Skip to main content

Diwrnod Canlyniadau: Disgyblion Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yn edrych tua'r dyfodol!

Alvel wel

Mae pobl ifainc ledled Rhondda Cynon Taf wedi derbyn eu canlyniadau Uwch Gyfrannol, Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau Uwch a chymwysterau galwedigaethol lefel 3 heddiw (dydd Iau 13 Awst). Mae llawer ohonyn nhw wedi cael lle mewn prifysgol i barhau â'u hastudiaethau addysgol.

Ymhlith y bobl a oedd yn llongyfarch y disgyblion llwyddiannus a staff ysgolion roedd y Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc, a Marium Haque, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc: "Ar ran y Cyngor, hoffwn i longyfarch y bobl ifainc wrth iddyn nhw ddathlu diwedd eu holl waith caled, a staff yr ysgolion sydd wedi gweithio'n ddiflino i gyflawni canlyniadau heddiw. 

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld yr hyn y bydd y bobl ifainc yma’n ei gyflawni yn eu camau nesaf, boed hynny yn y brifysgol neu ym myd gwaith."

Meddai Marium Haque, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Llongyfarchiadau i bob un o’r bobl ifainc sy’n derbyn eu canlyniadau Safon Uwch heddiw. Mae’r cyflawniadau yma’n ganlyniad llawer o waith caled, ymrwymiad a dyfalbarhad, a dylai pawb fod yn hynod o falch.

“Hoffwn hefyd gydnabod ymroddiad ein hathrawon, staff cymorth a theuluoedd, y mae eu hanogaeth a’u harweiniad wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu ein pobl ifainc i gyrraedd y garreg filltir yma.

I unigolion sydd heb gyflawni’r canlyniadau yr oedden nhw’n gobeithio amdanyn nhw, neu sy’n ansicr ynghylch beth sy’n dod nesaf, mae cymorth ar gael i chi. Siaradwch â’ch ysgol neu goleg, lle y gall staff roi cyngor a’ch helpu i nodi’r llwybr gorau ymlaen.”

Mae'r Cyngor yn cydnabod holl gyraeddiadau cadarnhaol ysgolion Rhondda Cynon Taf a'u pobl ifainc, gyda llawer yn cael eu derbyn i'r brifysgol, i leoliadau addysg bellach, i brentisiaethau ac i swyddi. Dyma ddechrau pennod newydd gyffrous yn eu bywydau.

Mae cymorth a chyngor parhaus ar gael i unigolion sy’n ansicr ynghylch eu camau nesaf – a hynny gan staff yr ysgolion a Gyrfa Cymru.

Mae modd dod o hyd i gymorth pellach yma: Cefnogaeth i Fyfyrwyr CBAC

Wedi ei bostio ar 13/08/2026