Mae mwy na 9000 o drigolion Rhondda Cynon Taf wedi mwynhau Haf o Hwyl o ganlyniad i gyllid a ddaeth i law'r Cyngor drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Ym mis Mehefin 2025, cafodd Grant Micro Gweithgareddau'r Haf y Gronfa ei lansio. Roedd y cynllun yma'n cynnig grantiau o hyd at £750 i grwpiau gwirfoddol yn y gymuned a grwpiau trydydd sector. Llwyddodd hyn i sicrhau bod modd cynnal 86 o brosiectau dros gyfnod yr haf, a chafodd y rhain eu mwynhau gan fwy na 9000 o drigolion!
Yn sgil y grant, cafodd £60,000 ei fuddsoddi mewn gweithgareddau dan arweiniad y gymuned, gyda mwy na 450 o sesiynau'n cael eu cynnal i bobl o bob oed.
Roedd y gweithgareddau yn amrywio o sesiynau i rieni a phlant bach, i dwrnameintiau criced, sesiynau coginio, heriau Lego, sesiynau picnic y tedis, nosweithiau ffilm, sesiynau cyngor ariannol, noson i'r henoed, ymweliadau â chartrefi gofal gan Gôr Meibion Morlais, ffeiriau haf, sesiynau crefft a chelf, diwrnodau hwyl i'r teulu, tripiau undydd i'r Bathdy Brenhinol a hyd yn oed achlysur coffa arbennig i gofio rhai aelodau arbennig iawn o’r gymuned.
Hyd yma, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi llwyddo i ddyrannu mwy na £2 filiwn i grwpiau cymuned yn y trydydd sector a'r sector gwirfoddol eleni. Nod hyn yw helpu i gefnogi'r gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud ledled ein Bwrdeistref Sirol.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu haf llwyddiannus o weithgareddau yn y gymuned ac rydyn ni bellach yn edrych ymlaen at y gaeaf wrth lansio cyllid newydd ar gyfer "Mannau Diogel a Chynnes".
Mae'r cynllun Mannau Diogel a Chynnes yn adeiladu ar lwyddiant Canolfannau Croeso'r Gaeaf, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus dros y 3 blynedd diwethaf. Yn 2024/25, cefnogodd Canolfannau Croeso'r Gaeaf fwy na 5,000 o drigolion mewn 85 o leoliadau ledled RhCT.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Mae cefnogi’r trydydd sector a grwpiau cymuned yn brif flaenoriaeth i’r Cyngor ac rydw i’n falch o glywed bod cynifer o bobl wedi mwynhau’r sesiynau. Mae'r adborth cadarnhaol sydd wedi dod i law yn cadarnhau bod y sesiynau hyn wedi darparu gweithgareddau diogel a hwyliog, ac wedi helpu ein partneriaid i feithrin cydberthnasau â'n cymunedau lleol. Roedd yr holl ganolfannau'n boblogaidd iawn, gyda theuluoedd lleol a thrigolion o bob oed yn cymryd rhan."
“Y newyddion da yw bod y Cyngor bellach wedi rhyddhau cyllid newydd i’r trydydd sector a grwpiau cymuned o ganlyniad i ddyfarniad Mannau Diogel a Chynnes Llywodraeth Cymru. Bydd y grant yma'n yn darparu hyd at £1,500 i grwpiau cymwys er mwyn creu mannau cynnes newydd, neu wella mannau cynnes sy'n bodoli eisoes, yn ystod y misoedd oerach.
“Yn ogystal â chynnig man i gadw'n gynnes, bydd y canolfannau yma'n amgylcheddau croesawgar, hygyrch a diogel. Bydd modd i drigolion fwynhau diod gynnes a byrbryd, cymryd rhan mewn gweithgareddau fel ioga neu gelf a chrefft, a rhoi'r byd yn ei le. Bydd rhai mannau hefyd gynnig cyngor a gwasanaethau cymorth ar faterion ariannol neu iechyd a lles.
“Rydw i'n annog grwpiau cymuned a’r trydydd sector i ymgeisio am y grantiau yma fel bod modd iddyn nhw barhau â'r gwaith gwych maen nhw eisoes yn ei wneud yma yn Rhondda Cynon Taf.”
Os oes modd i'ch ch grŵp neu sefydliad chi ddarparu man cynnes newydd, neu os ydych chi'n cynnig man cynnes yn Rhondda Cynon Taf eisoes, mae modd ymgeisio am y grant yma: www.rctcbc.gov.uk/MannauDiogelaChynnesMODd.
Hoffech chi ragor o wybodaeth? Ewch i: www.rctcbc.gov.uk/MannauDiogelaChynnes.
Wedi ei bostio ar 23/09/2025