Gan fod y perygl o lifogydd sylweddol yn parhau yn Nheras Clydach, mae'r Cyngor wrthi'n cynnal trafodaethau ynglŷn â dod i feddiant yr eiddo.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Yn gynharach eleni, dywedon ni y byddai pob dull a modd dan ystyriaeth mewn perthynas â'r opsiynau ar gyfer Teras Clydach, gan gynnwys caffael yr eiddo lle y bo angen.
"Oherwydd bod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn annichonadwy yn ôl asesiad Cyfoeth Naturiol Cymru, rydyn ni wedi bod yn cysylltu â phreswylwyr i drafod opsiynau ar gyfer y dyfodol.
"Oherwydd bod risg barhaus ac unigryw o lifogydd sylweddol yn y lleoliad, ac yn dilyn sgyrsiau â thrigolion, byddwn ni'n parhau â thrafodaethau i gael meddiant o'r 16 o dai yn Nheras Clydach.
"Bydd prisiwr i'w benodi yn dechrau trafodaethau â pherchnogion a phreswylwyr yr adeiladau dan sylw i drafod pris priodol ar gyfer adeiladau unigol ac iawndal priodol.
"Rydyn ni'n diolch i drigolion am eu cydweithrediad parhaus, a hithau'n adeg arwyddocaol iawn iddyn nhw."