Skip to main content

Diogelu Theatr y Parc a'r Dâr ar gyfer y dyfodol

P&D wel

Mae'n bosibl y bydd ymwelwyr â Theatr y Parc a'r Dâr yn sylwi ar sgaffaldiau sydd wedi'u gosod o flaen yr adeilad wrth i waith gael ei gynnal i ddiogelu’r adeilad ar gyfer y dyfodol. Dechreuodd y gwaith ddydd Llun, 10 Awst, a disgwylir i'r gwaith bara tua wyth wythnos.

Mae'r gwaith yn rhan o'n hymrwymiad i sicrhau bod y lleoliadau cymunedol hynny sy'n golygu llawer i'n trigolion yn cael eu cynnal a'u gwella yn rhan o raglen fuddsoddi barhaus Trawsnewid RhCT. Bydd y gwelliannau yma'n helpu i ddiogelu'r theatr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan sicrhau ei bod yn parhau i chwarae rhan hanfodol ym mywyd diwylliannol ein cymunedau am flynyddoedd i ddod.

Bydd angen cyflwyno rhai newidiadau dros dro i'r trefniadau mynediad er mwyn cynnal y gwaith. Yn ystod y cyfnodau hynny pan fydd gwaith drilio yn cael ei gynnal, fydd dim modd cael mynediad i'r theatr drwy'r fynedfa ar Stryd Dyfodwg.

Drwy gydol y prosiect, dim ond yn ystod perfformiadau y bydd modd cael mynediad i'r theatr ar Stryd Dyfodwg. Ar bob adeg arall, dylai ymwelwyr fynd i mewn ac allan gan ddefnyddio'r fynedfa ar hyd Ffordd yr Orsaf.

Bydd arwyddion yn cael eu gosod i sicrhau bod modd i ymwelwyr lywio'r safle'n ddiogel ac yn ddidrafferth yn ystod y gwaith yma.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden:  “Mae Theatr y Parc a’r Dâr wedi bod yn lleoliad cymunedol poblogaidd iawn yng nghanol Cwm Rhondda ers nifer fawr o flynyddoedd, a bydd y gwaith yma'n gwella’r lleoliad fel bod modd i ni barhau i groesawu cynulleidfaoedd, perfformwyr a grwpiau cymunedol am flynyddoedd i ddod.

“Mae’r gwaith gwella yma'n rhan o raglen fuddsoddi ehangach 'Trawsnewid RhCT', sy’n cynnal a gwella cyfleusterau sydd eisoes yn bodoli ledled y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal ag adeiladu ysgolion a seilwaith newydd sbon. 

"Rydyn ni'n gwerthfawrogi y gallai'r trefniadau mynediad dros dro achosi rhywfaint o anghyfleustra, a hoffwn i ddiolch i drigolion, ymwelwyr a defnyddwyr y theatr am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod y gwaith pwysig yma'n cael ei gynnal."

Rydyn ni'n annog ymwelwyr i wirio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a gwefan y theatr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a'r trefniadau mynediad dros dro.

Tudalen Facebook

Wefan

Wedi ei bostio ar 18/08/2026