Skip to main content

Archwiliad pont ym Mhontypridd i lywio gwaith atgyweirio yn y dyfodol

Bridge Street grid - Copy

Nodwch y bydd Stryd y Bont, Pontypridd, ar gau i draffig sy'n teithio i un cyfeiriad fore Sul, a hynny er mwyn archwilio Pont Fictoria.

Bydd y gwaith yn dechrau hanner nos, dydd Sul, 21 Medi, ac mae disgwyl iddo ddod i ben erbyn 10am yr un diwrnod.

Yn ystod yr oriau yma, bydd y ffordd ar gau i draffig sy'n teithio tua'r dwyrain yn unig (teithio i ffwrdd o Bontypridd).

Bydd modd i draffig sy'n teithio tua'r gorllewin (i mewn i Bontypridd) ddefnyddio Stryd y Bont yn unol â'r drefn arferol. Bydd mynediad ar gael i gerddwyr hefyd.

Dyma lwybr amgen ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r dwyrain – ewch ar hyd Stryd Morgan, Heol Gelliwastad, Stryd y Santes Catrin, Heol Sardis, Broadway, Ffordd Gyswllt yr A470 ar draws y Cwm, slipffordd Stryd y Bont a Chylchfan Stryd y Bont – fel sydd i'w weld ar y map canlynol.

Bydd gwaith archwilio Pont Fictoria yn llywio cwmpas cynllun atgyweirio'r strwythur yn y dyfodol.

Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd.

Wedi ei bostio ar 15/09/2025