Mae Aelodau'r Cabinet heddiw wedi cytuno ar gynigion ailstrwythuro sy'n ymwneud â strwythur Uwch Reolwyr y Cyngor, a hynny er mwyn ymateb i heriau'r dyfodol ac i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol bosibl.
Mae'r newidiadau yma'n sicrhau bod gan y Cyngor y capasiti cywir yn y meysydd cywir o safbwynt arweinyddiaeth, gan gynllunio gwasanaethau mewn ffordd sy'n cefnogi effeithlonrwydd a gwydnwch, a hynny er mwyn gwella'r broses o ddarparu gwasanaethau i drigolion Rhondda Cynon Taf. Byddai'r cynigion yma'n arbed £365,000 yn rhan o Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.
Yn dilyn cytundeb y Cabinet, bydd y Cyngor Llawn a'r Pwyllgor Penodiadau yn trafod adroddiadau cysylltiedig pellach, er mwyn cymeradwyo'r cynigion.
Meddai Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae dull rhagweithiol y Cyngor o ran mynd i'r afael â heriau ariannol dros gyfnod o flynyddoedd olynol wedi ein galluogi ni i fuddsoddi'n barhaus yn ein hysgolion, seilwaith a blaenoriaethau pwysig eraill Rhondda Cynon Taf.
“Nid yw’r newidiadau a gynigir yn yr adroddiad yn ymwneud â chyflwyno gostyngiadau pellach yng nghostau uwch reolwyr yn unig, maen nhw hefyd yn ceisio sicrhau bod y Cyngor yn sefydliad sy'n parhau i esblygu a gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon. Bydd y newidiadau hefyd yn golygu bod y Cyngor mewn sefyllfa dda i ymdopi â'r heriau sydd o'n blaenau gan gynnal arweinyddiaeth gref a sylfaen corfforaethol sy'n hynod bwysig wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
“Unwaith eto, mae'r dull yma'n pwysleisio'r sefyllfa ariannol heriol sydd ohoni, a bod y Cyngor yn ystyried pob maes gwariant er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon bosibl, ac yn bwysicach oll ein bod ni'n parhau i gynnig a gwella gwasanaethau rheng flaen allweddol."
Ychwanegodd Paul Mee, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “A minnau'n Brif Weithredwr, mae gen i ddyletswydd i sicrhau bod gan y Cyngor ddigon o staff, swyddfeydd ac adnoddau er mwyn cyflawni cyfrifoldebau niferus y Cyngor mewn modd effeithiol.
“Mae’r cynigion rydw i wedi’u cyflwyno yn deillio o adolygiad eang mewn perthynas â’n trefniadau rheoli, sydd wedi cynnwys cysoni swyddogaethau a’r angen i sicrhau bod cyfrifoldebau wedi'u rhannu'n gytbwys ymhlith yr Uwch Reolwyr.
“Maen nhw wedi'u cynllunio mewn modd sy'n sicrhau bod ein strwythur rheoli yn parhau i fod yn addas at y diben wrth ymateb i heriau'r presennol a heriau'r dyfodol. Maen nhw hefyd yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i sicrhau arweinyddiaeth gref ac effeithlon, sy'n canolbwyntio ar werthoedd, a hynny ar lefelau uchaf y sefydliad yma.
“Mae'r holl newidiadau yma'n sicrhau bod gan y Cyngor y capasiti cywir o safbwynt arweinyddiaeth, a hynny yn y meysydd cywir, gan leihau dyblygu diangen a chynllunio gwasanaethau mewn ffordd sy’n cefnogi effeithlonrwydd a gwydnwch.”
Mae'r penderfyniad yma gan y Cabinet, a gafodd ei wneud ar 22 Medi, yn ddarostyngedig i Reolau Gweithdrefnau Trosolwg a Chraffu'r Cyngor.
Wedi ei bostio ar 23/09/2025