Dyma roi gwybod i drigolion ac ymwelwyr â thref Pontypridd am gyfres o drefniadau cau ffyrdd canol tref a fydd ar waith i sicrhau diogelwch yn ystod achlysur Parti Haf y 90au.
Mae disgwyl i lawer o bobl deithio i Barc Coffa Ynysangharad ddydd Sadwrn 22 Awst ar gyfer achlysur blaenllaw y Cyngor.
Bydd y rhan fwyaf o ffyrdd canol tref ar gau rhwng 3pm a 5pm, ac eto o 9pm tan 12.30am. Dyma fydd y cyfnodau prysuraf pan fydd pobl yn cyrraedd y parc ac yn ei adael, a bydd y trefniadau cau ffyrdd ar waith i sicrhau diogelwch.
Nodwch, fydd dim mesurau rheoli traffig ar Heol Berw yn rhan o gynllun dymchwel gorsaf yr heddlu/y maes parcio, dros y penwythnos yma.
Mae'r ffyrdd sydd i'w cau yn cynnwys Stryd y Taf (Stryd Traws y Nant hyd at y Stryd Fawr, i'r gyffordd â Heol Sardis), Lôn Penuel, Heol y Weithfa Nwy, Maes Dirwest, Stryd y Farchnad, Stryd yr Eglwys a Stryd y Felin. Mae'r ardal a fydd ar gau i'w gweld ar y map canlynol.
Bydd maes parcio Heol y Weithfa Nwy yn parhau i fod ar agor yn ôl yr arfer.
Bydd llwybr amgen i fodurwyr, sydd hefyd i'w weld ar y map, ar gael ar hyd Stryd Traws y Nant, Heol Gelliwastad, Stryd y Santes Catrin, System Gylchu Heol Sardis a Heol Sardis.
Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, i gerddwyr ac ar gyfer cyrraedd eiddo.
Mae modd gweld manylion llawn yr achlysur o dan adran Parti Haf y 90au ar wefan Be'sy mlaen RhCT.
Diolch i drigolion ac ymwelwyr am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 14/08/2026