Skip to main content

Newidiadau i Gabinet y Cyngor

Mae Arweinydd y Cyngor, Y Cyng. Andrew Morgan OBE, wedi diwygio trefniadau ei Gabinet. Bydd y newidiadau hyn yn niwtral o ran cost heb unrhyw gostau ychwanegol ac yn defnyddio, am y tro cyntaf, y trefniadau rhannu swyddi a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Dyma'r Cabinet newydd:

  • Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi – Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE
  • Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor – Y Cynghorydd Maureen Webber BEM
  • Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhys Lewis
  • Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol – Y Cynghorydd Gareth Caple a'r Cynghorydd Sharon Rees (rhannu swydd)
  • Aelod o'r Cabinet ar faterion Adfywio a Thai – Y Cynghorydd Mark Norris
  • Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd – Y Cynghorydd Ann Crimmings
  • Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau – Y Cynghorydd Bob Harris a'r Cynghorydd Scott Emanuel (rhannu swydd)
  • Aelod o'r Cabinet ar faterion Adnoddau – Y Cynghorydd Tina Leyshon a'r Cynghorydd Ros Davies (rhannu swydd)

Bydd y Cyngor yn penderfynu ar Lywydd newydd, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Gwasanaeth Addysg a Chynhwysiant yr wythnos nesaf.

Wedi ei bostio ar 16/09/2025