Skip to main content

Wythnos Gofal Perthynas 2025: Yn dathlu teuluoedd perthynas yn Rhondda Cynon Taf

kinship care welsh

Mae Wythnos Gofal Perthynas (6-12 Hydref) yn wythnos genedlaethol o ymwybyddiaeth, cydnabyddiaeth a dathlu teuluoedd perthynas. Mae'n amser i daflu goleuni ar rôl hanfodol cynhalwyr sy'n berthynas sy’n camu i'r adwy i fagu plentyn sy'n aelod o'r teulu neu blentyn ffrind, gan ddarparu cartrefi cariadus a sefydlog i dros 141,000 o blant ledled Cymru a Lloegr.

Rydyn ni'n falch o gydnabod cyfraniad anhygoel cynhalwyr sy'n berthynas yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf. Mae'r cynhalwyr yma, gan gynnwys neiniau a theidiau, modrybedd ac ewythrod, brodyr a chwiorydd, yn ogystal â ffrindiau'r teulu, yn helpu i gadw'r plant yma mewn cysylltiad â'u hanwyliaid, eu gwreiddiau a'u cymunedau mewn ffyrdd arbennig. Mae hyn hefyd yn cynnwys ein rhieni maeth ymroddedig, sy'n darparu cefnogaeth hanfodol i blant sy'n agored i niwed bob dydd.

Beth yw Wythnos Gofal Perthynas?

Mae Wythnos Gofal Perthynas yn rhoi cyfle i ni godi ymwybyddiaeth o'r teuluoedd perthynas unigryw ac anhygoel, sydd yn aml yn mynd trwy gyfnodau anodd wrth sicrhau bod y plant yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu caru.

Mae chwe math o ofal perthynas:

  • Trefniadau preifat yn y teulu
  • Maethu
  • Gorchymyn trefniadau 'byw gyda' neu orchymyn preswylio
  • Gwarcheidwaeth arbennig
  • Gofal maeth gan berthynas (o dan orchymyn gofal neu drefniant gwirfoddol)
  • Mabwysiadu.

Mae Wythnos Gofal Perthynas yn ein hatgoffa bod cymuned gref o gynhalwyr sy'n berthnasau sy’n rhannu eu profiadau i helpu eraill i deimlo'n llai ynysig ac yn fwy grymus.   

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: "Mae cynhalwyr sy'n berthnasau yn arwyr yn ein cymunedau, ond mae eu gwaith yn aml yn digwydd heb dderbyn canmoliaeth. Mae'r arwyr yma'n aelodau o'r teulu, ffrindiau ac yn rhieni maeth sy'n camu i'r adwy pan fydd angen er mwyn rhannu eu cariad, sefydlogrwydd ac ymdeimlad o berthyn gyda phlant.

"Mae Wythnos Gofal Perthynas yn gyfle i gydnabod eu cyfraniadau arbennig ac i godi ymwybyddiaeth o'r heriau unigryw y maen nhw'n eu hwynebu. Boed yn fam-gu, tad-cu, chwaer, brawd, neu’n ffrind agos i'r teulu, mae cynhalwyr sy'n berthnasau yn haeddu cefnogaeth a chydnabyddiaeth bob wythnos, nid yn ystod yr wythnos yma'n unig.

"Yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n falch o ddathlu eu hymrwymiad a’u tosturi cyson, ac eisiau diolch i’r holl deuluoedd gofal perthynas ledled y Fwrdeistref Sirol.”

'Kinship' ydy'r brif elusen i gynhalwyr sy'n berthnasau yng Nghymru a Lloegr. Cafodd  Wythnos Gofal Perthynas ei lansio’n wreiddiol yn 2018 gan 'Kinship'. Mae’n rhoi cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i gynhalwyr sy'n berthnasau, sef ffrindiau ac aelodau’r teulu sy'n magu plentyn pan nad oes modd i’w rieni wneud, gan sicrhau bod y plentyn yn cael ei rymuso. Mae 'Kinship' yn cynnig gweithdai, cymorth a chymuned am ddim er mwyn helpu'r cynhalwyr yma i fynd i'r afael â'r heriau gyda hyder.

Dewch yn rhan o Wythnos Gofal Perthynas yma: kinship.org.uk/kinship-care-week

Wedi ei bostio ar 10/10/2025