Skip to main content

147 o fusnesau bwyd yn derbyn sgôr PUM SEREN!

Dathlwch mewn steil yn y lleoedd bwyta gorau yn Rhondda Cynon Taf!

P'un a ydych chi'n dathlu'r plant yn mynd yn ôl i'r ysgol, pen-blwydd mawr neu achlysur arbennig - neu efallai rydych chi'n chwilio am esgus i fwyta allan, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn atgoffa trigolion bod modd iddyn nhw  'Edrych cyn archebu' gan fod y sgorau hylendid bwyd diweddaraf wedi cyrraedd!

Mae 147 o fusnesau bwyd yn RhCT wedi derbyn sgôr o BUMP am eu ‘Scores On The Doors’ rhwng Ebrill a Mehefin 2025, felly mae digonedd o ddewis ar gael. 

Mae 'Scores On The Doors' neu i ddefnyddio'i enw swyddogol - y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn helpu trigolion i ddewis ble i fwyta neu ble i brynu bwyd drwy roi gwybodaeth glir iddyn nhw am safonau hylendid y busnesau.  Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal y cynllun mewn partneriaeth â phob awdurdod lleol yng Nghymru.

Drwy’r Cynllun, mae busnes yn cael sgôr rhwng 5 a 0 sy’n cael ei harddangos yn ei eiddo ac ar-lein er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau mwy gwybodus o ran ble i brynu a bwyta bwyd.

5 *****

 

da iawn

4 ****

 

da

3 ***

 

boddhaol ar y cyfan

2 **

 

angen gwella

1 *

 

angen gwella yn sylweddol

0

 

angen gwella ar frys

Dros gyfnod o dri mis, derbyniodd cyfanswm o 147 safle y sgôr uchaf o BUM seren - gan gynnwys lleoliadau preifat fel ysgolion, cartrefi gofal a meithrinfeydd. 

Cafodd 63 lle bwyd cyhoeddus sgôr o BUM seren yn yr un cyfnod:

Mae modd dod o hyd i'r lleoedd bwyd a gafodd y sgôr uchaf – PUMP gan ddefnyddio'r ddolen hon. Roedd gan bob safle a gafodd sgôr o BUMP safonau hylendid Da Iawn. I gael y sgôr uchaf, mae'n rhaid i fusnesau wneud yn dda yn y tair elfen ganlynol - 

  • Da iawn gyda pha mor hylan y mae’r bwyd yn cael ei drin – sut mae’n cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a’i storio
  • Mae’r busnes mewn cyflwr da iawn– gan gynnwys glendid, cynllun, goleuo, awyru, rheoli plâu, a chyfleusterau eraill
  • Mae’r busnes yn dda iawn wrth reoli diogelwch bwyd, gan ystyried y prosesau, yr hyfforddiant a’r systemau sydd ar waith i sicrhau y caiff hylendid da ei gynnal.

Mae sgoriau'n gipolwg ar y safonau hylendid bwyd a ganfuwyd adeg yr arolygiad. Mae'n gyfrifoldeb ar y busnes i gydymffurfio â’r gyfraith o ran hylendid bwyd ar bob adeg. 

Cofiwch, os yw busnes yn cyflenwi bwyd yn rheolaidd i'r cyhoedd, am ddim neu fel arall, RHAID iddo gofrestru fel busnes bwyd – Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol.

Mae'r nifer o fusnesau arlwyo gartref wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf ac os yw rhywun yn arlwyo o gartref, rhaid iddyn nhw gofrestru eu busnes bwyd gyda'r Cyngor, yn ogystal â chynnal hyfforddiant hylendid bwyd ac asesiad risg ynghyd â manwerthwyr a bwytai i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu diogelu. Mae hyn yn cynnwys pobl/busnesau sy'n gwneud jam, siytni, cacennau a diodydd.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris – Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau;

"Mae pawb yn Rhondda Cynon Taf yn haeddu mwynhau eu bwyd, yn gwbl hyderus ei fod wedi'i baratoi mewn modd hylan - mae arddangos sgoriau hylendid bwyd yn orfodol yn helpu pawb i wneud hynny.

"Nid yn unig y mae'n fuddiol i gwsmeriaid, ond i fusnesau hefyd.  Felly, rydw i'n falch iawn i weld bod dros 147 busnes bwyd yn RhCT wedi derbyn sgôr 5 seren yn ystod arolygiadau diweddar. Rydyn ni'n ffodus bod gyda ni fusnesau bwyd a bwytai hyfryd ac unigryw yn ein Bwrdeistref Sirol ac mae llawer yn rhagor sydd â sgôr 5 seren a heb gael eu nodi yma - dyma’r rhai o fis Ebrill a Mehefin yn unig!  Mae modd i chi weld sgôr pob lleoliad ar-lein ar https://ratings.food.gov.uk/cy.”

Dydy'r cynllun sgorio hylendid bwyd ddim yn darparu gwybodaeth am y ffactorau canlynol:

  • ansawdd y bwyd, gwasanaeth i gwsmeriaid, sgiliau coginio, cyflwyniad, cysur, cydymffurfio â safonau bwyd a chyfraith alergenau.

I weld rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r arolygiadau diogelwch bwyd yn Rhondda Cynon Taf, ewch i - https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Business/LicencesandPermits/Foodbusinesslicenceandregulations/Foodsafetyinspection.aspx

Er mwyn chwilio am sgôr busnes bwyd lleol ewch i - https://ratings.food.gov.uk/cy  

Wedi ei bostio ar 08/09/2025