Bydd y Cyngor yn cynnig tocynnau bws rhatach unwaith yn rhagor dros gyfnod gwyliau chwe wythnos yr haf. Bydd cost pob taith unffordd sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf yn uchafswm o £1.50, gyda phob gweithredwr.
Dyma'r degfed achlysur unigol yn ystod y blynyddoedd diweddar y mae wedi bod yn bosibl i'r Cyngor gynnig menter teithiau bws rhatach ledled y Fwrdeistref Sirol; fe wnaeth hynny'n fwyaf diweddar yn ystod pythefnos gwyliau’r Pasg. Bydd y cynnig dros yr haf yn cael ei gynnal o ddydd Sadwrn, 18 Gorffennaf, hyd at ddiwedd dydd Llun 31 Awst.
Mae'r mentrau yma'n parhau i gael eu cynnal ar gyfnodau allweddol o'r flwyddyn, fel gwyliau ysgol a chyfnod y Nadolig, er mwyn cael yr effaith fwyaf – y nod yw lleihau rhwystrau economaidd sydd efallai'n atal pobl rhag dal y bws. Bydd trefniadau cynnig haf 2026 yr un fath â’r rhai blaenorol.
Fel yr arfer, bydd y cynnig yn berthnasol i bob taith bws sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffin Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a chost pob taith unffordd fydd uchafswm o £1.50. Mae pob gweithredwr bysiau lleol yn rhan o'r cynllun a bydd yn berthnasol o daith gynta'r dydd i'r un olaf. Fydd dim cyfyngiadau amser yn cael eu rhoi ar waith.
Bydd angen i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach sganio'r tocyn yn ôl yr arfer yn ystod y cyfnod. Fydd teithiau sy'n dechrau neu'n gorffen y tu allan i Rondda Cynon Taf ddim yn cael eu cynnwys yn y cynnig yma, a bydd raid talu'r ffi lawn arferol.
Cofiwch, mae prisiau tocynnau bws i blant a phobl ifainc 5 i 21 oed wedi'u cyfyngu i uchafswm o £1 am daith unffordd ar hyn o bryd, diolch i Lywodraeth Cymru. Bydd angen i bob person rhwng 16 a 21 oed ddangos ‘Fy Ngherdyn Teithio’ dilys i fanteisio ar y cynllun, tra bydd angen i blant dan 16 oed brynu tocyn bws unffordd i blentyn. Fydd cynllun lleol y Cyngor dros gyfnod haf 2026 ddim yn effeithio ar y cynnig yma i bobl ifainc.
Meddai’r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r fenter cynnig teithiau bws rhatach i drigolion yn ystod gwyliau'r ysgol a chyfnod y Nadolig, wedi bod yn boblogaidd yn flaenorol, ac rydw i'n falch bod modd i'r Cyngor gynnig menter werthfawr arall ar gyfer haf 2026. Bydd pob taith unffordd yn uchafswm o £1.50, drwy gydol chwe wythnos gwyliau'r haf – yn union fel y fenter a gafodd ei chynnal y llynedd.
“Dyma'r degfed achlysur unigol lle mae teithiau bws rhatach wedi cael eu cynnig ers haf 2023. Rhwng 18 Gorffennaf a 31 Awst, bydd pob taith ar fws yn Rhondda Cynon Taf yn £1.50 i bob trigolyn – sy'n arbediad sylweddol ar gyfer unigolion a theuluoedd. Mae gweithredwyr bysiau wedi rhoi gwybod bod cynnydd cyffredinol yn nifer y bobl sy'n defnyddio'u gwasanaethau yn ystod cyfnodau cynigion blaenorol, ac mae'r adborth a roddwyd i’r Cyngor wedi bod yn gadarnhaol iawn yn gyffredinol hefyd.
“Mae nifer o fuddion ynghlwm â helpu rhagor o bobl i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, ac annog hynny, yn rhan o'u teithiau dyddiol. O deithio ar y bws, mae nifer is o gerbydau ar y ffyrdd, yn sgil hyn mae llai o dagfeydd traffig, ac mae teithiau'n cymryd llai o amser, mae hefyd yn cyfrannu at ddiogelu'r amgylchedd. Mae costau byw'n uchel o hyd, rydw i'n gobeithio y bydd menter haf eleni'n gymorth i drigolion fwynhau gweld rhannau eraill o’r Fwrdeistref Sirol dros gyfnod y gwyliau."
Wedi ei bostio ar 06/07/2026