Mae disgyblion a staff Ysgol Arbennig Maesgwyn yng Nghwmdâr yn mwynhau cyfleusterau a mannau modern newydd bob dydd, a hynny ar ôl i estyniad gwerth £1.5 miliwn i adeilad eu hysgol gael ei gwblhau dros wyliau'r haf.
Cafodd y buddsoddiad ei ariannu trwy gyllid cyfalaf y Cyngor, ynghyd â chymorth trwy Grant Cyfalaf Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru. Darparwyd tair ystafell ddosbarth o'r radd flaenaf sy'n amgylcheddau dysgu llachar a lliwgar, ystafell synhwyraidd bwrpasol a man awyr agored newydd.
Cwblhaodd y contractwr, GKR Maintenance and Building Company Ltd, yr estyniad cyn blwyddyn academaidd 2025/26 a ddechreuodd ym mis Medi. Mae'r buddsoddiad yma'n cyd-fynd ag ardal chwarae 3G newydd sydd wedi'i datblygu'n ddiweddar ar gyfer yr ysgol gan gontractwr South Wales Sports Grounds.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Rydw i wrth fy modd bod y buddsoddiad yma gwerth £1.5 miliwn gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru bellach wedi'i gwblhau, gan ddarparu estyniad modern i Ysgol Arbennig Maesgwyn gyda mannau hyblyg newydd sy'n creu amgylchedd dysgu ysgogol. Mae'r prosiect hefyd wedi cynnwys ystafell synhwyraidd arbenigol a man awyr agored newydd, sy'n helpu disgyblion i ffynnu.
“Mae buddsoddi yn ein hysgolion ADY yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor, ac es i i safle adeiladu'r ysgol 3-19 oed drawiadol yng Nghwm Clydach yn ddiweddar – dyma ddatblygiad sylweddol a fydd yn sefydlu ein pumed ysgol ADY, yn ystod 2026. Mae lleoliad y Blynyddoedd Cynnar newydd ar gyfer disgyblion ag ADY wedi cael ei sefydlu'n ddiweddar yn Nhonyrefail, ac mae datblygiad arfaethedig ym Muarth-y-capel, Ynys-y-bwl.
“Mae'n wych clywed bod disgyblion a staff bellach yn mwynhau eu cyfleusterau newydd yn Ysgol Arbennig Maesgwyn, ac rwy'n dymuno'n dda iddyn nhw ar gyfer tymor newydd yr ysgol. Hoffwn i ddiolch i bawb a oedd yn rhan o waith cyflawni'r datblygiad ar amser dros yr haf eleni, gan gynnwys ein contractwr.”
Mae Ysgol Arbennig Maesgwyn yn ysgol yng Nghwm Cynon i blant 11-19 oed, sydd ag anawsterau dysgu cymhleth. Mae'r rhain yn cynnwys Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD), anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol, anawsterau corfforol ac anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.
Wedi ei bostio ar 16/09/2025