Cymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa newydd yn Ffair Swyddi Cyngor RhCT a Phartneriaid 2026. Mae'r achlysur am ddim yma'n cael ei gynnal ddydd Iau 26 Chwefror yn Llyfrgell Pontypridd, Llys Cadwyn, CF37 4TH, rhwng 10am a 2pm, gydag awr dawel ar gael o 9am tan 10am.
Bydd y ffair swyddi yn dod ag ystod eang o gyflogwyr sy'n recriwtio ynghyd, gan roi'r cyfle i chi siarad yn uniongyrchol â sefydliadau, dysgu am swyddi gwag cyfredol a dechrau'r broses ymgeisio ar y diwrnod. Byddwch hefyd yn gallu cymryd rhan mewn gweithdai sydd wedi'u cynllunio i'ch paratoi ar gyfer cyfweliadau ac ysgrifennu CV.
Bydd dros 50 o sefydliadau yn bresennol ar y diwrnod, gyda swyddi ar gael ar draws amrywiaeth o sectorau ac yn addas ar gyfer pobl o bob oed a phrofiad. Bydd rheolwyr gwasanaethau a gweithwyr Cyngor RhCT yn bresennol i roi gwybodaeth ac arweiniad yn ymwneud â gyrfaoedd yn y Cyngor.
P'un a ydych chi'n chwilio am eich swydd gyntaf, yn ystyried newid gyrfa, neu’n awyddus i gael rhywfaint o ysbrydoliaeth, mae rhywbeth at ddant pawb yn Ffair Swyddi Cyngor RhCT a Phartneriaid.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydyn ni'n falch o gyhoeddi ein ffair swyddi gyntaf yn 2026. Mae'r achlysur yma'n dod â phobl leol a chyflogwyr ynghyd mewn un lle bywiog, gan roi cyfle i'r rhai sy'n chwilio am waith drin a thrafod llwybrau gyrfa newydd wrth helpu busnesau i gysylltu â'r gymuned a chryfhau eu gweithlu.
“Fel Cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi ein trigolion i gael mynediad at gyflogaeth o safon, ac mae’r achlysur yma'n enghraifft wych o sut mae modd creu cyfleoedd, cefnogi twf a chreu economi leol gryfach trwy weithio gyda’n gilydd.”
Mae modd gweld rhestr o gyflogwyr sydd wedi cadarnhau y byddan nhw’n cymryd rhan isod:
- Acorn Nurseries
- Abacare/CCH
- Care Cymru
- Cartrefi
- Community Catalyst
- Drive
- My Choice Healthcare
- Q Care
- Swanton Care / Values in Care
- Cynefin Care
- M&D Care
- Dawson Group
- Prichards
- Korbuild LTD
- Blue Water Recruitment
- Arch Services
- MPS Industrial
- Ensinger
- Horizon Civil Engineering Ltd
- Fillcare
- Case-UK
- Scope
|
- Matrix Agency
- AVON
- Addysgwyr Cymru
- SET Recruitment
- Carfan Datblygu Gofal Plant RhCT
- Tŷ'r Cwmnïau
- Maethu Cymru (RhCT)
- Gwasanaethau i Oedolion RhCT
- Prentisiaethau a Swyddi i Raddedigion RhCT
- Gwasanaethau Arlwyo RhCT
- Gwasanaethau i Blant RhCT
- Cyngor RhCT - Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd
- Gwasanaethau Democrataidd RhCT
- Swyddi Gwag RhCT
- Y Fyddin Wrth Gefn
- Teaching Personnel Ltd
- The Construction Hub Academy
- Swanton Community Services
- Coleg y Cymoedd
- Y Ganolfan Byd Gwaith
- Prifysgol De Cymru
- Interlink
- Llamau Education
|
**Nodwch, mae'n bosibl bydd arddangoswyr gwahanol yno ar y diwrnod
Wedi ei bostio ar 23/01/2026