Mae Criwiau Ailgylchu Lleol wedi cyflawni gwyrth, ar ôl iddyn nhw lwyddo i achub bag llaw, a oedd yn cynnwys £500, o fag ailgylchu yng ac Ailgylchu Bryn Pica!
Roedd Mrs Tracy Williams, o Dreorci, yn didoli holl ddeunydd pacio a phapur lapio'r Nadolig ac wedi llwyddo i gasglu tua 10 bag CLIR i'w rhoi allan i'r criwiau.
Bydd llawer o drigolion yn cytuno eu bod nhw wedi osgoi damwain o'r fath o drwch blewyn – pan fydd allweddi, rhan hanfodol o degan neu gyfarwyddiadau pwysig wedi mynd ar goll ymhlith papur lapio'r Nadolig ac yn cael eu hachub ar y funud olaf.
SERCH HYNNY, roedd Mrs Williams wedi didoli'r holl eitemau ailgylchu a'u rhoi allan i'w casglu'r noson gynt cyn mynd i'r gwely. Y bore wedyn, pan oedd hi ar fin mynd i siopa, sylweddolodd nad oedd hi’n gallu dod o hyd i’w bag llaw, a’i bod wedi’i weld ddiwethaf ar wyneb gwaith y gegin – pan oedd hi’n didoli’r deunydd ailgylchu.
"Aeth fy nghoesau'n wan," meddai Mrs. Williams. "Sylweddolais fy mod i wedi gosod y bag llaw i lawr ar yr wyneb gwaith a dyna lle roeddwn i a fy ngŵr yn mynd trwy'r holl ddeunydd ailgylchu!" Erbyn i mi redeg allan, roedd y stryd yn wag. I wneud pethau hyd yn oed yn waeth, roedd y bag yn cynnwys arian fy mam, ynghyd â fy arian i – cyfanswm o £500!
“Anaml iawn y bydd gen i arian parod gyda mi, ond roeddwn i wedi derbyn peth yn anrheg Nadolig. Mae'n deg dweud bod fy nghalon bron wedi stopio! Ffoniais garfan y priffyrdd, ac roedd y staff yn awyddus iawn i helpu ond fe wnaethon nhw ddweud y byddai fel chwilio am nodwydd mewn tas wair – ac roedd cymaint yn rhagor o ddeunydd ailgylchu o ganlyniad i'r Nadolig!”
Y Nadolig yma, mae trigolion Rhondda Cynon Taf wedi rhagori unwaith eto ac wedi ailgylchu mwy nag erioed o'r blaen! Llwyddodd ein trigolion yn ein helpu i gyrraedd cyfradd ailgylchu o fwy na 75% ar gyfer cyfnod y tair wythnos dros y Nadolig – heb gynnwys bagiau llaw! Felly, gallwch chi ddychmygu'r mynydd o ddeunydd ailgylchu y bu'n rhaid i'r criwiau fynd drwyddo i ddod o hyd i'r bag llaw! Yr wythnos honno, casglodd y Cyngor dros 800 tunnell o ddeunyddiau ailgylchu, sef tua 28 o gerbydau ailgylchu yn llawn deunyddiau ailgylchu!
Cyn gynted ag y cysylltwyd â Phennaeth y Gwasanaethau Gwastraff, roedd modd rhybuddio'r criwiau a lleoli'r cerbyd er mwyn canfod ble y byddai'r bagiau ailgylchu wedi cael eu tipio. Yna, gwnaeth aelodau criw ailgylchu Depo Dinas eu gorau glas, gan wybod bod llawer yn y fantol, yn enwedig ar yr adeg yma o'r flwyddyn! Aeth y criw i Fryn Pica a chwiliodd y carfanau drwy fynydd o ddeunydd ailgylchu'r Nadolig yn eu hymgais i ddod o hyd i'r bag llaw!
Ar ôl 3 awr o chwilio, gwaeddodd y garfan ym Mryn Pica yn falch fod y bag wedi'i ddarganfod, a bod yr holl gynnwys yno o hyd - Gwyrth Nadoligaidd go iawn!
Daeth Mrs Williams i gasglu’r bag llaw gyda’i merch ac roedd hi’n hynod ddiolchgar i’r criwiau am fynd gam ymhellach yn ystod un o’u cyfnodau prysuraf o’r flwyddyn!
Dywedodd Mrs Williams: “Hoffwn ddiolch i’r holl griw am ddod o hyd i’m bag llaw, mae’n golygu cymaint i mi a’r teulu cyfan. Rydw i'n gwybod nad oedd hi'n dasg hawdd ac rydw i mor ddiolchgar eu bod nhw wedi gwneud hyn i mi. Mae'r criwiau wastad mor gymwynasgar ond roedd hyn yn rhagori ar y cyfan - nid bag Gucci oedd e, ond gwasanaeth adfer o safon Gucci oedd hwn! Diolch o galon!”
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd:
“Wel, beth sydd i'w ddweud – nid yn unig yr ydyn ni wedi cael un o’r cyfnodau Nadolig gwyrddaf erioed unwaith eto, ond mae ein criwiau bellach yn cyflawni gwyrthiau. Am ffordd anhygoel o ddechrau’r Flwyddyn Newydd a’n tywys ni i mewn i 2026!
“Fel arfer, diolch o galon i garfan a chriwiau Gofal y Strydoedd, rydw i’n gwybod bod hwn yn gyfnod prysur iawn iddyn nhw ac mae eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi gan bawb.
“Ar ran y Cyngor ac Aelodau o'r Cabinet hoffwn i ddiolch o galon i’n cymuned. DIOLCH i drigolion Rhondda Cynon Taf am eich cefnogaeth aruthrol a'ch ymdrechion ailgylchu anhygoel.
“Rydw i’n siŵr, gyda’n gilydd y gallwn barhau â’r ymdrech fawr a sicrhau ein bod yn dal i fwrw a rhagori ar unrhyw darged a osodwyd gan Lywodraeth Cymru!”
Mae criwiau’r Cyngor wedi gweithio’n galed dros yr ŵyl i gasglu’r holl ailgylchu ychwanegol, gyda thros 228,000 o gasgliadau yn digwydd dros bythefnos prysur y Nadolig, gan gynnwys 152,000 o gasgliadau bagiau du. Mae miloedd o goed Nadolig go iawn wedi cael eu casglu a'u hailgylchu'n llwyddiannus, ac mae rhai hyd yn oed wedi cael eu troi'n dalpiau pren i'w defnyddio mewn parciau lleol ledled RhCT.
Mae gwasanaeth ailgylchu Cyngor Rhondda Cynon Taf yn hawdd ac am ddim erbyn hyn. Mae ein gwasanaethau ailgylchu wythnosol a diderfyn yn golygu bydd llai o wastraff ac arogleuon yn eich bagiau du, gan wneud ailgylchu yn rhan HAWDD o fywyd bob dydd.
Gellir casglu bagiau ailgylchu o gannoedd o leoliadau ar draws y Fwrdeistref Sirol, a gall trigolion ddod o hyd i'w man agosaf yma - www.rctcbc.gov.uk/Bagiau
Mae modd i chi hefyd gofrestru ar-lein ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd a chewynnau - https://www.rctcbc.gov.uk/cofrestruiailgylchu.
Yn ogystal â hyn, mae POB Canolfan Ailgylchu Cymunedol ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 8.30am - 4.30pm (Tachwedd i fis Mawrth) a 8.30am - 6.30pm (Mawrth-Hydref), dewch o hyd i'ch canolfan agosaf yn www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook ac Instagram, neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.
Wedi ei bostio ar 22/01/2026