wedi’i ariannu trwy Grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru 2025/26, gyda chyllid cyfatebol gan y Cyngor.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 27/10/2025