Skip to main content

Cynllun lleol i leihau perygl llifogydd mewn cymuned yng Nghwm Cynon

Brynmair Road FAS - Copy

Dyma roi gwybod i drigolion Godreaman am gynllun lliniaru llifogydd lleol, a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf a bydd angen cau llwybr lleol.

Bydd canolbwynt y gwaith ar lwybr Dâr Aman y tu ôl i Heol Brynmair, yn ogystal â'r ardal y tu ôl i 194-196 Heol Brynmair.

Bydd yn lleihau perygl llifogydd cyrsiau dŵr cyffredin, gan gael effaith ar wella'r perygl ar hyd Heol Brynmair a Heol Cwmaman – sy'n llwybr trafnidiaeth lleol allweddol.

Mae'r Cyngor wedi penodi Hammonds ECS Ltd i gynnal y gwaith o ddydd Llun 29 Medi – ac mae disgwyl iddo bara tua 10 wythnos.

Bydd y cynllun yn gwella gallu cilfach y cwlfer i ddraenio fel bod modd delio â dŵr wyneb yn well, a bydd dau bolyn BT yn cael eu dargyfeirio.

Bydd gwaith gwella mynediad yn cael ei gynnal er mwyn cynnal a chadw'r gilfach yn y tymor hir, gan gynnwys unrhyw ofynion mynediad brys – a hynny trwy rywfaint o waith clirio llystyfiant.

Bydd llwybr Dâr Aman yn cau o 29 Medi. Bydd arwyddion ar gyfer llwybr amgen lleol i gerddwyr i'w gweld – ar hyd Stryd Trem y Cwm, Stryd y Dyffryn, Heol y Jiwbilî a Heol Brynmair, neu'r llwybr yma i'r cyfeiriad arall.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu trwy Raglen Gwaith ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru, gyda chyllid cyfatebol gan y Cyngor.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith.

Wedi ei bostio ar 24/09/2025