Skip to main content

Vision Products yn sicrhau Contract Ffenestri a Chynteddau 6 mlynedd gyda Trivallis

Vision products for PR resized

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi contract sylweddol newydd gyda Trivallis, gan fod Vision Products wedi sicrhau contract 6 mlynedd yn ddiweddar i ddarparu ffenestri a chynteddau newydd yng nghartrefi Trivallis. Bydd y rhaglen yma yn dechrau gyda thymor cychwynnol, tair blynedd o hyd, gyda'r opsiwn i’w hymestyn am dair blynedd arall.

Mae'r contract yma yn nodi carreg filltir sylweddol i gwmni Vision Products, gan atgyfnerthu ei enw da am ddarparu cynlluniau gosod ffenestri newydd o ansawdd uchel wrth hefyd gynnig a chreu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon ar gyfer pobl leol ag anableddau.

Meddai Nicola Williams, Rheolwr Gwasanaeth Vision Products: "Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi sicrhau'r contract 3 blynedd o hyd yma, gyda'r opsiwn am 3 blynedd ychwanegol gyda Trivallis, gan barhau â'n trefniant gwaith hirsefydlog sy'n cael ei werthfawrogi. Mae'r cymorth parhaus yma yn adlewyrchu cryfder ein perthynas waith a’n hymrwymiad i gefnogi busnesau lleol sydd wir yn cael effaith gymdeithasol.

"A ninnau'n fusnes cyflogaeth gefnogol, mae Vision Products yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon ar gyfer pobl anabl, ac mae'r contract yma yn ein helpu ni i barhau â'r nod yma, gan ddarparu ffenestri, drysau a chynteddau o ansawdd uchel i'r cymunedau rydyn ni'n cynnig gwasanaeth iddyn nhw."

Mae'r bartneriaeth yma yn adeiladu ar berthynas sydd wedi'i sefydlu ers blynyddoedd rhwng Vision Products a Trivallis, sydd eisoes wedi darparu miloedd o ffenestri newydd ledled Rhondda Cynon Taf. Bydd y garfan yn cynhyrchu a gosod ffenestri a chynteddau sy'n effeithlon o ran ynni, gan helpu i wella diogelwch, gwedd, a chynaliadwyedd cartrefi tenantiaid.

Meddai Vic Cox, Cyfarwyddwr Asedau a Chynaliadwyedd Trivallis: "Rydyn ni'n falch iawn o barhau i weithio gyda chwmni Vision Products, ac i ddyrannu'r contract sylweddol yma iddo. Mae ymrwymiad Vision Products i ddarparu cyfleoedd i bobl anabl, wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau o'r radd flaenaf, yn rhywbeth rydyn ni'n falch iawn i’w gefnogi. Mae'r bartneriaeth yma yn ymwneud â mwy na gwella cartrefi yn unig, mae'n ymwneud â chryfhau ein cymunedau a chefnogi cyflogaeth gynhwysol."

Mae'r contract yma yn adlewyrchu cryfder ein partneriaeth gyda Trivallis, a hefyd yn tynnu sylw at werth buddsoddi mewn gwasanaethau cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Mae Vision Products yn parhau i arddangos sut mae modd i fusnesau cyflogaeth gefnogol ddarparu ansawdd rhagorol ac effaith ystyrlon - gan wella cartrefi a grymuso unigolion.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: "Mae'r contract yma yn arwydd o waith caled ac ymrwymiad y garfan. Rydyn ni'n falch bod cwmni Vision Products yn cael ei gydnabod am ansawdd ei nwyddau ac am yr effaith gadarnhaol mae’n ei chael ar fywydau pobl.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r gwaith gyda Trivallis yn parhau, gan ddarparu gwir werth i denantiaid a'r gymuned ehangach."

Mae Vision Products yn fusnes cyflogaeth gefnogol sy'n rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf ac mae wedi ymrwymo i ddarparu cymorth, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl. Mae'n cynnig ystod amrywiol o nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys cymhorthion byw, nwyddau symudedd a ffenestri a drysau PVCu o safon uchel. Cenhadaeth Vision Products yw gwneud effaith gadarnhaol yn y gymuned trwy alluogi unigolion a hyrwyddo cynhwysiant.

I gael rhagor o wybodaeth am Vision Products a'r cynllun swyddi dan hyfforddiant, cysylltwch â:

Cyfeiriad: Vision Products, Uned 2 Parc Glas, Ystad Ddiwydiannol Lôn Coedcae, Pont-y-clun, CF72 9GP

Rhif ffôn: 01443 229988

E-bost: visionproductsbusnes@rctcbc.gov.uk

Facebook: https://www.facebook.com/VisionProductsRCT

Gwefan: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/VisionProducts/Home.aspx

Wedi ei bostio ar 29/10/2025