Skip to main content

Lido Ponty: Mae sesiynau nofio mewn dŵr oer YN ÔL ar gyfer gaeaf 2025 - Cold Water Swims are back!

Square-Cold-Water-Swim

Mae 10fed haf Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, wedi dod i ben – ond, peidiwch â phoeni, mae sesiynau nofio mewn dŵr oer YN ÔL ar gyfer gaeaf 2025!

Mae wedi bod yn brif dymor anhygoel, gyda bron i 100,000 o bobl yn cadw lle ar gyfer y sesiynau nofio ben bore neu sesiynau hwyl i'r teulu ym mhyllau awyr agored wedi'u cynhesu yr atyniad poblogaidd ym Mhontypridd ers y Pasg.

Mae hi hefyd wedi bod yn 10 mlynedd ers i Lido Ponty ailagor.

Ym mis Awst 2015, ailagorodd ei ddrysau i'r cyhoedd yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £6.3 miliwn ar y lido Art Deco gwreiddiol sydd wedi sefyll ym Mharc Coffa Ynysangharad ers 1927 ac sydd wedi croesawu 850,000 o ymwelwyr o bob cwr o'r byd ers hynny!

Mae hwyl Lido Ponty yn parhau wrth i dymheredd y dŵr yn y pyllau awyr agored gael ei ostwng i 14 gradd ar gyfer y sesiynau nofio mewn dŵr oer, a fydd yn cael eu cynnal bob dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 23 Tachwedd. 

Bydd tocynnau ar gyfer y sesiynau nofio mewn dŵr oer yn mynd ar werth am 9am ddydd Llun, 6 Hydref ar www.lidoponty.co.uk

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau: "Am flwyddyn i'n Lido Ponty! Mae bron i 100,000 o ymwelwyr wedi ymweld â ni mewn un tymor, ac rydyn ni wedi dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed hefyd!

"Rydyn ni'n falch o gadarnhau bod y sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd, sy'n parhau i dyfu o ran poblogrwydd bob blwyddyn. 

"Rydyn ni'n croesawu llawer o ymwelwyr sydd dim ond yn dod i Lido Ponty yn ystod y sesiynau nofio mewn dŵr oer, gan eu defnyddio i hyfforddi ar gyfer achlysuron chwaraeon neu fel dewis arall yn lle nofio gwyllt.

“Ond rydyn ni hefyd yn croesawu'r un faint o’n cwsmeriaid rheolaidd, sy’n newid eu sesiynau nofio ben bore am y sesiynau nofio mewn dŵr oer hefyd er mwyn parhau â’u profiad yn Lido Ponty cyhyd ag y mae modd iddyn nhw wneud hynny!

“Mae’r ffaith bod 850,000 o bobl wedi ymweld â Lido Ponty ers iddo ailagor ei ddrysau i’r cyhoedd yn 2015 yn dyst i’r profiad eithriadol y mae’r lleoliad – a’i staff – yn ei gynnig.

“Mae wedi’i sefydlu’n gadarn fel un o’r atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd – ac unigryw – yng Nghymru, gan groesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd ers ei ailagor.

“Dyma obeithio y bydd hynny’n parhau am gyfnod maith a bydd Lido Ponty yn parhau â’r cynnig gyda’r sesiynau nofio mewn dŵr oer, sesiynau nofio Gŵyl San Steffan a Dydd Calan cyn dechrau prif dymor anhygoel arall adeg y Pasg, 2026!”

Wedi ei bostio ar 25/09/2025