Skip to main content

Diweddariad ynghylch y rhaglen o waith ar gyfer cynlluniau ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu

Unadopted Roads Programme web

Mae'r Cyngor wedi darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ei Raglen Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu, sy'n gwella ffyrdd heb eu cofrestru/heb eu mabwysiadu sydd mewn cyflwr annerbyniol ac yn eu mabwysiadu ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol. Ers i'r rhaglen ddechrau yn Rhondda Cynon Taf, mae 35 o ffyrdd wedi'u cwblhau er budd ein cymunedau.

Mae gwaith pwysig hefyd yn cael ei gynnal er mwyn asesu a phennu'r lleoliadau nesaf. Er enghraifft, mynychodd Arweinydd y Cyngor a'r Aelodau Lleol ymweliad safle yn Lôn y Weithfa Nwy, Aberaman, yn ddiweddar i weld cyflwr gwael y briffordd sydd heb ei mabwysiadu.   Bydd rhaglen y flwyddyn nesaf yn dechrau ym mis Ebrill 2026 - lle bydd cynlluniau addas yn cael eu cynnig er mwyn eu cynnwys yn rhan o'r rhaglen.

Yn 2021/22, cynhaliodd y Cyngor raglen beilot yn cynnwys chwe chynllun ffyrdd heb eu mabwysiadu ar gyfer ffyrdd preifat a oedd mewn cyflwr anfoddhaol ers amser maith. Nod y rhaglen beilot oedd mynd i'r afael â'r mater yma, sy'n creu trafferth i nifer o drigolion sy'n byw ar ffyrdd preifat. Cafodd gwelliannau eraill, o waith carthffosiaeth i oleuadau stryd, eu cwblhau ochr yn ochr â'r gwaith gosod wyneb newydd.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot, mae'r Cyngor yn parhau i nodi buddsoddiadau newydd mewn ffyrdd heb eu mabwysiadu yn ei raglen gyfalaf flynyddol - wrth chwilio am gyfleoedd ariannu ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Hyd yn hyn eleni (2025/26), mae pum cynllun wedi'u cwblhau ac mae disgwyl i dri chynllun arall ddechrau cyn hir. Mae rhestr lawn o gynlluniau wedi'u cwblhau/ar y gweill wedi'i chynnwys ar waelod y diweddariad yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Ym mhob un o'r pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi nodi nifer o ffyrdd heb eu mabwysiadau i'w gwella yn rhan o Raglen Gyfalaf bwrpasol, tra hefyd yn ceisio cyfleoedd ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau lleol wedi’u targedu. Maen nhw'n mynd i'r afael â phroblem sy'n cael ei hadrodd yn aml i ni – bod ffordd sy'n eiddo preifat wedi'i gadael heb ei chynnal a'i chadw ers amser maith. Mae'r adborth cyffredinol gan drigolion sy'n byw ar y strydoedd sydd wedi cael eu gwella gan y Cyngor wedi bod yn gadarnhaol iawn.

“Ychwanegodd rhaglen eleni wyth cynllun arall, ac mae pump ohonynt wedi’u cwblhau yn Nhrecynon, Godreaman, Ynys-hir, Hirwaun a Chwm-bach – gan ddod â’r cyfanswm i 35 ers i’n buddsoddiad ddechrau. Mae hyn ar wahân i'n rhaglen gynnal a chadw ffyrdd arferol, sydd wedi dyrannu £10.9 miliwn i gynnal a gwella ffyrdd a throedffyrdd yn 2025/26 yn unig.

“Mae swyddogion hefyd yn parhau i weithio’n galed y tu ôl i’r llenni i sefydlu Rhaglen Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu'r flwyddyn nesaf, a fydd yn dechrau o fis Ebrill 2026. Mae’r gwaith yn aml wedi’i lywio gan geisiadau gan Aelodau Etholedig Lleol a’r cyhoedd. Yr wythnos yma, llwyddais i ymuno â'r ymweliad safle diweddaraf i benderfynu ar addasrwydd lleoliad, ar Lôn y Gwaith Nwy yn Aberaman, yr ydyn ni ar hyn o bryd yn ystyried ei chynnwys yn y rhaglen nesaf sydd ar y gweill.”

Y Newyddion Diweddaraf am y Rhaglen Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu 

30 o gynlluniau wedi’u cwblhau – rhwng 2021/22 a 2024/25

  • Rhes y Glowyr, Llwydcoed
  • Maes Aberhonddu, Aberaman
  • Heol Penrhiw, Aberpennar
  • Teras Ochr y Bryn, Llwynypia
  • Teras Trafalgar, Ystrad
  • Clos y Beirdd, Rhydfelen
  • Belle Vue, Trecynon (wedi'i ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru)
  • Rhodfa Bryn-glas, Aberaman
  • Stryd yr Eglwys, Aberdâr
  • Teras Morgannwg, Gilfach-goch
  • Ffordd y Goedwig, Trenant
  • Llys Brynderwen, Glynrhedynog
  • Maes David, Llanharan
  • Clos Sant Pedr, Llanharan
  • Rhodfa Aron Sant, Llanharan
  • Cilgant Sant Iŵl, Llanharan
  • Cwrt Forest, Aberpennar
  • Stryd y Carw Coch, Trecynon
  • Maes Clive, Trecynon
  • Clos Glyncornel, Llwynypia
  • Stryd Cadwaladr, Aberpennar
  • Heol Gelliwion, Pontypridd
  • Yr Ucheldir, Tonyrefail (wedi'i ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru)
  • Bryn y Rhosyn Coch, Ystrad
  • Teras Horeb, Llwydcoed
  • Rhes y Lewis Arms, Penrhiw-fer
  • Rhodfa Richmond, Hirwaun
  • (oddi ar) Deras Bronallt, Abercwmboi
  • Clos y Berllan, Porth
  • Heol y Bwllfa, Cwmaman

Pum cynllun wedi'u cwblhau yn y flwyddyn gyfredol – 2025/26

  • Rhes yr Eglwys, Trecynon (wedi'i ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru)
  • (oddi ar) Heol Brynmair, Godreaman
  • Heol Graig , Ynys-hir
  • Y Pandy, Hirwaun
  • Maes Siôn, Cwm-bach

Tri chynllun y cytunwyd arnyn nhw i ddechrau'n fuan – 2025/26

  • Stryd Jenkin, Trehopcyn
  • Teras Troedpennar, Abercynon
  • Maes Kingsbury, Llwydcoed (wedi'i ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru)
Wedi ei bostio ar 27/01/2026