Skip to main content

Prosiectau ynni adnewyddadwy yn ategu diogeledd ynni yn Rhondda Cynon Taf

Renewable Energy

Dangosodd ymweliad diweddar â glannau llynnoedd Cwm Clydach ac Ysgol Nantgwyn sut mae modd defnyddio ynni glân wedi'i gynhyrchu'n lleol i leihau costau ynni a chadw mwy o'r buddion yn y gymuned leol.

Dangosodd yr ymweliad sut mae'r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol i ddatblygu prosiectau sy'n lleihau carbon, yn lleihau costau ynni, ac yn hybu cyfleusterau pwysig yn y gymuned.

Ar lannau llynnoedd Cwm Clydach, roedd aelodau Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian yn awyddus i arddangos cynllun micro-hydrodrydanol sydd wedi'i sefydlu sy'n helpu i bweru Lakeside Café, gyda dŵr yn cael ei dynnu o'r llyn uchaf. Mae'r trydan yn helpu i bweru'r caffi, sy'n helpu i gadw prisiau'n fforddiadwy.

Mae ynni hydrodrydanol yn defnyddio llif y dŵr i gynhyrchu trydan. Ar lannau llynnoedd Cwm Clydach, mae hyn yn golygu bod adnodd naturiol lleol eisoes yn cael ei ddefnyddio i greu ynni glân ar gyfer cyfleuster gwerthfawr yn y gymuned.

Mae gan Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol hefyd, gan gynnwys dyhead i'r clwb pêl-droed ddod yr un sero net cyntaf yng Nghymru ac roedd yr ymweliad wedi canolbwyntio ar sut y bydd modd datblygu'r dull lleol ymhellach. I ategu'r dull arloesol yma, mae'r Cyngor wedi llwyddo i sicrhau dau gam o gyllid grant drwy Raglen Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio ('WSRID') Llywodraeth Cymru

Teitl prosiect y Cyngor yn rhan o'r Rhaglen Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio yw “Gwneud y Mwyaf o Gynhyrchu Ynni Adnewyddadwy er Budd y Gymuned”.

Mae'r prosiect yn archwilio sut y bydd modd defnyddio trydan adnewyddadwy wedi'i gynhyrchu'n lleol yn y gymuned. Gallai hyn wedyn helpu i leihau costau ynni ar gyfer ysgolion ac adeiladau cymunedol.

Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys prosiect micro-hydro 170kW arall yng Nghwm Clydach, a fydd yn cael ei gysylltu trwy wifren breifat ag ysgol leol. Mae gwifren breifat yn gysylltiad trydan uniongyrchol, sy'n golygu y bydd modd cyflenwi ynni sydd wedi'i gynhyrchu'n lleol yn syth i'r ysgol. Gallai'r dull yma helpu'r ysgol i wneud gwell defnydd o ynni adnewyddadwy lleol, lleihau ei dibyniaeth ar y grid trydan ehangach a helpu i leihau costau cynnal dros amser.

Mae'r prosiect ehangach hefyd yn archwilio 'systemau ynni lleol clyfar', gan edrych ar sut y gall paneli solar, batris i storio'r ynni a rheolyddion clyfar weithio gyda'i gilydd. Yn syml, mae hyn yn golygu cynhyrchu trydan glân, ei storio pan nad oes ei angen ar unwaith, ac yna ei ddefnyddio ar yr amser iawn.

Mae'r prosiect hefyd yn archwilio sut y bydd modd rhannu unrhyw drydan dros ben er budd y gymuned ehangach, gan gynnwys trwy fodel 'Clwb Ynni'. Gallai hyn greu cyfleoedd i asedau cymunedol lleol, megis clybiau chwaraeon, cyfleusterau neu leoliadau addysg eraill, elwa o ynni glân sydd wedi'i gynhyrchu yn yr ardal.

I ddilyn, roedd ymweliad ag Ysgol Nantgwyn, ble mae system wresogi carbon isel eisoes yn cael ei gosod ar y safle yn rhan o'r prosiect ynni ehangach. Mae'r Cyngor wedi derbyn cyllid grant drwy Grant Gwres Carbon Isel Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ym mlwyddyn ariannol 2025/26 i osod pedwar pwmp gwres ffynhonnell aer yn y bloc cynradd.

Mae pympiau gwres ffynhonnell aer yn defnyddio trydan i gymryd gwres o'r aer yn yr awyr agored a'i ddefnyddio i wresogi adeiladau. Maen nhw'n opsiwn glanach na systemau gwresogi mwy traddodiadol ac yn helpu ysgolion i leihau eu hallyriadau carbon. I gyfrannu at y trydan ychwanegol ar gyfer y pympiau gwres ffynhonnell aer mae carfan Ynni a Lleihau Carbon y Cyngor wedi gosod paneli solar a batris i storio'r ynni yn Ysgol Nantgwyn. Gyda'i gilydd, mae'r mesurau yma'n helpu'r ysgol i symud tuag at wresogi heb garbon, gan wneud defnydd gwell o drydan adnewyddadwy wedi'i gynhyrchu ar y safle.

Mae gwaith Grant Gwres Carbon Isel Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn Ysgol Nantgwyn yn rhan o brosiect her ehangach y Rhaglen Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio, gan ddangos sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu'r Cyngor i lunio datrysiadau ynni cydgysylltiedig sy'n helpu'r gymuned ehangach.

Meddai'r Cynghorydd Ros Davis – Aelod o'r Cabinet ar faterion Adnoddau, Cwsmeriaid ac Ynni:

"Mae'r prosiect yma'n ymwneud â sicrhau bod manteision ynni adnewyddadwy yn cael eu teimlo'n lleol, gan ein hysgolion, ein grwpiau cymunedol a'r bobl sy'n defnyddio’r cyfleusterau yma bob dydd.

"Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio a Grant Gwres Carbon Isel Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, mae modd i ni ganfod ffyrdd ymarferol o gynhyrchu ynni glân yn lleol a defnyddio'r ynni hwnnw er budd pobl leol.

"Gallai hynny olygu helpu ysgolion i leihau eu dibyniaeth ar y grid, cynnig ynni glanach i adeiladau cymunedol, a chadw mwy o'r budd ariannol yn Rhondda Cynon Taf.

"Mae glannau llynnoedd Cwm Clydach eisoes yn enghraifft bwerus o ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned ar waith, ac mae'r gwaith yn Ysgol Nantgwyn yn dangos sut y gall ysgolion chwarae rhan bwysig wrth bontio i ddyfodol heb garbon.

"Dyw'r prosiectau yma ddim yn ymwneud â lleihau allyriadau carbon yn unig. Maen nhw'n ymwneud â chefnogi sefydliadau lleol a helpu ein cymunedau i ddod yn fwy cydnerth at y dyfodol."

Wedi ei bostio ar 22/07/2026