Mae cynlluniau i agor dau bad sblasio newydd ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, a Pharc Gelligaled, Ystrad, wedi cael eu cymeradwyo heddiw gan y Cabinet.
Mae buddsoddiad ychwanegol o £800,000 – yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £12 miliwn gan y Cyngor ar draws ystod o wasanaethau blaenoriaeth – wedi’i ddyrannu ar gyfer y ddau gynllun newydd cyffrous yma. Bydd y gwaith paratoi yn dechrau ar unwaith. Mae'r pad sblasio ym Mhontypridd yn parhau'n amodol ar gymeradwyaeth Is-bwyllgor Parc Coffa Ynysangharad.
Bydd y cyllid hefyd yn gyfle i wneud gwaith gwella i'r pad sblasio presennol ym Mharc Aberdâr. Yn sgil hynny, bydd yn cyd-fynd â'r ddau bad sblasio newydd.
O ganlyniad i'r ddau bad sblasio newydd a'r arlwy gwell ym Mharc Aberdâr, ynghyd â Lido Cenedlaethol rhagorol Cymru, Lido Ponty, a'r cyfleoedd nofio am ddim yn wyth pwll Hamdden am Oes y Cyngor, bydd yr arlwy chwarae dŵr a nofio awyr agored i deuluoedd yn fwy hael nag unrhyw le arall yng Nghymru.
Mae swyddogion o garfanau Hamdden a Pharciau'r Cyngor yn edrych ymlaen at rannu'r dyluniadau a'r cynlluniau cychwynnol gyda thrigolion yn y dyfodol agos. Byddan nhw'n ddau gyfleuster poblogaidd mewn lleoliadau awyr agored hardd.
Yn ogystal â hyn, caiff trafodaethau eu cynnal rhwng y Cyngor a Chyfeillion Parc Aberdâr ynghylch cyfleoedd i wella'r pad sblasio presennol yn Aberdâr a'i fodel gweithredu yn y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Bydd y gymeradwyaeth heddiw ar gyfer dau bad sblasio newydd yng Nghwm Rhondda a Thaf-elái, ynghyd â gwelliannau i’r arlwy presennol yng Nghwm Cynon, yn rhoi'r cyfle inni ddarparu’r hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl fydd yr arlwy chwarae dŵr a nofio awyr agored gorau yng Nghymru.
“Bydd y padiau sblasio newydd a gwell yn ychwanegu at yr arlwy presennol – y Lido Cenedlaethol Cymru hynod boblogaidd, Lido Ponty, sef yr unig un o’i fath yn y wlad, a’r cyfleoedd nofio am ddim i deuluoedd sy'n cael eu cynnig yn ystod gwyliau’r ysgol gan bob un o’n wyth pwll Hamdden am Oes.
“Bydd gwaith cyflwyno padiau sblasio hefyd yn digwydd ochr yn ochr â’n cynlluniau buddsoddi parhaus mewn mannau chwarae, parciau – gan gynnwys meysydd chwaraeon a chyfleusterau cysylltiedig – a pharciau gwledig.
“Mae pob un o’r cynlluniau yma hefyd wedi sicrhau buddsoddiad ychwanegol heddiw tuag at barhau i ddarparu mannau chwarae a pharciau sglefrio o ansawdd uchel, cyfleusterau chwaraeon eithriadol a mannau hamdden a chymdeithasol i deuluoedd a thrigolion eu mwynhau am ddim.
"Rydyn ni'n gwybod bod y cyhoedd yn cefnogi'n gryf atyniadau i deuluoedd a chyfleusterau hamdden awyr agored o ansawdd uchel, ac rydyn ni'n hyderus y bydd y padiau sblasio newydd a gwell yn hynod boblogaidd gyda thrigolion ac ymwelwyr.
“Edrychwn ymlaen at rannu ein cynlluniau a'n dyluniadau gyda'r gymuned wrth i ni fwrw ymlaen â'r prosiect cyffrous newydd yma i ddarparu dau bad sblasio newydd – a gwella cyfleusterau pad sblasio arall!"
Roedd y cynlluniau padiau sblasio wedi'u cytuno gan y Cabinet y bore yma yn rhan o becyn buddsoddi ehangach gwerth cyfanswm o £12 miliwn ar gyfer meysydd gwasanaeth blaenoriaeth a gwelliannau yn 2026/27. Mae hyn ar ben y rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol yma sy'n cael ei chyflawni ar hyn o bryd.
Mae'r cyllid wedi'i ddyrannu fel a ganlyn:
- Priffyrdd a Ffyrdd – £3.5 miliwn
- Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan – £3 miliwn
- Coridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon – £3 miliwn
- Gwaith Lliniaru Llifogydd – £250,000
- Ffyrdd heb eu mabwysiadu – £150,000
- Padiau Sblasio – £800,000
- Parciau a Mannau Gwyrdd – £500,000
- Parciau Gwledig – £150,000
- Mannau Chwarae – £100,000
- Gwelliannau Gofal y Strydoedd (biniau) – £25,000
- Cymorth ynni, trydydd sector – £60,000
- Datblygiadau sydd yn yr arfaeth yn rhan o'r Rhaglen Gyfalaf – £600,000
Wedi ei bostio ar 21/09/2026