Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredu ar Lifogydd (2026-2028) wedi'i ddiweddaru i weithredu ochr yn ochr â'i Strategaeth Leol Ar Gyfer Rheoli Perygl Llifogydd bresennol. Mae'r cynllun, sydd newydd ei gymeradwyo, yn gosod blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod ac yn sicrhau bod gweithgarwch a buddsoddiad y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar y cymunedau sydd fwyaf mewn perygl.
Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Mae’n gyfrifol am ffynonellau llifogydd lleol o ddŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr daear. Mae ganddo ddyletswydd i ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli'r peryglon yma. Cafodd Strategaeth (2024-2030) a Chynllun Gweithredu (2024-2026) cyfredol y Cyngor eu cyhoeddi yn 2025.
Er bod cyfrifoldebau'r Cyngor wedi'u hamlinellu uchod, mae'n bwysig nodi mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod rheoli risg cyfrifol ar gyfer llifogydd prif afonydd, tra bod Dŵr Cymru yn gyfrifol am reoli'r risg o lifogydd carthffosydd.
Trafododd Aelodau'r Cabinet gyflwyniad ac adroddiad cysylltiedig gan swyddogion yn eu cyfarfod ddydd Llun, 13 Gorffennaf. Dilynodd hyn adroddiad ar adolygiad cynnydd dwy flynedd o'r Cynllun Gweithredu ar Lifogydd presennol (2024-2026) a gafodd ei drafod gan y Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Ffyniant a Gwasanaethau Rheng Flaen ym mis Mehefin 2026, sydd wedi llywio gwaith paratoi'r cynllun newydd.
Adolydu a diweddaru'r Cynllyn Gweithredu ar Lifogydd ar gyfer y cyfnod 2026-2028
Rhaid diweddaru Cynllun Gweithredu ar Lifogydd y Cyngor bob dwy flynedd, i adlewyrchu tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, dangos cyflawniad, ac ymateb i risg sy'n newid a phwysau'r hinsawdd. Nododd adroddiad y Cabinet ddydd Llun mai un o’r gwersi allweddol o’r cyfnod presennol (2024-2026) yw bod angen i’r cynllun diweddaraf fod yn hyblyg ac yn addasadwy, gan ganiatáu i’r Cyngor ymateb i lifogydd mewn amser real wrth barhau i ddatblygu camau gweithredu tymor hwy a chynlluniau lliniaru llifogydd.
Wrth adolygu'r cynllun presennol, canfuwyd hefyd bod modd i ymateb gweithredol i stormydd, a chyfnodau adfer dilynol, ddylanwadu'n fawr ar gyflymder a dilyniant gweithgarwch lliniaru llifogydd sydd wedi’i gynllunio ymlaen llaw – tra bod yn rhaid i’r hyn sydd wedi’i ddysgu ar ôl digwyddiad barhau i lywio'r rhaglen sydd ar y gweill, hyd yn oed o fewn cyfnod cynllun y cytunwyd arno. Mae casgliadau'r adolygiad yn cael eu trafod ymhellach yn yr adroddiad i’r Cabinet a gafodd ei gyflwyno ddydd Llun.
Mae gan y Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer 2026-2028 sawl blaenoriaeth, gan gynnwys ffocws ar gymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf; parhau i ddatblygu cynlluniau lliniaru llifogydd presennol; cryfhau parodrwydd ac ymgysylltiad cymunedol; a rheoli, monitro a chynnal a chadw asedau. Mae'r Cynllun hefyd â’r nod o sicrhau bod ei gamau gweithredu yn realistig ac yn cyd-fynd â'r adnoddau/cyllid sydd ar gael, a'u bod hefyd yn hyblyg er mwyn ymateb i stormydd a risgiau sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r Cynllun wedi'i seilio ar bum thema allweddol – blaenoriaethu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rhaglennu cynaliadwy y mae modd ei gyflawni, datblygiad cynlluniau hirdymor, hyblygrwydd ac ymatebolrwydd, a chryfhau cydnerthedd. Mae'n adeiladu'n uniongyrchol ar y Cynllun blaenorol, a bydd yn cael ei gyflawni ar draws graddfeydd cyflenwol – camau gweithredu ledled y Fwrdeistref Sirol, a chamau gweithredu sy’n benodol i leoliad mewn ardaloedd risg uchel.
Mae modd bwrw golwg ar y Cynllun Gweithredu ar Lifogydd llawn yn Atodiad i’r Adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Llun, a chaiff ei roi ar waith ar ôl i'r Cabinet ei gymeradwyo.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae Cynllun Gweithredu ar Lifogydd y Cyngor yn rhan o’i raglen dreigl o gyflawni o dan y Strategaeth Rheoli Risg Leol, ac mae’n cael ei ddiweddaru bob dwy flynedd i sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau i ymateb i’r risg gynyddol o lifogydd. Mae'r Cynllun newydd yn cwmpasu'r cyfnod o 2026 i 2028 ac mae bellach wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet – gyda blaenoriaethau allweddol i helpu'r cymunedau hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf, i fod mor barod â phosibl ar gyfer digwyddiadau llifogydd, ac i sicrhau bod modd cyflawni'r camau gweithredu a gaiff eu nodi.
“Agwedd bwysig ar ein gwaith fydd parhau â’r buddsoddiad sylweddol mewn prosiectau lliniaru llifogydd wedi’u targedu mewn cymunedau lleol. Rydyn ni wedi cyflawni ymhell dros 100 o gynlluniau ers Storm Dennis yn 2020, a phob blwyddyn ein nod yw sicrhau cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein rhaglen. Mae mwy na £4 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer 2026/27 drwy'r rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a'r Grant Gwaith ar Raddfa Fach, ac mae'r lefel gyffredinol o fuddsoddiad hyd yn oed yn uwch na hyn, gyda chefnogaeth gan gyllid cyfatebol y Cyngor o fewn ein Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd.
“Er ein bod ni'n gwybod bod llawer mwy i’w wneud o hyd, mae tystiolaeth yn awgrymu bod ein buddsoddiad yn gweithio – yn enwedig, yn ystod Storm Bert yn 2024, nodwyd bod ein hatgyweiriadau isadeiledd wedi lleihau’r risg o lifogydd i tua 2,200 eiddo. Cawson ni aeaf arbennig o wlyb yn ddiweddar hefyd, gan gynnwys tri rhybudd tywydd Ambr yn cael eu cyhoeddi am law yn hanner cyntaf mis Rhagfyr 2025 yn unig, lle na chafodd unrhyw achosion o lifogydd sylweddol eu hadrodd.
“Gan fabwysiadu’r Cynllun Gweithredu ar Lifogydd sydd newydd ei gymeradwyo, byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn lliniaru llifogydd yn faes blaenoriaeth allweddol, gan baratoi ar gyfer digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol gyda’r holl adnoddau sydd ar gael i ni. Mae hi hefyd yn bwysig nodi bod y gwaith datblygu, paratoi a chyflenwi yma yn digwydd drwy gydol y flwyddyn – gan gynnwys glanhau draeniau a gylïau yn rheolaidd drwy gydol misoedd cynhesach yr haf.”
Wedi ei bostio ar 23/07/2026