Skip to main content

Mwynhau Diod yn yr heulwen yn Ddiogel!

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn atgoffa trigolion ac ymwelwyr bod Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) sy'n gysylltiedig ag alcohol ar waith yng nghanol trefi Pontypridd ac Aberdâr er mwyn helpu i gadw'r ardaloedd yma yn ddiogel, yn groesawgar ac yn bleserus i bawb.

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n gysylltiedig ag alcohol yn parhau i gael effaith gadarnhaol iawn yn nhrefi Pontypridd ac Aberdâr, gan helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol a chadw canol ein trefi a'n mannau cyhoeddus yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb.

Hyd yn hyn yn 2026, mae Swyddogion wedi siarad â 164 o bobl mewn perthynas â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ledled Pontypridd ac Aberdâr, a pheidiodd 149 o bobl ag yfed alcohol yn yr ardaloedd cyhoeddus gwaharddedig eto. Mae hyn yn dangos bod sgwrs syml yn ddigon yn y rhan fwyaf o achosion i newid ymddygiad a chadw pawb yn ddiogel

Dim ond 15 unigolyn a wnaeth aildroseddu, a dim ond nifer fach iawn oedd angen camau gorfodi pellach. Hyd yn hyn eleni, dim ond tri Hysbysiad Rhybudd Diogelu Cymunedau a phedwar Hysbysiad Diogelu Cymunedau i'r rhai a barhaodd i achosi problemau a oedd yn rhaid i Swyddogion eu cyhoeddi.  Er mai'r broses orfodi yw'r dewis olaf - byddwn ni'n cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n bygwth diogelwch ein cymunedau'n barhaus. 

Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn cael ei orfodi gan y Cyngor a Heddlu De Cymru ac mae'n rhoi pwerau i swyddogion awdurdodedig ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol mewn mannau cyhoeddus. Mae parthau dim alcohol yn parhau i fod ar waith yng nghanol trefi Pontypridd ac Aberdâr.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:

"Gyda'r tymereddau i fod i godi, rydyn ni'n gwybod y bydd lawer o bobl yn manteisio i'r eithaf ar ganol ein trefi, parciau a mannau awyr agored.

"Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn mwynhau'r mannau yma yn gyfrifol, ac mae'r ffigurau diweddaraf yma yn dangos bod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn parhau i'n helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel, yn groesawgar ac yn bleserus i bawb.

"Mae'n arbennig o galonogol, o'r 164 o bobl y siaradwyd â nhw gan swyddogion eleni, na wnaeth 149 ohonyn nhw aildroseddu Mae hyn yn dangos bod sgyrsiau cynnar ac ymgysylltu'n gweithio, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn ymateb yn gadarnhaol pan gaiff pryderon eu codi.

"Rydyn ni am i bawb gael haf gwych, cefnogi busnesau lleol a mwynhau treulio amser gyda ffrindiau a theulu, gan sicrhau hefyd fod canol ein trefi yn parhau i fod yn lleoedd dymunol i bawb."

Mae'r Cyngor hefyd yn atgoffa trigolion i gynllunio eu taith adref ac os ydyn nhw'n defnyddio tacsi, i wneud yn siŵr eu bod nhw wedi'u trwyddedu!

Mae'r neges gan Garfan Drwyddedu'r Cyngor yn glir: Does dim croeso i dacsis ffug a thacsis twyllodrus yn Rhondda Cynon Taf ac mae modd i'r rhai sy'n gweithredu'n anghyfreithlon wynebu erlyniad.

Mae swyddogion y Cyngor yn cynnal gwiriadau ar hap yn rheolaidd ac yn ymchwilio i adroddiadau o weithgarwch tacsis heb drwydded. Rhaid i yrwyr a cherbydau trwyddedig gael gwiriadau trylwyr i sicrhau eu bod nhw'n bodloni'r safonau sy'n ofynnol i ddarparu gwasanaeth diogel a dibynadwy i deithwyr.

Caiff trigolion eu hannog i gymryd ychydig o gamau syml i aros yn ddiogel wrth deithio adref:

  • Defnyddiwch dacsis trwyddedig yn unig.
  • Gwiriwch blât trwydded y cerbyd.
  • Anfonwch lun o'r tacsi neu'r plât trwydded at ffrind neu aelod o'r teulu fel eu bod nhw'n gwybod eich bod chi'n teithio adref yn ddiogel.
  • Gwnewch yn siŵr bod y gyrwyr a'r cerbyd yn arddangos yr wybodaeth drwyddedu ofynnol.

Yn Rhondda Cynon Taf, mae cerbydau tacsi trwyddedig:

  • Yn ddu
  • Yn arddangos arwydd ar y to sy'n dangos "Taxi" neu "Tacsi".
  • Gyda phlât trwydded a gyhoeddwyd gan y Cyngor wedi'i arddangos ar gefn y cerbyd.
  • Arddangos arwyddion drws swyddogol y Cyngor ar y ddau ddrws blaen.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn adeiladu ar lwyddiant y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ers iddo gael ei gyflwyno gyntaf. Mewn ymgynghoriad a gynhaliwyd cyn ymestyn y Gorchymyn yn 2024, roedd 95% o'r ymatebwyr yn cefnogi ei barhad, tra dywedodd 66% ei fod wedi gwella ansawdd bywyd yn eu cymunedau.

Mae'r Cyngor yn atgoffa trigolion nad yw'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn ymwneud ag atal pobl rhag mwynhau eu hunain yn gyfrifol. Yn hytrach na hynny, mae'n helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad sy'n cael effaith negyddol ar eraill ac yn sicrhau bod mannau cyhoeddus yn parhau i fod yn groesawgar i drigolion, ymwelwyr a busnesau drwy gydol yr haf.

Wedi ei bostio ar 17/08/2026