Skip to main content

Panel annibynnol yn rhoi adborth cadarnhaol mewn perthynas â chyflawniad y Cyngor

Mae arweinyddiaeth a chyflawniad y Cyngor wedi cael eu canmol yn dilyn ei Asesiad Cyflawniad Panel statudol, lle cafodd swyddogaethau allweddol yr Awdurdod Lleol eu hasesu'n annibynnol. Mae'r rhain yn cynnwys arweinyddiaeth, cynllunio, buddsoddi, partneriaethau, craffu a chaffael.

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Mercher 28 Ionawr, yn dilyn asesiad eang gan gymheiriaid a gafodd ei gynnal rhwng 7 a 10 Hydref 2025, ac mae modd gweld yr adroddiad terfynol mewn atodiad i agenda cyfarfod dydd Mercher.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r asesiad yma'n rhoi sicrwydd annibynnol i drigolion fod gwasanaethau ac adnoddau'r Cyngor y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw bob dydd wedi'u cynllunio'n dda ac yn cael eu harwain yn effeithiol.Mae'r broses annibynnol yma'n cadarnhau bod yr arweinyddiaeth gref a ddarperir gan Aelodau Etholedig a swyddogion y Cyngor yn sicrhau bod Rhondda Cynon Taf yn Gyngor da, sy'n cael ei gynnal yn dda, sy'n uchelgeisiol, ac sy'n canolbwyntio ar wella bywydau ei drigolion.

“Dyma uchelgeisiau rydyn ni'n ceisio eu cyflawni ar ran trigolion, ac mae'r blaenoriaethau yma'n cael eu gwireddu o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad ein staff y rheng flaen. A ninnau'n Gyngor, rydyn ni'n croesawu'r cadarnhad mai ein dull rhagweithiol o ran rheoli ein materion ariannol, a'n hanes cryf o ddarparu ar draws ystod eang o wasanaethau'r Cyngor, yw'r un cywir. Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i dderbyn adborth annibynnol sy'n cadarnhau sut rydyn ni'n mynd i'r afael â heriau ac yn darparu gwasanaethau.”

I grynhoi canfyddiadau'r panel, mae'r adroddiad yn dweud:

"Daeth y panel i’r casgliad bod Rhondda Cynon Taf yn Gyngor da, sy’n cael ei gynnal yn dda, sy’n uchelgeisiol, ac sy’n canolbwyntio ar wella bywydau ei drigolion.

"Dangosodd y Cyngor fod ganddo hanes cryf o ddarparu gydag ethos o welliant parhaus. Mae'r Cyngor yn gweithio i ddeall effaith a deilliannau ei waith yn well, gan symud o ddull sy'n canolbwyntio ar y gwasanaeth i un sy'n canolbwyntio ar y person, a fydd yn helpu i gyflawni'i uchelgais o feithrin cydnerthedd mewn cymunedau.

"Daeth y panel i'r casgliad pellach fod y Cyngor yn arfer y swyddogaethau yn erbyn y dyletswyddau cyflawniad o fewn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021."

Nododd yr asesiad fod gan y Cyngor arweinyddiaeth aeddfed o safbwynt gwleidyddol ac o ran swyddogion, a bod dull gwaith tîm yn RhCT wedi'i ymgorffori yn ei ddiwylliant – gydag ymdeimlad cryf o le a pherthyn. Yn ôl y panel, mae fframwaith cynllunio a chyflawniad y Cyngor yn ei alluogi i gael dealltwriaeth glir o'i gyfleoedd a heriau, tra bod y sefydliad wedi buddsoddi amser i ddatblygu perthnasoedd llawn ymddiriedaeth gyda phartneriaid a rhanddeiliaid.

O ran mynd i'r afael â'r heriau ariannol y mae Cynghorau ledled Cymru yn eu hwynebu, canmolodd y panel waith cynnar y Cyngor i nodi pwysau cyllidebol sy'n golygu bod modd cynnig datrysiadau a chynnal ymgynghoriad ystyrlon. Canmolwyd hefyd allu'r Cyngor i ymateb i gyfleoedd buddsoddi newydd, gan alluogi rhaglen gyfalaf fawr ar gyfer buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith.

Nododd yr adroddiad terfynol swyddogaethau craffu a sicrwydd y Cyngor a gefnogir yn dda, gan ddod i'r casgliad bod trefniadau craffu yn cael eu cymryd o ddifrif, a bod cydbwysedd priodol rhwng y cyfnodau cyn ac ar ôl craffu ar benderfyniadau. Yn olaf, nododd yr asesiad sut yr oedd y Cyngor wedi buddsoddi yn ei swyddogaeth gaffael, gan ymgorffori ystyriaethau allweddol megis gwerth cymdeithasol, effaith gymunedol a Sero Net.

Awgrymodd yr asesiad feysydd i'w gwella – hynny yw o ran yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer rhoi newidiadau ar waith, dangos effaith a deilliannau ar gyfer cymunedau, a meithrin cydnerthedd cymunedau. Yn ôl y gofyn, mae'r Cyngor wedi darparu ymateb i'r adroddiad, ac mae'n nodi ei fod yn bwriadu dilyn y tri maes i'w gwella yma. Mae ymatebion penodol y Cyngor i bob un o'r meysydd ar gael mewn atodiad i agenda cyfarfod dydd Mercher.

Ym mis Tachwedd 2025, derbyniodd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor yr adroddiad terfynol ac aeth ati i graffu ar ymateb drafft y Cyngor. Roedd aelodau'r Pwyllgor yn fodlon ar hyn ac ni chafodd unrhyw newidiadau eu hargymell ganddyn nhw.

Wedi ei bostio ar 28/01/2026