Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu ymdrechion ailgylchu ei ysgolion yn ystod yr wythnos ailgylchu yma (22-29 Medi)!
Thema wythnos ailgylchu genedlaethol eleni yw ‘Achub Fi, Ailgylchu’ ac mae ymgyrch Cymru yn Ailgylchu’n yn canolbwyntio ar wastraff bwyd, gan rannu’r neges ‘BYDD WYCH, AILGYLCHA’ yn RhCT!
Mae ysgolion yn Rhondda Cynon Taf wedi bod yn achub eitemau trwy eu hailgylchu am dros DDEGAWD, diolch i gystadlaethau ailgylchu Cyngor Rhondda Cynon Taf!
Mae'r ymgyrch genedlaethol yn bwrw golwg ar yr eitemau rydyn ni'n eu heithrio neu weithiau'n anghofio bod modd i ni eu hailgylchu - boed yn ganiau aerosol neu boteli siampŵ, mae'r eitemau yma'n aml iawn yn cael eu taflu'n anghywir i'r sach ddu! Mae hefyd yn canolbwyntio ar yr angen i ailddefnyddio cymaint o eitemau ag sy'n bosibl - trwy ailddefnyddio gwisg ysgol neu ddefnyddio poteli dŵr mae modd eu hail-lenwi.
Mae tair ysgol yn benodol yn Rhondda Cynon Taf wedi cyflawni'r sialens WERDD yn barhaus ac wedi arddangos eu sgiliau amgylcheddol anhygoel trwy lwyddo i gymryd rhan ym mhob cystadleuaeth ailgylchu y mae'r Cyngor wedi’i chynnal.
Sefydlwyd y cystadlaethau blynyddol yn 2015 mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion ac yn y gymuned ehangach ynglŷn â phwysigrwydd ailgylchu ac ailddefnyddio.
Yn y gorffennol, mae'r cystadlaethau wedi cynnwys her ailddefnyddio gwisg ysgol, cynllun ailddefnyddio esgidiau pêl-droed, ailgylchu batris a llawer yn rhagor –
OND y ddwy gystadleuaeth gyson sydd wedi cael eu cynnal bob blwyddyn yw;
- Yr Her Ailgylchu Bocsys Wyau Pasg a'r
- Her Ailgylchu Cardiau Nadolig.
Ers y cychwyn cyntaf mae Ysgol Iau Ton Pentre, Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain , ac YGG Tonyrefail wedi bod yn Arwyr Amgylcheddol ac wedi bod yn barod bob amser i ymladd y frwydr werdd sydd wedi'i phweru gan eu cymunedau cefnogol.
Ers lansio’r heriau i ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd, mae'r ysgolion yma wedi cymryd rhan yn gyson yn ein her deunydd pacio Wyau Pasg a’n Her Cardiau Nadolig bob blwyddyn!
Mae carfan Ymweld â Bryn Pica wedi ymweld â’r TAIR ysgol heddiw, i ddiolch iddyn nhw am eu holl gefnogaeth.
Cyflwynwyd dewis o becyn amgylcheddol garddio neu gasglu sbwriel i'r ysgolion hefyd, er mwyn gwella amgylchedd eu hysgol a helpu i sicrhau eu bod yn parhau â'u hymdrechion anhygoel am flynyddoedd lawer i ddod!
Dros y deng mlynedd diwethaf:
- Mae Ysgol Iau Ton Pentre wedi casglu 177,739 gram o ddeunydd pacio wyau Pasg a 511,415 gram o gardiau Nadolig ail-law i'w hailgylchu, sy'n swm syfrdanol!
- Mae Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain wedi casglu 102,789 gram o ddeunydd pacio wyau Pasg a 531,577 gram o gardiau Nadolig ail-law i'w hailgylchu, sy'n swm trawiadol!
- Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail wedi casglu cyfanswm o 303,997 gram o ddeunydd pacio wyau Pasg a 465,565 gram o gardiau Nadolig ail-law i'w hailgylchu!
Mae hyn yn golygu bod y TAIR ysgol yma wedi llwyddo i ailgylchu ymhell dros DDWY DUNNELL o wastraff – a hynny i gyd wrth helpu eu hysgol a’u cymuned leol!
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd: “Mae Wythnos ailgylchu’n wythnos i ddathlu’r holl ymdrechion anhygoel yn ein cymunedau a hefyd i godi ymwybyddiaeth bod angen i ni i gyd barhau â’r frwydr yn erbyn gwastraff. Hoffwn i ddiolch i’r holl ysgolion a’u cymunedau am gymryd rhan yn ein cystadlaethau dros y degawd diwethaf, ac mae’n wych gweld eu bod wedi dod yn rhan gadarn o’r calendr academaidd – gyda chynifer o ysgolion yn cymryd rhan flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Diolch yn arbennig i Ysgol Iau Ton Pentre, Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain ac YGG Tonyrefail am eu cefnogaeth eithriadol, rydyn ni'n gwerthfawrogi'ch ymrwymiad i ailgylchu yn fawr ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y pecynnau ailgylchu ychwanegol yn eich helpu i barhau â’ch gwaith anhygoel!
"Rydyn ni’n gwerthfawrogi’ch ymdrechion gwych yn Rhondda Cynon Taf i ailgylchu. Dyma ddiolch i chi unwaith eto am gymryd rhan ym mhob Her Pasg a Nadolig yn ystod y degawd diwethaf!"
Mae ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf yn HAWDD. Rydyn ni'n casglu bagiau ailgylchu CLIR, gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd y gwanwyn a hen gewynnau o ymyl y ffordd bob wythnos.
Ydych chi'n ansicr am ba nwyddau mae modd eu hailgylchu? Defnyddiwch y cyfleuster chwilio ar-lein – https://www.rctcbc.gov.uk/ChwilioAmAilgylchu
Beth am weld faint rydych chi'n ei wybod am ailgylchu? Rhowch gynnig ar ein gêm ailgylchu ddifyr yma: www.rctcbc.gov.uk/GemAilgylchu.
Am ragor o wybodaeth ynghylch ailgylchu neu gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd a chewynnau/anymataliaeth ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.
Wedi ei bostio ar 26/09/2025