Mae lle pwysig i deuluoedd fyfyrio a chofio – y cyntaf o'i fath yr y Fwrdeistref Sirol - wedi'i greu ym Mynwent Trealaw yn rhan o ymrwymiad Cyngor Rhondda Cynon Taf i gefnogi aelodau o'i gymunedau sy'n byw gyda phrofedigaeth.
Mae gan yr Ardal Goffa brydferth feinciau a phlanwyr, gan gynnig man tawel lle mae modd cofio a dathlu bywydau anwyliaid a fu farw. Mae yno hefyd flwch post 'Llythyrau i’r Nefoedd' lle mae modd i bobl postio llythyrau, cardiau a negeseuon.
Dyma'r Ardal Goffa cyntaf o'i bath, ond mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i ddarparu mannau pwysig yn ei holl fynwentydd lle mae beddau heb eu nodi.
Syniad trigolion oedd creu Ardal Goffa yn Nhrealaw, gyda chefnogaeth y Cynghorydd ward lleol, y Cyng. Wyn Hughes.
Yn anffodus, mae sawl mynwent ledled y wlad yn cynnwys beddau sydd heb eu nodi i fabanod a fu farw'n rhy gynnar, a gweithiodd Carfan y Gwasanaethau Profedigaethau gyda'r Cynghorydd Hughes i ffurfio'r ardal yma er mwyn cydnabod pwysigrwydd creu canolbwynt i deuluoedd lleol nad ydyn nhw'n gallu ymweld â beddau eu hanwyliaid. Mae'r angen am ardal o'r fath felly'n bwysig i deuluoedd sydd wedi dioddef degawdau o dorcalon.
O ganlyniad i hyn, bydd y Seremoni Ton o Oleuni, a drefnwyd gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ar ran amrywiaeth o elusennau cymorth profedigaeth ac asiantaethau partner, yn cael ei chynnal ym Mynwent Trealaw i nodi diwedd Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod 2025.
Mae croeso i drigolion ddod i’r ardal goffa o 6.45pm ddydd Mercher 15 Hydref er mwyn ymuno â'r Seremoni Ton o Oleuni, gan oleuo cannwyll o fyfyrdod a choffadwriaeth.
Bydd y seremoni hefyd yn nodi agoriad swyddogol Ardal Goffa Mynwent Trealaw, a fydd yn talu teyrnged i'r rheiny sydd wedi'u claddu yn Nhrealaw, ond heb fedd hysbys.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaethau: "Roedd yr ymgyrch, sydd wedi'i arwain gan drigolion, yn bwysig iawn i'r Cyngor. Rydyn ni'n falch o'n gwaith gyda'r Cynghorydd Hughes, ar ran cymuned Trealaw, i greu eu Hardal Goffa.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at agoriad swyddogol yr Ardal Goffa yn rhan o'r seremoni Ton o Oleuni ddydd Mercher 15 Hydref, ac yn gobeithio y bydd creu'r ardal arbennig yma'n cynnig y cysur a'r cyfle i fyfyrio sydd ei angen arnyn nhw.
“Mae nifer o bobl yn effro i ddyletswyddau statudol y Cyngor mewn perthynas â gweithrediad amlosgfeydd a mynwentydd, yn ogystal â phrosesau swyddogol Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau, ond mae ein hymrwymiad i alarwyr yn fwy ystyrlon o lawer na hynny.
"Mae gyda ni gynllun deng mlynedd sy'n nodi sut rydyn ni'n cynnig Gwasanaeth Parchus a Chynaliadwy i Alarwyr, sy'n cynnwys creu Ardaloedd Coffa megis yr un yn Nhrealaw, Bylchau Post 'Llythyrau i'r Nefoedd' yn ein mynwentydd, llyfrau coffa digidol a chefnogaeth i'r rhai sy'n ymchwilio i hanes eu teulu a'u lleoedd claddu.
“Mae agoriad Ardal Goffa Mynwent Trealaw yn cyfleu’r ymrwymiad yna. Rydyn ni'n cydymdeimlo ag aelodau cymuned Trealaw sydd yn eu galar. Rydyn ni'n gobe thio bod darparu lle sy’n eu galluogi i alaru a chofio yn rhoi cysur iddyn nhw am flynyddoedd i ddod".
Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Hughes, sef Cynghorydd ward Trealaw: "Rwy'n falch fy mod i weld helpu i wireddu'r weledigaeth ar gyfer Ardal Goffa ym Mynwent Trealaw.
"Fodd bynnag, mae'r ardal yma'n ymroddedig i aelodau ein cymuned sydd yn eu galar ac a ymgyrchodd amdani, gan gydnabod y byddai'n eu helpu nhw ac eraill yn eu galar. Yn bwysicach, mae hi’n coffáu’r babanod a'r plant bach sydd heb fedd hysbys.
“Mae’n briodol, bod y Seremoni Ton o Oleuni yn digwydd ym Mynwent Trealaw am y tro cyntaf a bydd yn gyfle i’n cymuned ddod at ei gilydd, galaru, cofio a chefnogi ein gilydd.”
Mae'r Seremoni Ton o Oleuni yn nodi diwedd Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, sydd wedi'i chynnal yn y DU ers 2002 i gynnig cymorth ac undod i'r rheiny sydd wedi dioddef colli babi neu blentyn bach.
Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg sy'n cydlynu'r seremoni ar ran amrywiaeth o elusennau, sefydliadau cymorth ac asiantaethau partner sy'n darparu cymorth i'r rheiny sy'n galaru yn Rhondda Cynon Taf.
Mae croeso i bawb ddod i’r Ardal Goffa ym Mynwent Trealaw (ger y prif adeilad wrth y prif gatiau) o 6.45pm ddydd Mercher 15 Hydref.
Mae modd darllen Strategaeth Gwasanaeth Parchus a Chynaliadwy i Alarwyr 2024-34 y Cyngor yma:
Wedi ei bostio ar 10/10/2025