Skip to main content

Mwynhewch Wythnosau Olaf Gwyliau'r Haf yn Ddiogel!

Dim ond pythefnos o wyliau'r haf sydd ar ôl felly mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog pobl ifainc a'u teuluoedd i fwynhau gweddill eu gwyliau mor ddiogel â phosibl a manteisio i'r eithaf ar yr ystod eang o weithgareddau sydd ar gael ledled y Fwrdeistref Sirol.

Wrth i'r tymheredd barhau i fod yn gynnes, a chyda rhagor o dywydd poeth ar y ffordd yn ôl y sôn, mae'n anochel y bydd pobl ifainc yn treulio mwy o amser yn yr awyr agored gyda ffrindiau, ond mae adroddiadau a phryderon wedi'u codi yn y gymuned mewn perthynas â gweithgareddau peryglus, gan gynnwys nofio mewn afonydd, cronfeydd dŵr a llynnoedd, yn ogystal â mynd i mewn i adeiladau gwag yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r Cyngor yn gofyn i bobl ifainc aros yn ddiogel ac yn galw ar eu teuluoedd i wirio eu bod nhw'n ddiogel pan maen nhw’n cymdeithasu.

Er y gall afonydd a lleoliadau dŵr agored eraill edrych yn ddeniadol iawn yn ystod tywydd poeth, gallan nhw hefyd fod yn hynod beryglus.

Mae gyda llawer o afonydd gerhyntau cryf, rhwystrau cudd, dŵr dwfn, glannau llithrig a rhannau dwfn iawn a all achosi problemau yn gyflym, hyd yn oed i nofwyr cryf.

Gall tymheredd y dŵr fod yn llawer oerach na'r disgwyl hefyd, gan arwain at sioc dŵr oer, a all effeithio ar anadlu a symud.

Mae nifer o adroddiadau wedi bod am bobl ifainc yn neidio oddi ar greigiau a llwyfannau ac yn torri eu coesau – ar ôl iddyn nhw ddarganfod bod y dŵr yn LLAWER mwy bas nag yr oedden nhw'n meddwl! Fyddai dychwelyd i'r ysgol ar faglau ddim yn edrych yn wych!

Rydyn ni'n annog rhieni a gwarcheidwaid i siarad â'u plant am beryglon mynd i mewn i ddŵr agored ac i sicrhau eu bod yn deall y peryglon cyn mynd allan gyda ffrindiau.

Er y dylech chi osgoi mynd i mewn i'r dŵr, os bydd pobl ifainc yn mynd i mewn i'r dŵr, dylen nhw wneud y canlynol:

  • Peidiwch byth â nofio ar eich pen eich hun.
  • Arhoswch gyda ffrindiau a gofalwch am eich gilydd.
  • Peidiwch â neidio na phlymio i mewn i ddŵr nad ydych chi wedi nofio ynddo o’r blaen.
  • Cadwch draw o afonydd a choredau sy'n llifo'n gyflym.
  • Ewch allan ar unwaith os ydych chi'n dechrau teimlo'n oer neu mewn gofid.
  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am y gwasanaeth brys priodol os oes rhywun mewn trafferth.

Os bydd rhywun yn mynd i drafferth yn y dŵr:

  • Peidiwch â mynd i mewn i'r dŵr eich hun.
  • Ffoniwch 999 ar unwaith.
  • Anogwch y person i arnofio ar ei gefn os oes modd iddo wneud hynny.
  • Taflwch rywbeth sy'n arnofio neu'n ei gyrraedd os yw'n ddiogel gwneud hynny.

Gweithgaredd deniadol arall i bobl ifainc sy'n ceisio osgoi'r gwres fyddai mynd i mewn i adeiladau gwag, adfeiliedig, yn y gymuned – ond mae'r Cyngor yn atgoffa pobl ifainc o'r peryglon difrifol sy'n gysylltiedig â mynd i mewn i adeiladau gwag, adfeiliedig, yn ogystal â'r ffaith bod hyn yn achos o dresmasu ac yn anghyfreithlon.

Er y gall y lleoliadau yma ymddangos yn gyffrous i'w harchwilio, maen nhw'n aml yn cynnwys peryglon anweledig, gan gynnwys lloriau ansefydlog, malurion yn cwympo, gwifrau peryglus, gwydr wedi torri, mannau uchel peryglus a deunyddiau peryglus.

Gall tresmasu mewn adeiladau adfeiliedig arwain at anaf difrifol neu hyd yn oed farwolaeth. Mae llawer o safleoedd yn eiddo preifat, a gallai mynd i mewn iddyn nhw heb ganiatâd fod yn drosedd hefyd – gallech chi gael eich cyhuddo o fyrgleriaeth.

Rydyn ni'n annog rhieni i drafod y peryglon yma gyda'u plant a'u hatgoffa nad oes unrhyw gynnwys cyfryngau cymdeithasol, ffotograff na her yn werth peryglu eu diogelwch neu ennill cofnod troseddol.

Mae digon o ffyrdd diogel, fforddiadwy a phleserus i bobl ifainc dreulio gweddill gwyliau'r haf yn Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni'n annog pobl ifainc i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cael eu darparu drwy’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS). Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth drwy ddilyn @YEPSRCT ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae parciau a chyfleusterau chwaraeon sydd wedi ennill gwobrau ar gael hefyd, ac wrth gwrs, canolfannau hamdden Rhondda Cynon Taf. Os nad yw hynny'n eu bodloni, mae menter teithiau bws rhatach gwyliau haf y Cyngor yn golygu na fydd unrhyw daith unffordd sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf yn costio mwy na £1 (i bobl dan 21 oed) a £1.50 ar fysiau pob gweithredwr! Mae digonedd i'w ddarganfod!

Mae cyfleoedd ledled y Fwrdeistref Sirol i wneud y canlynol:

  • Cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
  • Mynychu sesiynau ac achlysuron ieuenctid.
  • Cwrdd â ffrindiau a mwynhau parciau a mannau gwyrdd lleol.
  • Defnyddio cyfleusterau ein canolfannau hamdden gan gynnwys sesiynau nofio am ddim*, sesiynau ffitrwydd a gweithgareddau hamdden.

Mae'r gweithgareddau yma yn darparu hwyl, cyfleoedd i wneud ffrindiau, dysgu sgiliau newydd a chadw'n heini drwy gydol yr haf.

Meddai'rCynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:

"Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau wythnosau olaf gwyliau'r haf, creu atgofion gwych a threulio amser gyda ffrindiau a theulu. Fodd bynnag, rydyn ni'n annog pobl ifainc i feddwl yn ofalus am y dewisiadau maen nhw'n eu gwneud ac i ddeall y peryglon sy'n gysylltiedig â dŵr agored ac adeiladau adfeiliedig.

"Gall penderfyniad am eiliad gael canlyniadau sy'n newid bywyd. Mae digon o weithgareddau diogel a chyffrous ar gael ledled Rhondda Cynon Taf drwy'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS), ein parciau a'n canolfannau hamdden.

"Bydden ni hefyd yn annog trigolion i roi gwybod am bryderon mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu weithgarwch peryglus fel bod modd i asiantaethau gymryd camau cyn i rywun gael ei anafu."

"Mae ein neges yn syml: mwynhewch eich haf, ac yn bwysicaf oll, byddwch yn ddiogel."

Am wybodaeth am weithgareddau'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS), parciau lleol, canolfannau hamdden ac achlysuron sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r haf, ewch i wefan y Cyngor: www.rctcbc.gov.uk a dilynwch dudalennau cyfryngau cymdeithasol @YEPSRCT @CyngorRhCT neu @RCTLeisureservice.

Wedi ei bostio ar 12/08/2026