Skip to main content

Aelodau ar gyfer Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Rhondda Fach

Ynglŷn â'r swydd

Mae Rhondda Fach yn un o 284 o leoedd ledled y DU i dderbyn hyd at £20 miliwn dros ddeng mlynedd yn rhan o Raglen Balchder Bro Llywodraeth San Steffan, sydd â'r nod o adeiladu cymunedau cryfach, creu lleoedd sy'n ffynnu a grymuso pobl i adennill rheolaeth.

Er mwyn cyflawni'r Rhaglen Balchder Bro, mae Byrddau Cymdogaeth yn cael eu sefydlu ym mhob cymdogaeth. Bydd Cadeirydd annibynnol yn arwain pob Bwrdd – rhywun a all ddod â chymunedau ynghyd i rannu eu syniadau mewn ffordd agored a chydweithredol a darparu arweinyddiaeth weithredol i arwain y Bwrdd a sicrhau bod y buddsoddiad sylweddol yma'n cael ei gyflawni'n effeithiol.

Ar ôl ei benodi, bydd y Cadeirydd yn arwain y gwaith o benodi a chynnull y Bwrdd, sicrhau detholiad cynhwysol a chynrychioliadol o bobl o bob cwr o'r gymuned leol, gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol a'r AS lleol.

Rhaid i fyrddau gynnwys o leiaf wyth aelod, er mwyn sicrhau ystod eang o leisiau a safbwyntiau, a dylai o leiaf 51% o'r aelodau fyw neu weithio o fewn ffiniau'r gymdogaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod y Bwrdd yn cael ei arwain gan drigolion.

Ar y cyd â phobl leol, bydd gan y Bwrdd Cymdogaeth gyfle i roi newidiadau ystyrlon ar waith o fewn ei gymuned. Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Balchder Bro ar gyfer yr ardal erbyn mis Tachwedd 2026, gan lunio gweledigaeth 10 mlynedd a chynllun buddsoddi ar gyfer y 4 blynedd cyntaf gyda blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer ysgogi newid cadarnhaol.

Rydyn ni'n chwilio am Aelodau'r Bwrdd sydd:

  • Yn byw neu'n gweithio yn ardal Rhondda Fach, neu sydd â chysylltiad arwyddocaol â'r ardal.
  • Â chysylltiad cryf â'r gymuned ac awydd i'w gwneud hi'n ardal hyd yn oed gwell i fyw ynddi.
  • Yn gallu cymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau, gan gynrychioli buddiannau'r gymdogaeth, waeth beth fo'u cydberthnasau personol neu sefydliadol.
  • Yn sicrhau bod pobl leol o’r farn eu bod yn cael eu clywed, a bod gyda nhw sicrwydd bod cyllid yn cael ei wario'n effeithlon, yn effeithiol ac mewn modd sy’n cydymffurfio â’r gofynion.

Mae swydd Aelod o'r Bwrdd yn wirfoddol. Serch hynny, i sicrhau bod modd i ymgeiswyr na fyddai'n gallu ymgeisio fel arall wneud cais, bydd modd talu treuliau rhesymol.

Fel arfer, bydd angen i Aelodau Bwrdd ymrwymo amser ar gyfer o leiaf 4 cyfarfod y Bwrdd y flwyddyn, gan gynnwys paratoi a bod yn bresennol yn y cyfarfodydd ac ymwneud â sesiynau datblygu neu ymgysylltu ychwanegol yn ôl yr angen. Serch hynny, bydd y swydd yn fwy prysur yn ystod y chwe mis cyntaf pan fydd angen i'r Aelodau hefyd neilltuo amser i ymgysylltu â'r gymuned a helpu i ddatblygu'r cynllun Balchder Bro.

Bydd y Bwrdd Cymdogaeth yn derbyn cefnogaeth barhaus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sef y Corff Atebol sydd â chyfrifoldeb am weinyddu materion ariannol a thryloywder llywodraethu.

Os ydych chi'n meddwl y byddai'r rôl yma'n addas ar eich cyfer chi,llenwch ffurflen mynegi ddiddordeb.Mae modd gwneud cais am becyn drwy e-bostio BusnesyCyngor@rctcbc.gov.uk.

Rhaid cyflwyno pob ffurflen mynegi diddordeb i BusnesyCyngor@rctcbc.gov.uk erbyn dydd Gwener 8 Mai 2026.

Wedi ei bostio ar 13/04/2026