Skip to main content

Cau maes parcio yn Aberdâr am wythnos er mwyn gosod wyneb newydd

Duke Street Car Park 3 - Copy

Mae gwaith gwella parhaus ym Maes Parcio Stryd y Dug yng Nghanol Tref Aberdâr bron â dod i ben, ac mae angen cau'r cyfleuster am wythnos yn fuan i gynnal prif elfen y gwaith, sef gosod wyneb newydd.

Dechreuodd y Cyngor y gwaith ddechrau mis Medi 2025 i wella mynediad i gerddwyr a draenio, ynghyd â'r gwaith gosod wyneb newydd ar y maes parcio cyfan. Mae hyn yn golygu cael gwared ar y gwaith bloc presennol, gan fod rhai o flociau'r palmant presennol wedi'u gosod bron i 30 mlynedd yn ôl. Mae llawer o'r blociau wedi dod yn rhydd neu wedi dechrau suddo.

Mae'r maes parcio wedi aros ar agor drwy gydol cyfnod y gwaith, gyda gostyngiad anochel yng nghapasiti'r maes parcio dros dro oherwydd natur y gwaith. Diolch i ymwelwyr a chymuned ehangach canol tref Aberdâr am eich cydweithrediad parhaus wrth i'r cynllun wneud cynnydd pwysig.

Mae bellach angen cau Maes Parcio Stryd y Dug yn gyfan gwbl am wythnos er mwyn cwblhau elfen gosod wyneb newydd y cynllun. Bydd y maes parcio ar gau o ddydd Llun 3 Tachwedd hyd at, a chan gynnwys, dydd Llun 10 Tachwedd.

Mae meysydd parcio eraill y Cyngor yn Adeiladau'r Goron, Nant Row, Rock Grounds a'r Ynys yn cynnig cyfleuster parcio arhosiad hir yng Nghanol Tref Aberdâr a'r cyffiniau. Mae Maes Parcio Glofa'r Gadlys hefyd yn cynnig parcio arhosiad hir ar gyfer deiliaid trwyddedi perthnasol. Mae meysydd parcio arhosiad byr (hyd at 4 awr) ar gael ym meysydd parcio Llyfrgell Aberdâr, Y Stryd Las a'r Stryd Fawr.

Bydd trefniadau aros amgen ar waith yn lle'r lôn dacsis ym Maes Parcio Stryd y Dug, a hynny am weddill cyfnod y gwaith.

Nodwch, ar ôl cwblhau'r gwaith gosod wyneb newydd, bydd y cynllun cyffredinol wedi'i gwblhau i raddau helaeth. Dim ond gwaith ymylol fydd yn weddill. Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid rhaglen gyfalaf barhaus y Cyngor i ddiogelu'r maes parcio poblogaidd yma yng nghanol y dref ar gyfer y dyfodol.

Wedi ei bostio ar 22/10/2025