Mae caniatâd cynllunio wedi'i roi i adeiladu maes parcio wrth gefn gyda 50 o leoedd yng Nghwm Clydach i wasanaethu Parc Gwledig Cwm Clydach a defnyddwyr caeau chwaraeon cyfagos. Bydd y cyfleuster newydd yn cael ei adeiladu ar y tir wrth ymyl heol yr ystad ddiwydiannol, yn y lleoliad a ddangosir yn y llun.
Trafododd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu y cais ddydd Iau, 16 Ebrill, a chytunodd Aelodau ag argymhellion y swyddogion i roi caniatâd llawn i'r prosiect. Mae'r cais yn cynnwys darparu ffordd fynediad gysylltiedig a gwelliannau i gyffordd, a bydd y datblygiad yn cynnwys nifer o leoedd parcio i bobl anabl a gosod cyfleusterau gwefru cerbydau trydan newydd yn y maes parcio cyfagos presennol.
Mae cais y Cyngor yn ymateb i'r pwysau parcio presennol yn y lleoliad yma, lle mae'r galw yn ystod oriau prysur yn rheolaidd yn fwy na'r capasiti sydd ar gael – gan arwain at barcio a allai fod yn anniogel yn yr ardal. Drwy helpu i leddfu'r broblem yma, bydd y prosiect yn cefnogi gweithrediad parhaus Parc Gwledig Cwm Clydach – ased hamdden a thwristiaeth pwysig i'r Fwrdeistref Sirol.
Bydd y maes parcio newydd yn rhad ac am ddim i bob ymwelydd ei ddefnyddio, a bydd ganddo fynediad â gât a fydd yn cael ei reoli. Bydd y cyfleuster wedi'i gloi y tu allan i oriau gweithredu'r maes parcio, ac felly ni fydd ar agor yn gyffredinol. Bydd y trefniant yma'n atal mynediad heb awdurdod ac yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd gan y cyfleuster newydd ffordd fynediad chwe metr o led rhwng y rhesi parcio, a bydd ei wyneb yn cynnwys graean/cerrig glân – gyda'r nod o fod yn hawdd ei gynnal a’i gadw ac yn wydn, wrth gynnig lleoedd parcio wedi’u marcio. Bydd ardal fach ar gyfer parcio anffurfiol oddi ar y ffordd, wrth ymyl y lôn gefn oddi ar Deras y Rheilffordd, yn cael ei chynnal a’i chadw gyda rhai gwelliannau bach. Bydd cerbydau'n cyrraedd y safle o heol bresennol yr ystad ddiwydiannol, gyda chynllun y gyffordd fach yn cael ei ddiwygio. Bydd ffens ffin isel yn cael ei gosod o amgylch perimedr y safle.
Wrth argymell cymeradwyo’r cais, nododd y swyddogion yr angen am barcio ychwanegol a gwell, gan nad oes lleoliad addas arall ar gyfer cyfleuster o'r fath ger y parc gwledig. Nododd eu hadroddiad hefyd na fyddai gan y maes parcio effaith niweidiol o ran sut mae’n edrych, amwynder preswyl, perygl llifogydd nac ecoleg – a fyddai ddim yn lleihau diogelwch ar y briffordd.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Yn aml mae galw sylweddol am barcio yn y lleoliad yma, gyda’r ardal yn gartref i Barc Gwledig Cwm Clydach, y cyfleusterau chwaraeon yng Nghlwb Pêl-droed Cambrian United, a Bar Caffi Lakeside. Mae'r Cyngor wedi cyflwyno'r prosiect yma i ddarparu parcio am ddim ychwanegol i wasanaethu'r ardal, wrth i ni barhau i annog ymwelwyr i ddefnyddio'r atyniadau lleol yma wrth leihau'r parcio anniogel ac anffurfiol a gaiff ei brofi'n aml – yn enwedig o amgylch heol yr ystad ddiwydiannol.
“Bydd mynediad gât y maes parcio yn sicrhau ei fod wedi’i gloi pan nad yw’n cael ei ddefnyddio. Bydd atal mynediad heb awdurdod hefyd yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y cyfleuster newydd. Gyda chaniatâd cynllunio bellach wedi'i roi, bydd y prosiect yn mynd rhagddo tuag at y cam adeiladu, sydd i’w gynllunio ar gyfer y misoedd nesaf."
Wedi ei bostio ar 21/04/2026