Skip to main content

Y newyddion diweddaraf: camau cynnar y broses o bennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf

Bydd y Cabinet yn derbyn diweddariad manwl gan swyddogion mewn perthynas â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, sy'n amlinellu'r sefyllfa ariannol a ragwelir ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae'r sector cyhoeddus yn parhau i wynebu heriau sylweddol, felly mae gwaith ar y gweill i baratoi ar gyfer y broses o bennu cyllideb 2026/27.

Yn rhan o ddull cadarn y Cyngor ar gyfer rheoli materion ariannol, bydd swyddogion yn adrodd ar eu gwaith modelu cyllideb a chynllunio ariannol cynnar ar gyfer y flwyddyn ganlynol – a hynny cyn mynd ati gynnal gwaith manwl ar strategaeth y gyllideb yn yr hydref. Bydd sefyllfa eleni yn cael ei hadrodd i'r Cabinet ar ddydd Llun, 22 Medi.

Mae’r sector cyhoeddus wedi wynebu cyfnod parhaus o ostyngiadau termau real ers blynyddoedd lawer, a bydd yr adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun yn nodi bod y sefyllfa yn debygol o barhau i fod yn heriol yn ystod y cyfnod sydd i ddod. Mae hyn oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys pwysau costau byw parhaus - sy'n cyfrannu at fwy o alw am wasanaethau a chostau uwch ar draws gwasanaethau'r Cyngor, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol.

Yn ogystal, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (Llywodraeth Cymru) wedi rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith paratoi sy'n cael ei gynnal mewn perthynas â phennu cyllideb 2026/27 ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru – gan nodi y bydd cyllideb un flwyddyn sy'n cynyddu gwariant y flwyddyn gyfredol yn unol â lefelau chwyddiant yn unig (2%) yn cael ei chyflwyno. Byddai'r dull yma'n cadw cyllid er mwyn datblygu rhaglen lywodraeth newydd ar gyfer tymor newydd y Senedd (yn dilyn etholiadau Mai 2026). Mae hyn yn cyflwyno her sylweddol i Awdurdodau Lleol o ran mynd ati i bennu cyllidebau cytbwys a chyfreithiol ar gyfer y flwyddyn nesaf erbyn mis Mawrth 2026, a hynny gan fod costau cyflogau a chostau nad ydyn nhw'n ymwneud â chyflogau yn cynyddu llawer yn uwch na'r lefel ariannu a nodir ar hyn o bryd yn rhan o gyllideb un flwyddyn arfaethedig Llywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun yn defnyddio nifer o ragdybiaethau modelu i nodi'r sefyllfa ariannol y gallai'r Cyngor ei hwynebu. Bydd setliad 2026/27 Llywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdodau Lleol yn cael effaith fawr ar hyn, gan fod pob newid o 1% mewn cyllid yn cynrychioli £5.2 miliwn yng nghyllideb y Cyngor.

Mae'r adroddiad yn dangos y bydd pob rhagdybiaeth gynllunio yn arwain at fwlch cyllidebol sylweddol y bydd y Cyngor yn ei wynebu yn ystod y flwyddyn nesaf. Byddai'r dull a nodir ar hyn o bryd gan Ysgrifennydd y Cabinet, sef cynyddu'r gyllideb yn unol â lefelau chwyddiant yn unig (cynnydd o 2% mewn cyllid), yn arwain at fwlch cyllidebol gwerth £28.2 miliwn y flwyddyn nesaf, a hynny cyn ystyried lefelau Treth y Cyngor.

Bydd y Cyngor yn parhau â'i strategaeth o nodi mesurau i leihau'r gyllideb yn gynnar yn y broses, a hynny er mwyn cau'r bwlch yn y gyllideb ac amddiffyn gwasanaethau allweddol. Fodd bynnag, yn dilyn sawl blwyddyn lle'r oedd angen sicrhau arbedion mawr a chyflwyno mesurau effeithlonrwydd mawr, byddai sefyllfa 2026/27 yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael er mwyn lleihau'r gyllideb – oni bai bod sicrwydd yn cael ei roi am lefelau ariannu mwy cadarnhaol yn y dyfodol.

Gall trigolion fod yn sicr y bydd y dull yn parhau i gynnig ein bod yn blaenoriaethu cyllid ar gyfer ysgolion lleol a gofal cymdeithasol, sydd wedi cael eu trin yn ffafriol o'u cymharu â gwasanaethau eraill y Cyngor ers blynyddoedd lawer.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r rhagolygon ariannol ar gyfer Llywodraeth Leol yn parhau i fod yn heriol iawn dros y cyfnod nesaf, a bydd y Cabinet yn trafod yr adroddiad gan swyddogion yn fuan. Mae'r adroddiad yn egluro'r cyd-destun o ran ein cyllideb ar gyfer 2026/27. Mae hyn yn dilyn tair blynedd lle rydyn ni eisoes wedi wynebu'r bylchau mwyaf sylweddol y mae'r Cyngor hwn erioed wedi'u hwynebu o ran ei gyllideb – £38 miliwn yn 2023/24, £36 miliwn yn 2024/25, a £36 miliwn ar gyfer cyllideb y flwyddyn gyfredol. Roedd y rhain yn galw am ymdrech enfawr ar draws y Cyngor i nodi arbedion, ac yn anffodus roedd yn rhaid i'r Cyngor wneud rhai penderfyniadau anodd iawn ar hyd y ffordd.

“Mae'r sefyllfa sydd wedi'i modelu eleni yn nodi bwlch gwerth £28.2 miliwn fel man cychwyn, gan ystyried ffactorau fel y pwysau costau byw parhaus a’r galw cynyddol am wasanaethau, a'r costau cysylltiedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd yn cyflwyno cyllideb dreigl y flwyddyn nesaf, yn seiliedig ar lefelau chwyddiant yn unig.

“Byddai’r sefyllfa ariannol yma'n golygu y bydd rhaid i ni ystyried pob opsiwn posibl er mwyn lleihau’r gyllideb, gyda phob posibilrwydd yn cael ei ystyried.   Rydyn ni'n effro iawn i'r ffaith ei bod hi'n dod yn anoddach bob blwyddyn i sicrhau arbedion mawr, mae'n anochel y byddai angen gwneud penderfyniadau anodd pellach yn absenoldeb cymorth ariannol y tu hwnt i'r gyllideb dreigl o 2% a nodwyd. Mae'r Cyngor yn parhau i lobïo'n gryf am gymorth ychwanegol ar gyfer Awdurdodau Lleol.

“Bydd swyddogion yn parhau i gyflwyno gwybodaeth i'r Cabinet wrth iddyn nhw fwrw ymlaen â'u gwaith o bennu cyllideb y flwyddyn nesaf dros yr wythnosau nesaf, bydd adolygiad llawn yn cael ei gynnal i weld sut y gellir cyflawni arbedion ar draws ein holl feysydd gwasanaeth. Bydd gyda ni lawer mwy o sicrwydd ynghylch lefel yr arbedion sydd eu hangen yn dilyn cyhoeddi'r Setliad Llywodraeth Leol dros dro nes ymlaen eleni.”

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd uwch swyddogion yn archwilio sut y gellir gwneud arbedion – o arbedion effeithlonrwydd pellach i adolygu gofynion y Cyngor o ran y gweithlu ac adnoddau, bwrw ymlaen â'r gwaith sydd ei angen i gyflawni Rhaglen Drawsnewid barhaus y Gwasanaethau Cymdeithasol, adolygu cyllidebau lefel gwasanaeth ac asedau adeiledig, manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd buddsoddi tymor hir, cyflawni uchelgeisiau newid hinsawdd ac – fel dewis olaf – cwtogi ar wasanaethau. 

Wedi ei bostio ar 19/09/2025