Mae gwasanaeth Hamdden am Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf a'r elusen Marauders Men's Health yn dathlu pen-blwydd cyntaf eu partneriaeth arbennig iawn.
Gyda'i gilydd, maen nhw wedi creu lle diogel hanfodol lle mae modd i ddynion gymdeithasu, cadw'n heini a chefnogi ei gilydd – gyda chymorth carfan anhygoel o staff Hamdden am Oes.
Does dim angen esbonio na hyd yn oed siarad, cewch chi ddod heb angen newid pwy ydych chi a mwynhau'r manteision sy'n dod yn sgil cadw'n heini a symud gyda phobl debyg.
Mae'r sesiynau sy'n cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Sobell, sef un o 12 canolfan Hamdden am Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan wneud gwahaniaeth mawr i fywydau'r dynion sy'n cymryd rhan ynddyn nhw.
Mae'r sesiynau wedi bod yn digwydd ers blwyddyn. Mae'r fideo isod yn dangos y dathliadau.
Mae'r bartneriaeth wedi galluogi Marauders Men's Health i ddiwallu anghenion y dynion y mae'n eu cefnogi, wrth roi cyfle i'r gwasanaeth Hamdden am Oes barhau i ddarparu ei gefnogaeth bwrpasol i'r trigolion sydd ei hangen fwyaf.
Mae Marauders Men's Health yn elusen sy'n darparu cymorth, gweithgareddau ac achlysuron cymdeithasol rhad ac am ddim, dan arweiniad cymheiriaid, ar gyfer dynion 18 oed a hŷn i leihau ynysigrwydd ac atal problemau iechyd meddwl rhag gwaethygu.
Mae wedi creu cymuned lle mae dynion yn gallu dod o hyd i'w pwrpas, cefnogi ei gilydd a datblygu eu cryfder meddyliol a chorfforol ar y cyd trwy gerdded, dosbarthiadau ffitrwydd, pêl-bicl, crwydro mannau prydferth lleol ac achlysuron cymdeithasol megis nosweithiau cyri.
Yn y cyfamser, mae'r gwasanaeth Hamdden am Oes yn cynnig mynediad diderfyn i gampfeydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, cyfleusterau chwaraeon dan do a llawer yn rhagor i dros 11,000 o drigolion o bob oed a gallu.
Mae hefyd yn ymdrechu i greu mannau cynhwysol a chroesawgar lle mae modd i bobl, ni waeth beth fo'u hoedran, eu gallu, eu profiad neu eu hiechyd, symud a chadw'n heini yn eu ffordd eu hunain.
Mae ei Garfan Datblygu Iechyd bwrpasol yn cynnig cymorth i rai o drigolion mwyaf agored i niwed RhCT, gan eu helpu i wella ar ôl salwch neu anaf, neu wella eu hiechyd, trwy sesiynau ymarfer corff a symud â chymorth.
Gan ddefnyddio hyfforddwyr Hamdden am Oes sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, mae'r garfan yn gweithio gydag unigolion sy'n cael eu hatgyfeirio gan eu meddygon at sesiynau ymarfer corff i helpu i wella eu hiechyd corfforol/meddyliol. Mewn nifer o achosion, mae'r garfan yn ysbrydoli cymaint o angerdd am symud a chadw'n heini, fod ei chleientiaid yn ymuno â Hamdden am Oes ac yn dechrau ar eu teithiau annibynnol eu hunain.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am Hamdden am Oes: “Mae'r bartneriaeth yma'n rhoi cyfle i Hamdden am Oes a’r sector elusennol gydweithio a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r bobl sydd ei angen fwyaf.
“Roedd gwasanaeth Hamdden am Oes eisoes wedi'i syfrdanu gan waith elusen Marauders Men’s Health gan iddo lansio dosbarthiadau ffitrwydd a sesiynau pêl-bicl tebyg yng Nghanolfan Chwaraeon Llanilltud Faerdref ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae cael cais i gefnogi grŵp o ddynion mewn ail ganolfan, Sobell, wedi bod yn anhygoel.
"Mae'r gwasanaeth wedi'i enwi'n Hamdden am Oes am reswm. Mae'n un o'r cynlluniau aelodaeth mwyaf cynhwysol a hygyrch yn y rhanbarth ac mae ar gael i bawb. Does dim ots beth yw eich oedran, eich gallu, eich lefelau hyder, eich iechyd neu'ch diddordebau, mae rhywbeth at ddant pawb – a rhywun wrth law bob amser i’ch helpu ar hyd y ffordd.”
Os oes gyda chi ddiddordeb yng ngwaith Marauders Men's Health ac yn teimlo y byddwch chi'n elwa ar y cymorth, y gweithgareddau a'r lle diogel y mae'n ei greu, mae modd dysgu rhagor a chymryd rhan yma.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn Hamdden am Oes, neu os ydych chi eisiau siarad â rhywun ynglŷn â dechrau eich taith iechyd a lles, cysylltwch yma.
Wedi ei bostio ar 19/08/2026