Skip to main content

£86,000 i Wella Cyfleusterau Cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf

Mae pymtheg o grwpiau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf ar fin gwella adeiladau lleol, cyfleusterau chwaraeon a mannau cymunedol ar ôl derbyn dros £86,000 drwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU.

Mae cyfanswm o £86,170.50 wedi'i wobrwyo i sefydliadau ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gefnogi gwelliannau ymarferol i gyfleusterau sy'n cael eu defnyddio bob dydd gan drigolion, gwirfoddolwyr, clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol.

Mae prosiectau'n amrywio o adnewyddu ceginau a gwelliannau adeiladau i osodiadau ynni adnewyddadwy, uwchraddio cyfleusterau chwaraeon a phrosiectau tyfu cymunedol, ganhelpu sefydliadau lleol i wella'r mannau yng nghanol eu cymunedau.

Mae'r arian yn rhan o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU, sydd wedi darparu dyraniad o £1.5 miliwn ar gyfer Rhondda Cynon Taf.

Cafodd Gronfa Effaith Balchder Bro ei lansio ym mis Mai 2026 i gefnogi prosiectau tymor byr sy'n ymateb yn uniongyrchol i flaenoriaethau lleol, gyda ffocws benodol ar wella mannau cymunedol a chyhoeddus a chefnogi canol trefi a strydoedd mawr.

Bydd y 15 prosiect cymunedol llwyddiannus yn helpu i wella asedau lleol sy'n cael eu defnyddio'n aml ac yn sicrhau bod gan grwpiau'r cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw i barhau i ddarparu gweithgareddau, cyfleoedd a chymorth i drigolion.

Mae'r adeiladau, clybiau a mannau cymunedol yma'n chwarae rhan bwysig wrth ddod â phobl ynghyd, cefnogi lles a chreu ymdeimlad cryfach o falchder mewn ardaloedd lleol.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau: “Rydw i wrth fy modd bod 15 o grwpiau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf wedi derbyn cyllid drwy'r Gronfa Effaith Balchder Bro, gan eu helpu i wneud gwelliannau i’r cyfleusterau a’r mannau sydd mor bwysig i drigolion lleol.

“Mae ein grwpiau cymunedol, clybiau a sefydliadau gwirfoddol yn gwneud cyfraniad enfawr at fywyd yn Rhondda Cynon Taf. Maen nhw'n dod â phobl at ei gilydd, yn darparu gweithgareddau a chyfleoedd, yn cefnogi lles ac yn helpu i greu ymdeimlad cryf o falchder yn ein cymunedau.

“Bydd y cyllid yma'n cyflawni gwelliannau ymarferol y bydd pobl yn gallu eu gweld ac elwa ohonyn nhw, boed hynny’n gegin wedi’i hadnewyddu, gwelliannau i adeilad cymunedol, cyfleusterau chwaraeon gwell, mesurau ynni adnewyddadwy neu fannau tyfu cymunedol newydd.

“Er bod llawer o’r rhain yn brosiectau cyfalaf ar raddfa gymharol fach, gallan nhw wneud gwahaniaeth sylweddol i’r sefydliadau sy’n rhedeg y cyfleusterau yma a’r trigolion sy’n eu defnyddio bob dydd.

“Dyma’r union fath o welliannau gweladwy, sy’n canolbwyntio ar yr ardal leol, y bwriedir i'r cyllid Balchder Bro eu cefnogi, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiectau’n datblygu ledled y Fwrdeistref Sirol.”

Bydd gwaith ar y prosiectau yn digwydd dros y misoedd nesaf. Mae disgwyl i lawer gael eu cwblhau yn ystod haf a hydref 2026, tra bydd y gwaith ar eraill yn parhau tan ddechrau 2027. Rhaid i bob Prosiect sydd wedi'i gymeradwyo cael ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2027.

Bydd rhestr lawn o'r sefydliadau cymunedol sy'n derbyn cyllid yn cael ei gyhoeddi maes o law: Cymorth â Chyllido ac Adnoddau | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae cyllid Balchder Bro Llywodraeth y DU hefyd yn cefnogi gwaith ymgyrch ehangach  TrawsnewidRhCT y Cyngor, gan dynnu sylw at fuddsoddiad a gwelliannau gweladwy sy'n digwydd mewn cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf.

Mae TrawsnewidRhCT yn dangos sut mae buddsoddi mewn lleoedd, gwasanaethau a chyfleusterau lleol yn gwneud gwahaniaeth, ochr yn ochr â straeon y trigolion, grwpiau cymunedol, staff a phartneriaid sy'n helpu i gyflawni'r newid yna.

Rhagor yma: Trawsnewid RhCT - Buddsoddi yn heddiw a'r dyfodol

Wedi ei bostio ar 21/09/2026