Mae adroddiadau diweddar gan Rondda Cynon Taf yn tynnu sylw at effaith ofnadwy adeiladwyr twyllodrus sydd wedi sgamio trigolion o gannoedd o filoedd o bunnoedd trwy dwyll a chrefftwaith gwael.
Mae'r Cyngor eisoes wedi adrodd bod DROS £180,000 wedi cael ei gymryd gan drigolion ym mis Tachwedd yn unig! Mae nifer o'r rheiny wedi cael eu gadael gyda phrosiectau anniogel neu wedi talu mwy na thair gwaith y gost am waith syml.
Y mis yma, mae Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi llwyddo i gymryd camau gweithredu yn erbyn adeiladwr twyllodrus arall - Cristopher Webber, 48, o Aberpennar a gafodd ei ddedfrydu i dros 3 blynedd yn y carchar ar ôl twyllo ei ddioddefwyr allan o tua £223,000.
Fe wnaeth Mr. Cristopher Webber dargedu trigolion yn Vale of Glamorganac Aberdâr rhwng 2021 a 2022. Gadawodd ei weithredoedd gartrefi mewn cyflwr "trychinebus" o adfeiliad, gyda'r gwaith mewn cyflwr mor wael y bu’n rhaid ei dynnu ac ailadeiladu'n llwyr.
Collodd un dioddefwr £103,029, tra bod un arall wedi colli cyfanswm o £120,000 ar draws dau eiddo.
Fe wnaeth Mr Webber honni drwy dwyll ei fod wedi cyflogi penseiri a pheirianwyr strwythurol, gan ddweud celwydd am gyflwyno ceisiadau rheoliadau adeiladu.
Cafodd dioddefwyr Mr Webber eu gadael mewn cyflyrau hynod beryglus, gan gynnwys teils llawr wedi'u gosod heb lud a thyllau mewn lloriau a oedd wedi'u teilsio drostyn nhw yn hytrach na'u clytio.
Cafodd ei ddioddefwyr eu gadael yn cael trafferth gyda dyledion enfawr a'u bywydau mewn adfeilion, wrth iddo ef barhau i fyw 'bywyd moethus' ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae carfan Safonau Masnach y Cyngor yn parhau i dderbyn nifer gynyddol o adroddiadau gan drigolion am adeiladwyr twyllodrus ac maen nhw bellach yn rhybuddio'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus.
Mae'r straeon sydd wedi cael eu dweud wrth drigolion diarwybod gan bobl megis Mr Webber yn parhau i fynd â'r gair 'twyllodrus' i lefelau newydd – gyda thrigolion yn cael gwybod bod 'cynnyrch arbennig' yn costio hyd at £10,000 gan fod angen eu mewnforio a'u storio dramor. Mae'r cynnyrch hefyd ar gael mewn siop caledwedd ym Mhontypridd!
Y peth pwysicaf i'w gofio yw, os yw'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna ymddiriedwch yn eich greddf, mae'n debyg ei fod! Os bydd y gost yn dechrau dyblu o'i gymharu â'r dyfynbrisiau gwreiddiol – stopiwch, meddyliwch a chwestiynwch bob amser! Byddai crefftwr da yn hapus i esbonio a dangos tystiolaeth i chi.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:
“Mae mwyafrif helaeth o fasnachwyr ac adeiladwyr yn Rhondda Cynon Taf yn cwblhau eu gwaith ar amser ac i foddhad eu cwsmeriaid. Pan nad yw hyn yn wir ac mae masnachwyr yn cymryd arian am waith brysiog, yna mae ein carfan safonau masnach yma i amddiffyn trigolion rhag gweithredoedd masnachwyr twyllodrus.
"Yn anffodus mae gormod o gwsmeriaid yn cael eu gadael mewn sefyllfaoedd sy'n achosi straen ac sydd weithiau’n beryglus ac yn colli llawer o arian oherwydd eu gweithredoedd. Roedd Mr Webber yn dwyllwr go iawn ac roedd yn lwc lwyr na chafodd neb ei anafu'n gorfforol oherwydd ei grefftwaith peryglus. Hoffwn i ddiolch i'r garfan am eu gwaith caled wrth sicrhau ei fod e'n cael ei ddwyn i gyfrif.
"Gobeithiwn, drwy godi ymwybyddiaeth o dwyll adeiladu a'r dulliau a ddefnyddir gan fasnachwyr twyllodrus, y byddwn ni'n addysgu defnyddwyr, yn rhoi'r hyder iddyn nhw wneud y penderfyniadau cywir ac yn ei gwneud hi'n anoddach i dwyllwyr weithredu.
“Gall fod yn hawdd iawn credu masnachwyr twyllodrus, ond yn aml bydd eu gwaith yn wael ac wedi’i brisio’n anghywir, a gall eu gweithredoedd gael effaith ddinistriol ar fywydau eu dioddefwyr, y mae llawer ohonyn nhw'n oedrannus ac yn agored i niwed. Os ydych chi'n bwriadu cael gwaith wedi'i wneud, yna mae ein swyddogion Safonau Masnach bob amser yn eich cynghori i gael argymhellion gan ffrindiau ac aelodau’r teulu, neu Gymdeithasau Masnach.”
Bob dydd mae sgamwyr yn manteisio ar ddioddefwyr, gan eu dal yn ddiarwybod, yn aml yn curo ar eu drysau neu'n eu ffonio'n ddigroeso, a diolch i dechnoleg maen nhw'n gallu gwneud eu 'sgamiau' hyd yn oed yn fwy credadwy.
OND mae yna ffyrdd rydyn ni'n gallu helpu atal ein hunain ac eraill rhag gweithredoedd diegwyddor y twyllwyr yma.
Yn aml mae yna swyddi allweddol y mae'r twyllwyr yma'n fodlon eu gwneud i chi, mae'r rhain yn cynnwys gosod dreif resin neu balmant bloc, clirio dail yr Hydref neu gwteri, torri’r lawnt a thorri coed. Maen nhw hyd yn oed yn gwybod pryd i'ch targedu, gyda sawl un yn cyrraedd eich stepen drws cyn neu ar ôl rhybudd am dywydd stormus.
Sut i adnabod adeiladwr twyllodrus
Mae arwyddion rhybudd adeiladwyr anonest yn cynnwys:
- Cysylltu â chi'n uniongyrchol: Dydy adeiladwyr ag enw da ddim fel arfer yn curo ar ddrysau i ddod o hyd i waith - does dim angen iddyn nhw wneud hynny, diolch i argymhellion gan gwsmeriaid eraill! Os yw adeiladwr yn honni ei fod wedi sylwi ar broblem gyda'ch eiddo wrth weithio gerllaw neu os oes gan yr adeiladwr argaeledd ar unwaith i wneud y gwaith ar eich cartref, mae'n arwydd gwael.
- Gofyn am daliadau arian parod yn unig: Mae masnachwyr twyllodrus yn aml yn gweithredu "oddi ar y llyfrau" i osgoi treth a pheidio â gadael unrhyw drywydd papur. Mae'n bosibl y byddan nhw hefyd yn cynnig gostyngiad os ydych chi'n talu ag arian parod.
- Gofyn am daliad ymlaen llaw: Er bod talu blaendal bach am ddeunyddiau yn gallu bod yn dderbyniol a dylid ei ddogfennu gyda chytundeb a derbynneb, gallai adeiladwr twyllodrus fynnu taliad llawn cyn dechrau neu orffen y gwaith, yna diflannu.
- Cynnig dyfynbris sy'n rhy isel: Gallai dyfynbris sy'n rhatach o lawer nag eraill awgrymu bod deunyddiau gwael yn cael eu defnyddio, gwaith nad yw’n ddigon da, neu fod yr adeiladwr yn bwriadu dyfeisio mwy o waith yn ddiweddarach.
- Dim contract ysgrifenedig: Bydd adeiladwr ag enw da yn darparu contract ysgrifenedig sy'n cynnwys manylion y gwaith, y costau a'r amserlen dalu. Bydd masnachwr twyllodrus yn amharod i lofnodi unrhyw beth.
- Dim manylion na geirdaon: Gallai adeiladwr anonest ddefnyddio rhif ffôn symudol sy'n amhosibl ei olrhain a bydd yn gwneud esgusodion pan ofynnir iddo am eirda neu brawf o waith yn y gorffennol. Gwiriwch y busnes ar Dŷ'r Cwmnïau bob amser os yn bosibl a byddwch yn amheus o gyfeiriadau Blwch Post.
- Anwybyddu rheoliadau: Mae'n bosibl byddan nhw'n anwybyddu rheoliadau adeiladu a safonau diogelwch, a all adael eich eiddo yn anniogel, wedi'i ddibrisio ac angen mwy o waith.
Beth i'w wneud os ydych chi'n ddioddefwr
Os ydych chi wedi cael eich twyllo gan adeiladwr twyllodrus, cymerwch y camau canlynol:
- Casglu Tystiolaeth: Casglwch yr holl wybodaeth berthnasol, gan gynnwys gwaith papur, anfonebau, cytundebau, lluniau neu fideos o'r gwaith, fideo cloch drws, negeseuon cyfryngau cymdeithasol a chofnodion a nodiadau o'ch sgyrsiau gyda'r adeiladwr.
- Cysylltu â Chyngor ar Bopeth: Mynnwch gyngor annibynnol am ddim ar eich hawliau fel cwsmer. Gallwch gael cymorth gyda'ch cwyn ac, os oes angen, trosglwyddo'ch adroddiad i garfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf.
- Rhoi gwybod i Safonau Masnach: Mae corff yma’r llywodraeth yn ymchwilio i weithgareddau masnachu anghyfreithlon a gall fynd â busnesau i'r llys neu eu hatal rhag gweithredu. Mae modd gwneud hyn trwy Gyngor ar Bopeth.
- Cysylltu â'r heddlu: Os ydych chi'n cael eich bygwth neu'ch bod chi'n teimlo'n anniogel, dylech chi gysylltu â'r heddlu trwy ffonio 999.
- Cysylltu â'r heddlu (Action Fraud) Os ydy'r adeiladwr wedi cymryd eich arian heb unrhyw fwriad o gwblhau'r gwaith, mae'n bosibl y bydd hyn yn cael ei ystyried yn dwyll. Rhowch wybod i Action Fraud.
- Ystyried hawliad llys: Am hawliadau bach, gallwch chi fynd â'r adeiladwr i lys hawliadau bach. Mae sicrhau bod gyda chi gytundeb ysgrifenedig a thystiolaeth arall yn hanfodol.
- Cysylltu â'ch banc: Os gwnaethoch dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd, mae'n bosibl y byddwch chi'n gallu cael eich arian yn ôl gan y banc, yn enwedig os oedd yr adeiladwr yn dwyllodrus. Cysylltwch â'ch banc neu gwmni'ch cerdyn credyd ar unwaith.
Sut i osgoi cael eich sgamio
- Gofyn am sawl dyfynbris: Ceisiwch gael o leiaf tri dyfynbris gan wahanol adeiladwyr bob amser i gymharu costau a sicrhau eu bod yn realistig. Gofynnwch iddyn nhw gael eu dadansoddi er mwyn osgoi unrhyw 'ychwanegion' amwys.
- Osgoi gwerthwyr ar garreg y drws: Peidiwch byth â chytuno i gael gwaith wedi'i wneud gan rywun sy'n cnocio ar y drws yn annisgwyl.
- Fideos Cloch Drws: Defnyddiwch unrhyw fideos sydd gyda chi a rhowch wybod i'r sgamiwr ei fod i'w weld ar gamera. Gwnewch nodyn o rif cofrestru’i gerbyd.
- Gwirio manylion: Gofynnwch am eirdaon a gweld enghreifftiau o'u gwaith blaenorol. Mae modd gwirio statws cwmni ar Dŷ'r Cwmnïau.
- Gwirio eich gwiriadau: Mae rhai masnachwyr twyllodrus yn dweud celwyddau am bwy ydyn nhw ac maen nhw'n defnyddio enwau adeiladwyr 'da' lleol eraill i'ch twyllo chi. Os ydyn nhw'n rhoi rhif i chi ei ffonio, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio bod y rhif yna wedi'i gysylltu â'r busnes cywir trwy ffonio rhif ar eu gwefan ddilys neu eu tudalen Facebook swyddogol.
- Check a..... beth? Mae nifer o wefannau sy'n cynnig gwasanaethau gan ddweud eu bod wedi gwirio busnes, OND gwnewch eich gwiriadau eich hun gan y bydd rhai o'r rhain yn cynnig hysbysebu â thâl ac efallai na fydd ganddyn nhw'r holl ffeithiau wrth law.
- Grwpiau Cyfryngau Cymdeithasol: Gwiriwch hybiau a grwpiau lleol a gofynnwch am adolygiadau. Mae'n debyg, os ydyn nhw'n sgamiwr, eu bod nhw wedi'i wneud o'r blaen!
- Defnyddio cynlluniau dibynadwy: Defnyddiwch adeiladwyr sy'n perthyn i gymdeithasau masnach ag enw da neu defnyddiwch gynlluniau masnachwyr sydd wedi'u gwirio a'u cymeradwyo.
- Gofyn am gytundeb: Gwnewch yn siŵr bod pob cytundeb yn ysgrifenedig, a’i fod yn nodi manylion y gwaith i'w wneud, y deunyddiau, y costau ac amserlen dalu.
- Osgoi talu ag ARIAN PAROD: Efallai bydd talu ag arian parod yn ddelfrydol ond mae'n amhosibl ei olrhain.
- Osgoi taliadau mawr ymlaen llaw: Cytunwch ar gynllun talu fesul cam sy'n adlewyrchu cynnydd y gwaith. Osgowch dalu am bopeth ymlaen llaw.
- Gofalu am eich cymdogion: Os gwelwch chi gymdogion hŷn neu agored i niwed yn cael eu targedu neu'n cael gwaith wedi'i wneud, cysylltwch â nhw neu aelodau o'u teulu i wneud yn siŵr ei fod fel y dylai fod.
Os oes gyda chi bryderon am adeiladwr twyllodrus neu sgamiwr yn Rhondda Cynon Taf, gallwch roi gwybod amdano i Safonau Masnach trwy ffonio Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth ar 0808 123 1133. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Defnyddwyr - Cyngor ar Bopeth.
Wedi ei bostio ar 22/01/2026