Cyn hir, bydd Siôn Corn yn parcio'i sled yng nghanol tref sy’n agos i chi! Mae wrthi’n chwilio am ei esgidiau, yn crubo'i farf, ac yn llenwi'r ogof â hwyl yr ŵyl – gan edrych ymlaen at ddathlu’r Nadolig yn Rhondda Cynon Taf. Yn ogystal â hynny, bydd ganddo sach yn llawn anrhegion i godi gwên!
Dewch i gwrdd â'r dyn ei hun yng nghwmni'r corachod:
Dydd Gwener 28 Tachwedd, 3pm – 6:30pm
|
Glynrhedynog, Maes Parcio Stryd y Leimwydden
|
Dydd Sadwrn 29 Tachwedd, 12pm – 5pm
|
Tonypandy, Maes Parcio Stryd De Winton
|
Dydd Iau 4 Rhagfyr, 3pm – 6:30pm
|
Porth, Maes Parcio Plaza'r Porth
|
Dydd Gwener 5 Rhagfyr, 3pm – 6:30pm
|
Llantrisant, Maes Parcio Heol Gwaun Rhiw’r Perrai
|
Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 12pm – 5pm
|
Aberpennar, Maes Parcio Stryd Henry
|
Llond sled o hwyl yr ŵyl!
Am £1 y tocyn (ar werth ar y dydd) mae modd i blant fwynhau:
- Glôb Eira Mawr – Camwch i wlad aeafol er mwyn tynnu lluniau yn yr oerfel!
- Cylch Sglefrio Synthetig – Cyfle i bawb roi cynnig ar sglefrio!
- Ffair Hwyl i Blant – Tair reid Nadoligaidd!
- Peintio Wynebau - Beth am fod yn angel y Nadolig, neu gael trwyn coch fel Rwdolff?
- Ogof Siôn Corn – Dau docyn i gwrdd â Siôn Corn a derbyn anrheg o Begwn y Gogledd!
Gwisgwch yn dwym, mae hi'n addo eira...
Bydd canol trefi Pontypridd, Aberdâr a Threorci hefyd yn dathlu'r Nadolig gydag achlysuron yng nghanol y trefi, a byddan nhw'n derbyn cymorth ariannol gan y Cyngor er mwyn eu cynnal.
TBC
|
Pontypridd
|
Dewch o hyd i wybodaeth a diweddariadau:
www.pontypriddtowncouncil.gov.uk
|
Dydd Sadwrn 29 Tachwedd 11am-7pm
|
Treorci
|
Dewch o hyd i wybodaeth a diweddariadau:
Facebook – Love Treorchy
|
Dydd Sul 30 Tachwedd 12pm - 6pm
|
Aberdâr
|
Dewch o hyd i wybodaeth a diweddariadau:
Facebook – Our Aberdare
|
Bwyta, Siopa a Mwynhau
Diwrnod llawn o ddathlu! Ewch am bryd o fwyd neu fachu anrheg yn un o fusnesau bach Rhondda Cynon Taf. Nawr yw'r awr i siopa'n lleol!
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau:
Mae llawer o unigolion a theuluoedd yn wynebu heriau ariannol yn ystod cyfnod y Nadolig. Mewn ymateb i hyn, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu achlysuron canol tref sydd â chost isel. Bydd y rhain yn cynnig ystod eang o adloniant a gweithgareddau Nadoligaidd. Nod yr achlysuron yma yw ceisio sicrhau bod modd i bawb fwynhau, gan gefnogi ein busnesau lleol hefyd. Rydyn ni’n annog trigolion i gymryd rhan, a manteisio ar y cyfle i siopa'n lleol y Nadolig yma.
Dilynwch Be’ Sy Mlaen RhCT (@whatsonrct) ar Facebook ac X er mwyn gweld y newyddion diweddaraf (sydd wedi'i gymeradwyo gan Siôn Corn a'r criw).
Wedi ei bostio ar 10/10/2025