Skip to main content

Siop yn Abercynon yn CAU yn sgil gwerthu fêps/cynnyrch tybaco anghyfreithlon!

Siop yn Abercynon yn CAU yn sgil gwerthu fêps/cynnyrch tybaco anghyfreithlon!

Mae siop FÊPS sydd yn aml yn cael ei marchnata'n 'siop losin' yn lleol, wedi cael ei gorfodi i GAU ar unwaith o ganlyniad i waith carfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae Hysbysiad Cau wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus i siop Vape Zone yn Abercynon, a’i orfodi arni. Y gobaith yw y bydd hyn yn anfon neges glir i fangreoedd yn Rhondda Cynon Taf nad yw gwerthu cynnyrch tybaco a fêps yn anghyfreithlon yn cael ei ganiatáu ar unrhyw gyfrif yn y Fwrdeistref Sirol yma!

Ar 19 Ionawr 2026, cafodd Hysbysiad Cau ei gyflwyno i fangre a landlord Vape Zone, 52 Stryd Margaret, Abercynon, CF45 7RB. Cafodd y cam yma'i gymryd o ganlyniad i gyflenwi cynnyrch tybaco a fêps yn anghyfreithlon, gan gynnwys gwerthu i unigolion dan oed. Cafodd yr Hysbysiad Cau yma ei gyflwyno dan Adran 76 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Ar 21 Ionawr 2026, cyhoeddodd Llys Ynadon Merthyr Tudful Orchymyn Cau ar gyfer y fangre. Aeth y landlord i'r llys i herio'r cais, ond cafodd y gorchymyn ei gyflwyno. 

Cyflwynodd swyddogion Safonau Masnach yr Hysbysiad Cau i'r fangre ar 21 Ionawr 2026 gyda chymorth swyddogion Heddlu De Cymru a charfan Eiddo'r Cyngor. 

O ganlyniad i hynny, mae'r siop nawr wedi ei gorchuddio â byrddau diogelwch, a bydd hi'n aros AR GAU am gyfanswm o DRI mis.

Mae'r fangre wedi bod yn gwerthu sigaréts a chynnyrch tybaco anghyfreithlon dan reolaeth DAU berchennog busnes gwahanol – mae swyddogion yn gwybod mai dyma dacteg y mae nifer yn ei defnyddio i osgoi cau ac roedd y fangre wedi bod yn destun gwaith monitro a chamau gorfodi ers cyfnod o 15 mis. 

Dros y cyfnod o 15 mis, cafodd miloedd o sigaréts anghyfreithlon (5,319), 57 pwrs tybaco rholio â llaw a channoedd o fêps anghyfreithlon (350) eu hatafaelu.

Cafodd nifer o'r eitemau eu hatafaelu yn rhan o ymgyrch amlasiantaeth genedlaethol, sy'n cynnwys Safonau Masnach RhCT a charfanau o Heddlu De Cymru, y Swyddfa Gartref a Safonau Masnach Cymru.

Diolch i ymroddiad swyddogion, mae'r busnes bellach AR GAU, a bydd y carfanau'n parhau i fonitro hyn ac unrhyw fusnes arall sy'n torri'r gyfraith.

Busnes arall a ddysgodd hyn yn ddiweddar oedd Polski Sklep Pontypridd, 68A Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TD, a gafodd orchymyn CAU AM DRI MIS ar 26 Tachwedd 2025, o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Mae hyn yn dilyn ymchwiliad llwyddiannus arall gan garfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf i werthiant sigaréts a chynnyrch tybaco rholio â llaw anghyfreithlon. Gwerthwyd sigaréts a chynnyrch tybaco rholio â llaw anghyfreithlon i swyddogion a brynodd eitemau yn y fangre yng nghanol y dref er mwyn gwirio eu bod nhw'n gyfreithlon, ar naw achlysur gwahanol.

Mae CAU'R DDWY fangre yma'n dangos ein bod ni'n monitro gweithgarwch anghyfreithlon ledled y Fwrdeistref Sirol ac y byddwn ni'n cymryd camau gweithredu. Hyd yn oed os bydd angen i ni aros, byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein pwerau i atal y busnesau yma rhag gweithredu.

Gall gwerthu fêps anghyfreithlon achosi niwed sylweddol i'r cyhoedd, gan fod ynddyn nhw'n aml lefel nicotin sy'n uwch na'r terfyn cyfreithlon sy'n 2%, neu mae ynddyn nhw danc sy'n gallu dal mwy na'r terfyn o 2ml.

Mae'n bosibl hefyd fod ynddyn nhw gemegau anghyfreithlon, a allai achosi niwed.

Mae gwerthu a defnyddio e-sigaréts anghyfreithlon, sydd heb fod yn cydymffurfio â safonau angenrheidiol y cynnyrch, yn golygu bod defnyddwyr yn wynebu risg o anadlu lefelau anniogel o fetelau fel nicel, led a chromiwm, a sylweddau peryglus eraill.

Mae'r garfan Safonau Masnach yn Rhondda Cynon Taf, fel Bwrdeistrefi Sirol eraill yn y DU, yn gweld cynnydd yng nghyflenwad fêps anghyfreithlon ledled y stryd fawr, gyda fêps yn aml yn cyrraedd plant a phobl nad ydyn nhw'n ysmygu. Hyd yn hyn, mae dros 1,700 o fêps wedi cael eu hatafaelu ers dechrau 2025.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

“Rydw i'n falch o weld y DDAU Hysbysiad Cau yma'n cael eu cyflwyno ac rwy'n gobeithio y bydd yn anfon neges glir ynghylch ein hymrwymiad i fynd i'r afael, yn gadarn, â'r materion yma.

“Rydyn ni'n annog y cyhoedd i fod yn dra gwyliadwrus o'r hyn maen nhw'n ei anadlu. Mae'r cyfreithiau ynghylch e-sigaréts yno am reswm.

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw effeithiau tymor hir fêps anghyfreithlon, ac mae risg sylweddol y gallai fêps nad ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio fod yn cynnwys naill ai lefel beryglus o nicotin neu gemegau nad ydych chi'n ymwybodol eich bod yn eu hanadlu.

"Rydyn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid i roi stop ar werthu fêps yn anghyfreithlon, yn enwedig i blant dan-oed. Er hynny, rydyn ni'n ymwybodol ei fod yn parhau i ddigwydd ac rydyn ni'n annog unrhyw berson ifanc sy'n prynu fêps, unai ar-lein neu mewn siop, i wirio beth sydd y tu mewn iddyn nhw.

"Mae ar bob fêp cyfreithlon farc barcud a'r arwydd CE - mae hyn yn dangos ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol.

"Peidiwch â rhoi'ch iechyd mewn perygl drwy geisio effaith nicotin."

“Mae'r Safonau Masnach wedi ymrwymo o hyd i orfodi ac ail-orfodi gorchmynion cau yn Rhondda Cynon Taf pan fo angen gwneud hynny, gan roi neges glir yn erbyn cyflenwi cynnyrch anghyfreithlon yn y gymuned. Fe fyddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i warchod y gymuned rhag y perygl y gallai'r cynnyrch yma ei achosi."

Mae wedi dod i sylw'r Cyngor hefyd fod cysylltiad rhwng fepio a chamfanteisio ar blant.

Mae fêps yn cael eu defnyddio, yn amlwg felly, ymhlith pobl ifainc; oherwydd hynny mae troseddwyr a grwpiau llinellau cyffuriau, yn fwyfwy aml, yn addo fêps i bobl ifainc yn ogystal â defnyddio'r dulliau traddodiadol fel arian, sgidiau chwaraeon a bwyd.

Gall y camfanteisio olygu camfanteisio'n rhywiol, neu recriwtio unigolion dan oed, ymhlith mathau eraill o gamfanteisio; bydd troseddwyr yn cymell pobl ifainc i ddosbarthu a gwerthu cynnyrch fepio'n anghyfreithlon.

Mae'r Cyngor yn gofyn i rieni fod yn ymwybodol o'r cysylltiad yma ac i gadw llygad am yr arwyddion y gallai eu plentyn fod yn wynebu camfanteisio.

Mae'r garfan Safonau Masnach ymroddedig yn Rhondda Cynon Taf yn defnyddio amryw o ddulliau gan gynnwys cŵn canfod cynnyrch fepio a thybaco i ganfod cynnyrch sy'n cael ei guddio. Mae'r ffaith bod y cynnyrch yma'n cael ei guddio'n awgrymu bod y sawl sy'n gyfrifol amdano'n ymwybodol bod eu gweithredoedd yn rhai anghyfreithlon. Mae partneriaethau yn y Cyngor a'r tu allan iddo yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â'r mater yma sy'n gwaethygu o hyd.

Er bod achosion llys wedi arwain at ganfod pobl yn euog yn aml, dyw dirwyon yn aml ddim yn ddigon o ataliad. Mae busnesau'n newid perchnogion yn aml i osgoi'r canlyniadau, a phan fydd gorchymyn cau wedi dod i ben, gallai'r gweithgarwch ailddechrau.

Os oes gan aelodau'r cyhoedd unrhyw wybodaeth ynghylch pobl sydd, yn eu barn nhw, yn ymwneud o bosib â gweithgareddau masnachu anghyfreithlon, neu os oes gyda nhw wybodaeth ynghylch unrhyw un sydd, yn eu barn nhw'n, ddioddefwr gweithgaredd o'r fath, gallan nhw roi gwybod am eu pryder i'r garfan Safonau Masnach yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r Ffurflen Ar-lein ynghylch Gweithgarwch Anghyfreithlon. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach

Wedi ei bostio ar 23/01/2026